Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Llafur 2:50, 9 Mehefin 2021

Diolch. Rŷm ni eisoes wedi rhoi arian tuag at ysbytai sydd angen mwy o help o ran ventilation. Felly, er enghraifft, yn ysbyty Llandochau, rŷm ni wedi buddsoddi £830,000 yn ychwanegol i'w helpu nhw gyda'u systemau nhw, ac, wrth gwrs, mae'n bwysig bod ni'n deall y pwysigrwydd yna o ventilation. Nawr, o ran y syniadau yma am UVC, dwi ddim yn ymwybodol ein bod ni wedi edrych mewn iddyn nhw mewn unrhyw fanylder eto, ond dwi'n hapus i fynd i ffwrdd ac i edrych ar hynny.

Mae hefyd yn bwysig, dwi'n meddwl, ein bod ni'n ystyried ysgolion. Nawr yw'r amser i ni sicrhau bod yr ysgolion yn agor eu ffenestri ac yn defnyddio'r cyfle yna. Bydd pethau'n wahanol iawn erbyn y gaeaf, a phwy â wŷr ba sefyllfa fyddwn ni ynddi ar yr adeg yna. Felly, mae'n rhywbeth, dwi'n meddwl, sy'n werth edrych mewn iddo o ran sut rŷm ni'n mynd i helpu'r sefyllfa, achos mae'n rhaid i ni ddysgu byw gyda'r feirws yma, fel rŷch chi'n dweud.