– Senedd Cymru am 3:54 pm ar 12 Mai 2021.
Rŷn ni nawr, felly, yn symud at ethol y Dirprwy Lywydd. Dwi eisiau atgoffa'r Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 6.12, mai dim ond os yw'r enwebiadau o grŵp gwleidyddol gwahanol i fi ac o grŵp sydd â rôl Weithredol y bydd yr enwebiadau yn ddilys ar gyfer Dirprwy Lywydd. Felly, rwy'n gwahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 6.6 ar gyfer swydd y Dirprwy Lywydd. A oes enwebiad? Joyce Watson.
Hoffwn enwebu David Rees.
Mae David Rees wedi ei enwebu. A oes gennym ni Aelod o grŵp gwleidyddol gwahanol i eilio'r enwebiad yna?
Rwy'n eilio David Rees, fel Aelod sydd â phrofiad helaeth iawn o fod yn cadeirio pwyllgorau yn y Senedd yma a hefyd sydd â rhinweddau personol i gyflawni'r swydd yn hynod effeithiol, dwi'n siŵr. Diolch.
A oes unrhyw enwebiadau eraill ar gyfer swydd y Dirprwy Lywydd?
[Anghlywadwy.]—rwy'n ceisio dod i mewn. Hefin David. Hoffwn enwebu Hefin David.
Rydych chi i mewn, Dawn Bowden; peidiwch â phoeni. Mae'r enwebiad wedi'i glywed.
A oes gennym ni Aelod o grŵp gwleidyddol gwahanol i eilio enwebiad Hefin David?
Hoffwn eilio enwebiad Hefin David.
Diolch yn fawr. A oes unrhyw enwebiadau eraill ar gyfer y Dirprwy Lywydd? Unrhyw un ar Zoom? Na. Dwi ddim yn meddwl bod yna fwy na'r ddau enwebiad yna. Gan fod gyda ni ddau enwebiad, dwi eisiau cymryd y cyfle i ofyn i'r ddau ymgeisydd i wneud cyfraniad byr yn y drefn y cawsant eu henwebu. David Rees yn gyntaf.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch yn gyntaf i'r rhai a enwebodd ac a eiliodd fy enwebiad i'r swydd? Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr ac yn derbyn yr enwebiad.
Mae'n debyg bod yr Aelodau yma—mae dwy ran o dair ohonoch yn gwybod pwy ydw i ac yn gwybod am fy mhrofiad. I'r traean arall, nid wyf yn eich adnabod, ond byddaf yn dod i'ch adnabod, ym mha ffordd bynnag, yn ystod y pum mlynedd nesaf, ac rwy'n siŵr y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd yn dda. Bydd y rhai sy'n fy adnabod yn deall fy mod wedi bod yn ffodus i fod yn Gadeirydd yn ystod y ddau dymor y bûm yn y Senedd, ac rwy'n gobeithio fy mod wedi dangos, yn ystod y cyfnod hwnnw, pa mor deg wyf fi a fy ngallu i sicrhau bod pob Aelod yn cael cyfle i graffu ar bwy bynnag sydd ger ein bron a sicrhau bod Llywodraethau'n cael eu dwyn i gyfrif a bod y bobl sy'n cyflawni dros Lywodraethau yn cael eu dwyn i gyfrif—oherwydd dyna yw ein rôl ni fel Senedd.
Ein rôl yw sicrhau bod y Llywodraeth yn dweud wrthym ac yn cael ei dwyn i gyfrif gennym am yr hyn a wnânt a'r polisïau y maent yn eu gweithredu. Yn y Senedd ddiwethaf, pan oeddwn yn cadeirio'r pwyllgor materon allanol, bydd y rhai a oedd yno'n deall inni wneud yn glir ein bod yn sicrhau bod y lle hwn, y Senedd, yn ganolog i bopeth y dylem fod yn ei wneud. Mae hynny'n gweithio gyda Seneddau eraill hefyd, ac mae hynny'n hollbwysig wrth inni symud ymlaen.
Pan oeddwn yn gofyn am gefnogaeth ar gyfer y swydd hon, gofynnwyd i mi, 'Pam ydych chi am wneud hyn?', 'Pam nad ydych chi eisiau bod yn Gadeirydd, fel rydych chi wedi bod, a bwrw ymlaen â pholisïau?' Ystyriais hynny'n ofalus a meddwl, 'Mewn gwirionedd, rydych chi'n llygad eich lle; mae'n dda iawn bod yn Gadeirydd a chraffu ar waith y Llywodraeth.' Ond wedyn, fe gofiais mewn gwirionedd fod y rôl hon yn caniatáu i mi sicrhau bod gan bob Cadeirydd, pob Aelod, allu i graffu'n effeithiol ar y Llywodraeth ac i ddatblygu'r gwaith craffu hwnnw. Rwyf am sicrhau y gallwn wneud hynny. Wrth inni symud ymlaen ac wrth inni fwrw ymlaen â'r diwygiadau a ddechreuwyd gennym yn y Senedd ddiwethaf a pharhau â hwy, rwyf am sicrhau ein bod yn gwella'r Senedd hon i wneud yn siŵr y gall graffu'n effeithiol ar y Llywodraeth, y gall sicrhau ein bod yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif pan fyddant yn gwneud pethau'n anghywir, ac yn canmol y Llywodraeth pan fyddant yn gwneud pethau'n iawn. Dyna yw rôl y Senedd. Rydym yn cynrychioli pobl a wnaeth ymddiried ynom ddydd Iau diwethaf i wneud yn union hynny, a dyna beth rwyf am sicrhau ein bod yn ei wneud.
Fel Dirprwy Lywydd, byddaf yn gweithio'n agos gyda'r Llywydd, gobeithio, ond hefyd yn bwrw ymlaen â'r agenda o ran sut y gallwn ymestyn yr amrywiaeth sydd gennym yma. Rwy'n falch iawn o weld bod gennym y wraig groenliw gyntaf yma, a'i thad oedd y dyn croenliw cyntaf yma, ond dylem ymestyn hynny. Ni ddylech fyth fod yr un olaf. Rydym eisiau rhagor. Ein gwaith ni yw creu mwy o amrywiaeth yn yr hyn sydd yma nawr, a'i ymestyn.
Ac edrych hefyd ar yr agenda ieuenctid. Daeth y Llywydd â'r Senedd Ieuenctid i mewn yn y Senedd ddiwethaf. Roeddem i gyd yn ei chymeradwyo, ond dim ond 40 y cant yn fy etholaeth i a gofrestrodd i bleidleisio, o blith pobl ifanc 16 ac 17 oed. Mae angen inni ymgysylltu, a chredaf mai rhan o rôl y Dirprwy Lywydd fydd gweithio gyda'r Llywydd i gael yr ymgysylltiad hwnnw, er mwyn datblygu'r lle hwn fel ein bod yn adeiladu Senedd am genedlaethau i ddod.
Bûm yn darllen y dogfennau gan Laura McAllister a 'Senedd sy'n Gweithio i Gymru'. Dyna'r rôl sydd gennym. Rhaid inni adeiladu Senedd sy'n gweithio i Gymru. A thynnodd pwyllgor Dawn Bowden ar ddiwygio'r Senedd sylw at yr un peth. Os nad oes ots gennych, rwyf am ddyfynnu o'i hadroddiad. Ei rhagair hi ydyw—felly, Dawn, eich geiriau chi yw'r rhain:
'Mae’r pwerau a ddatganolwyd gan Ddeddf Cymru 2017 dros drefniadau etholiadol a sefydliadol y Senedd yn cynnig cyfleoedd i ni adfywio cyfranogiad yn ein prosesau democrataidd, a sicrhau bod gan ein Senedd y capasiti y mae arni ei angen i wasanaethu pobl a chymunedau Cymru.'
Y bobl a'r cymunedau a'n hetholodd ddydd Iau diwethaf i'w cynrychioli. Dyna'r hyn rwyf am ei weld yn digwydd, ac fel Dirprwy Lywydd rwyf am weithio gyda'r Llywydd i wneud yn siŵr y gallwn gyflawni'r nod hwnnw, er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn falch o'r sefydliad hwn a'i fod yn cyflawni dros bawb yng Nghymru. Diolch.
Diolch, Llywydd, a llongyfarchiadau ar eich etholiad fel Llywydd.
Hoffwn fwrw ymlaen o ble y gorffennodd Dave Rees. Os edrychwn o gwmpas y Siambr hon, rwy'n credu bod y bobl yn y Siambr hon yn cynrychioli pobl Cymru'n well na'r hyn a welsom mewn etholiadau blaenorol o bosibl. Credaf mai'r etholiad cyffredinol hwn oedd yr etholiad gwirioneddol Gymreig cyntaf; dyma oedd yr etholiad cyntaf yng Nghymru lle gwelsom bleidlais i Brif Weinidog Cymru ac nid llygad ar yr hyn a oedd yn digwydd yn Llundain. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni gydnabod hynny a'n bod yn cydnabod ein mandad. Ond os ydych chi'n mynd i gael mandad, os oes gennych fandad, mae angen llais arnoch hefyd, ac mae'n rhaid clywed pob un o'r lleisiau yn y Siambr hon.
Fel y mae Dave Rees newydd ei ddweud, rwy'n credu'n gryf fod arnom angen Senedd sy'n gweithio i Gymru ac sy'n gweithio i'n pobl. Mae llawer yn adroddiad Laura McAllister sy'n haeddu trafodaeth, ond yr unig ffordd y cawn yr adroddiad hwnnw yn ôl ar yr agenda yw os cynhaliwn y drafodaeth honno ar draws y Siambr hon a'i fod yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n cynnwys pob grŵp ac yn ceisio dod o hyd i gonsensws lle bo'n bosibl. Credaf mai fi sydd yn y sefyllfa orau i ddod o hyd i'r consensws hwnnw a chredaf mai fi sydd yn y sefyllfa orau i ddod â phobl at ei gilydd ar draws y Siambr hon mewn ffordd na ddigwyddodd yn y pumed Senedd flaenorol.
Roedd gwendidau yn y pumed Senedd sydd wedi cael eu dileu'n rhannol gan yr etholwyr yn fy marn i, ond rwy'n dal i gredu bod angen newid rhai pethau. Rwyf am sefyll dros atebolrwydd, diwygio a thegwch. Atebolrwydd y Llywodraeth i weld bod Aelodau'r meinciau cefn—. Bûm yn Aelod o'r meinciau cefn am bum mlynedd, a credwch fi, rwy'n gwybod am y rhwystredigaethau y gallwch eu teimlo ar y meinciau cefn wrth geisio dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Rwyf am alluogi Aelodau'r meinciau cefn a'r gwrthbleidiau i gymryd rhan mewn ffordd nad ydynt erioed wedi gallu ei wneud o'r blaen yn y Siambr hon. Drwy weithio gyda'r Llywydd, credaf y gallwn gyflawni hynny. A buaswn yn dweud bod gennyf berthynas dda iawn gyda'r Llywydd. Cawsom sgwrs cyn yr etholiad hwn, fel y cafodd Dave Rees rwy'n siŵr, ac a bod yn deg, ni ddywedodd wrthym i bwy roedd hi'n bwriadu pleidleisio, sy'n beth da mae'n debyg, ond yr hyn y gallwn ei wneud gyda'n gilydd yw sicrhau bod diwygio'n digwydd. Rwy'n sefyll dros y diwygio hwnnw.
Rwyf am i Aelodau'r meinciau cefn gael llais, ac un o'r ffyrdd o wneud hynny yn fy marn i yw atebion byrrach gan Weinidogion, a'r ffordd orau o gael atebion byrrach gan Weinidogion yw cwestiynau byrrach gan Aelodau. Credaf y gallwn fynd ymhellach i lawr y papur trefn er mwyn i'r bobl ar y meinciau hyn—y meinciau hyn fan yma—gael eu clywed.
Ond y peth pwysicaf oll yw tegwch, ac er mwyn sicrhau tegwch, credaf fod yn rhaid inni wneud yn siŵr fod pob Aelod yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn dda, fod rhagor o'r Aelodau'n teimlo eu bod yn cael eu trin yn deg. Mae angen deialog i allu gwneud hynny. Un o'r pethau y byddwn yn ei wneud ar unwaith yw cael deialog gyda'r Aelodau hynny i drafod sut rydym am symud ymlaen. Rwyf fi wedi dod â llyfr gyda mi hefyd, 'Rheolau Sefydlog Senedd Cymru'. Credaf mai dyma'r rheolau y mae'n rhaid inni lynu atynt er mwyn llywodraethu'r Siambr hon yn effeithiol. Ond peidio â glynu at y rheolau os teimlwn nad ydynt yn gweithio. Dywed llawer yn y Siambr hon fod yna Reolau Sefydlog yn y llyfr hwn sy'n galw am eu newid, a chredaf mai dyna'r cam nesaf yn ein deialog.
Nid wyf yn chwilio am unrhyw swydd arall; dim ond am swydd y Dirprwy Lywydd rwy'n ymgeisio. Os caf fy ethol yn Ddirprwy Lywydd, byddaf yn camu'n ôl o'm gallu i siarad ar y meinciau cefn hyn. Credaf y bydd hynny'n lleihau fy llais yn y Siambr hon—rhywbeth y byddaf yn gweld ei golli'n fawr—ond dyna'r lleiaf y gallwch ei ddisgwyl gennyf er mwyn sicrhau fy mod yn ddiduedd.
Diolch i'r ddau ymgeisydd. Bydd y cyfarfod nawr yn cael ei atal dros dro i gynnal pleidlais gyfrinachol unwaith eto. Bydd y pleidleisio'n digwydd yn y Neuadd ac ni fydd y bleidlais yn cau tan fod pob Aelod sy'n bwriadu pleidleisio wedi gwneud hynny. Bydd yr Aelodau yn y Siambr unwaith eto'n pleidleisio'n gyntaf, ac yna Aelodau o swyddfeydd yr ail lawr, ac yn olaf, y trydydd llawr yn Nhŷ Hywel. Mae canllawiau pellach ar gyfer y broses hon wedi'u hamlinellu yn y ddogfen a ddosbarthwyd i Aelodau, a dwi eisiau atgoffa'r Aelodau i atgoffa eu hunain am y canllawiau hynny. Y clerc, eto, sy'n gyfrifol am oruchwylio'r pleidleisio a'r cyfrif. Ar ôl i gyfrif y bleidlais gyfrinachol orffen, bydd y gloch yn cael ei chanu am y tro olaf fel y gallwn ailymgynull yn y Siambr ac ar Zoom ar gyfer cyhoeddi'r canlyniad hynny. Rwyf i nawr, felly, yn atal y cyfarfod dros dro.
Croeso nôl, a dyma ganlyniad y bleidlais ar gyfer y Dirprwy Lywydd: David Rees 35 o bleidleisiau, a Hefin David 24 o bleidleisiau. Ac felly, dwi'n datgan, yn unol â Rheol Sefydlog 6.9, bod David Rees wedi cael ei ethol yn Ddirprwy Lywydd y Senedd yma am y cyfnod nesaf. [Cymeradwyaeth.] Llongyfarchiadau, David.