Dyfodol Economi Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur 1:42, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mae'r diwydiant dur yn parhau i fod yn gryfder gwirioneddol i Gymru, ac wrth gwrs, mae'n ddiwydiant strategol, felly mae’n bwysig i weithgynhyrchu ac adeiladu, er enghraifft. Hoffwn gael sicrwydd gan y Gweinidog, ac rwy’n siŵr y bydd yn barod i’w roi, y bydd cefnogi’r diwydiant dur yng Nghymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, yn ogystal â sicrhau bod gennym ddiwydiant dur cynaliadwy ac uwch-dechnoleg sy'n ychwanegu gwerth, a fydd yn cefnogi ein heconomi'n dda yn y dyfodol, a hefyd, y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnal trafodaethau agos â Llywodraeth y DU a Liberty Steel, gan eu bod yn gyflogwr pwysig yn fy etholaeth ac mae angen inni sicrhau bod ganddynt hwythau ddyfodol cryf hefyd.