Dyfodol Economi Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Llafur 1:41, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae economi gogledd-ddwyrain Cymru yn cael ei gyrru gan weithgynhyrchu. Ddydd Gwener, cefais y pleser a’r cyfle i gyfarfod ag eXcent UK a chlywed am eu cynlluniau ar gyfer twf sy’n seiliedig ar gyflogi peirianwyr lleol hyfedr ar gyflogau da. Roedd eu neges yn glir: gyda’r cymorth cywir, gall y sector gweithgynhyrchu uwch yng ngogledd Cymru gystadlu am waith yn fyd-eang a darparu swyddi ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Nawr, credaf y gall cyflogwyr fel hyn—