Cymorth Seibiant i Ofalwyr Di-dâl

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Llafur 2:28, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol seibiant a hoe i gynnal iechyd meddwl a lles gofalwyr di-dâl. Ddydd Llun, ar ddechrau'r Wythnos Gofalwyr genedlaethol, cyhoeddais £3 miliwn o gyllid newydd yn 2021-22 i gefnogi darpariaeth seibiant brys a datblygu cronfa er mwyn galluogi pobl i gael seibiant byr.