2. Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.10(ii) ynghylch eitemau i'w cymryd yn y Cyfarfod Llawn nesaf

– Senedd Cymru am 1:31 pm ar 19 Mai 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:31, 19 Mai 2021

Yr eitem nesaf o fusnes yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 12.10(ii), sef cynnig heb rybudd i gyflwyno eitemau yn y Cyfarfod Llawn nesaf, sef y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher 26 Mai. Y Trefnydd eto i wneud y cynnig yn ffurfiol. Lesley Griffiths

Cynnig

Cynnig bod y Senedd, o dan Reol Sefydlog 12.10(ii), yn cytuno i'r cynnig i'r eitemau canlynol gael eu cymryd yn y Cyfarfod Llawn nesaf:

Cwestiynau i’r Prif Weinidog;

Cynnig o dan Reol Sefydlog 9.1 i gytuno i argymhelliad y Prif Weinidog i'w Mawrhydi i berson gael ei benodi'n Gwnsler Cyffredinol;

Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2021;

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021;

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021;

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021;

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021;

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yna hefyd. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.