Cymorth Seibiant i Ofalwyr Di-dâl

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Ceidwadwyr 2:31, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae dros 22,000 o ofalwyr ifanc rhwng 14 a 25 oed yng Nghymru. Gall y pwysau a wynebir gan y bobl ifanc hyn oherwydd eu dyletswyddau gofalu gael effaith negyddol ar eu hiechyd corfforol, eu hiechyd meddwl, eu haddysg a'u cyfleoedd cyflogaeth eu hunain. Mae'r pwysau ar y bobl ifanc hyn wedi gwaethygu yn sgil y pandemig—nid oes amheuaeth ynglŷn â hynny. Mae gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind yn waith gwerth chweil, ond mae hefyd yn anhygoel o anodd. Mae gwybod eich bod yn gallu dianc am seibiant yn gymhelliant mawr, yn enwedig lle rydych yn hyderus y bydd y person rydych yn gofalu amdano yn derbyn gofal yn eich absenoldeb. Fe sonioch chi am y £3 miliwn a ddarparwyd gennych i awdurdodau lleol yn gynharach yng Nghymru, ond hoffwn wybod sut y byddwch yn monitro hyn a'r cynnydd go iawn fod y £3 miliwn hwnnw'n mynd i gael ei wario at ddibenion priodol.