Adfer ar ôl COVID-19 ym Mlaenau Gwent

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 26 Mai 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 2:29, 26 Mai 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Byddwn yn defnyddio ein holl ymdrechion a'n hegni i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach, lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl na'i adael ar ôl. Bydd newid yn yr hinsawdd, swyddi gwyrdd ac adferiad o'r pandemig hir ac ofnadwy wrth wraidd ein rhaglen lywodraethu newydd.