Digwyddiadau Prawf Peilot

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 26 Mai 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Llafur 2:13, 26 Mai 2021

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae'n dda cael bod yn ôl, a gan ein bod yn sôn am Uwch Gynghrair Cymru, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn yn awr, fel llysgennad clwb mwyaf balch yng Nghymru, i gofnodi fy llongyfarchiadau i'r Nomadiaid am gadw'r teitl yng Nghymru.

Prif Weinidog, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y cynlluniau profi ac olrhain arbrofol sy'n cael eu cynnal ym mhum rhan y gogledd, ac a wnewch chi amlinellu manylion penodol y cymorth ychwanegol sy'n cael ei roi i'r rhai hynny sy'n hunanynysu.