Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Ceidwadwyr 2:38, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, yn fy rôl newydd, yn gyntaf hoffwn ddweud llongyfarchiadau ar eich penodiad, ac rwy'n gobeithio gweithio'n adeiladol gyda chi, yn enwedig mewn perthynas â'r heriau sydd o'n blaenau, heriau y mae'n rhaid inni eu hwynebu gyda'n gilydd fel gwlad.

Mae fy nghyd-Aelodau a minnau wedi croesawu'r cyhoeddiad o £1 biliwn i helpu'r GIG i adfer o'r pandemig, a'r gyfran gyntaf o £100 miliwn a gyhoeddwyd ar gyfer technoleg a staff newydd. Mae sawl mis wedi mynd heibio bellach ers cyhoeddi fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad y GIG ac rydym yn dal i aros i weld ble y caiff y £900 miliwn arall ei wario. A allwch ddweud wrthym heddiw sut a ble y caiff yr arian hwn ei dargedu o fewn gofal sylfaenol ac eilaidd yng Nghymru?