Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Ceidwadwyr 2:41, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi eich ateb. Rwy'n tybio nad yw'n fater o'r awdurdodau iechyd yn unig, ond gweithwyr iechyd proffesiynol eraill y mae angen i chi weithio gyda hwy yn ogystal, ac mae llawer o'r rhai y siaradais â hwy dros yr wythnosau diwethaf yn teimlo'n siomedig nad ydynt eto wedi cael y cyllid hwnnw wedi'i ddyrannu a'i gyhoeddi. Rwy'n derbyn y broses rydych wedi'i chrybwyll a'i hamlinellu, ond rwy'n credu mai eu pryder yw bod rhestrau aros yn parhau i dyfu wrth i amser fynd yn ei flaen. Fel y soniais wrthych ddoe, mae Cymru bellach yn edrych ar restr aros o un o bob tri yn aros dros flwyddyn, o'i gymharu ag un o bob 11 yn Lloegr, ac nid COVID-19 yn unig sydd ar fai yma: cyn y pandemig, roedd nifer y rhai a oedd yn aros dros flwyddyn am driniaeth yn deirgwaith y nifer ar gyfer Lloegr gyfan.

Felly, er fy mod yn gwerthfawrogi yr hyn a ddywedoch chi, Weinidog—rwy'n deall i raddau yr hyn a ddywedoch chi—fe fyddwch yn amlwg yn ymwybodol o ymrwymiadau eich rhagflaenydd hefyd y byddai'n cymryd tymor seneddol llawn i glirio'r ôl-groniad o gleifion. Fe sonioch chi yn eich ateb cyntaf i mi ei bod yn mynd i gymryd amser i wneud hyn, a chredaf ein bod i gyd yn cydnabod ac yn deall hynny. Felly, a allwch roi unrhyw amserlenni i ddarparwyr y GIG allu gwybod pryd y byddant yn cael y cymorth ariannol hwn, fel y gallant gynllunio ble i'w dargedu? Rwy'n gwerthfawrogi'r broses rydych wedi'i hamlinellu, ond a allwn gael dyddiadau ynghlwm wrth hynny o bosibl?