Rhagnodi Cymdeithasol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 3:04, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Yn amlwg, un o rolau allweddol y grŵp gorchwyl a gorffen fydd defnyddio'r arferion da sy'n digwydd mewn rhai rhannau o Gymru a sicrhau bod yr arferion da hynny'n cael eu cyflwyno ledled Cymru. Mae mewnbwn gan y byrddau iechyd i'r grŵp gorchwyl a gorffen, ac rwy'n awyddus iawn ein bod yn bwrw ymlaen â'r angen am fframwaith cenedlaethol fel y gellir sicrhau cysondeb yn y cynnig presgripsiynu cymdeithasol i bobl yng Nghymru. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod hefyd, serch hynny, mai dim ond un rhan o'r hyn y mae angen inni ei wneud yw presgripsiynu cymdeithasol er mwyn sicrhau ymyrraeth gynnar i bobl sydd naill ai mewn trallod neu sydd ag anghenion cymorth ychwanegol. Ond mae'n amlwg fod ganddo ran bwysig iawn i'w chwarae.