Dyfodol Economi Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Ceidwadwyr 1:39, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Un o'r pethau sydd wedi bod yn ddinistriol yng Nghymru dros y misoedd diwethaf o ganlyniad i'r pandemig yw'r effaith ar gymunedau arfordirol, yn enwedig ein trefi glan môr. Rydym wedi gweld astudiaethau prifysgol sydd wedi dangos bod cymunedau fel Bae Colwyn, Tywyn a Bae Cinmel, a rhannau eraill o arfordir gogledd Cymru, o ran y trefi yno, ymhlith y rheini sydd wedi cael eu heffeithio waethaf gan COVID. Tybed pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i sefydlu cronfa trefi glan môr, yn benodol i liniaru effeithiau COVID ar y cymunedau hynny ac i’w helpu i wella’n economaidd ar ôl y pandemig.