Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Ceidwadwyr 1:44, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf fi achub ar y cyfle hwn i'ch llongyfarch ar eich penodiad newydd, a dweud o'r cychwyn fy mod yn edrych ymlaen at weithio'n adeiladol gyda chi lle gallaf wneud hynny, i amddiffyn, cefnogi a thrawsnewid ein heconomi wrth inni gefnu ar y pandemig hwn?

Nawr, Weinidog, honnodd Llywodraeth Cymru ei bod hi wedi cynnig y pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr yn y DU i fusnesau drwy gydol pandemig COVID, ac er bod llawer o fusnesau wedi cael cymorth i oroesi, mae rhai busnesau, ac yn wir, rhai unigolion wedi bod ar eu colled yn gyfan gwbl. Mae rhai wedi teimlo eu bod wedi llithro drwy'r bylchau mewn pecynnau cymorth i fusnesau ac eraill yn teimlo bod awdurdodau lleol wedi defnyddio eu disgresiwn i beidio â darparu cymorth ariannol. Felly, o ystyried peth o'r dystiolaeth, ar ba sail y credwch fod Llywodraeth Cymru wedi darparu’r pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr yn y DU i fusnesau yng Nghymru? Yng ngoleuni effaith barhaus COVID-19 ar fusnesau a swyddi, beth fydd eich gweithred gyntaf yn eich swydd newydd i sicrhau adferiad cryf yn y farchnad lafur?