Digwyddiadau Prawf Peilot

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 26 Mai 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 2:06, 26 Mai 2021

Llywydd, diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Mae cynnydd da yn cael ei wneud gyda’r rhaglen digwyddiadau peilot, ac mae pum digwyddiad wedi cael eu cynnal yn barod. Bydd yr wybodaeth sy’n dod i’r amlwg, er enghraifft o ran cynnal profion COVID ar gyfer digwyddiadau, yn cael ei defnyddio i baratoi ar gyfer yr adolygiad 21 diwrnod nesaf. Byddwn ni’n ystyried y posibilrwydd o ddatblygu dull fesul cam o ailagor digwyddiadau.