Rhagnodi Cymdeithasol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Ceidwadwyr 3:03, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae gan bresgripsiynu cymdeithasol rôl unigryw i'w chwarae yn atal yn gyffredinol, yn enwedig mewn perthynas â gofal cymdeithasol. Gall cadw'r corff yn egnïol atal cwympiadau, a gall cadw'r meddwl yn egnïol ymladd camau cyntaf dementia. Rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd gan Betsi Cadwaladr a'r awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru i ddatblygu Gwnaed yng Ngogledd Cymru, sy'n helpu i gydlynu presgripsiynu cymdeithasol ar draws y gogledd. Sut y bydd eich Llywodraeth yn gweithio gyda Gwnaed yng Ngogledd Cymru a'r trydydd sector ar draws y rhanbarth er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd presgripsiynu cymdeithasol? Diolch.