Y Gymraeg fel Iaith Gymunedol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 24 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 3:04, 24 Mawrth 2021

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am eich ymateb. Dwi'n gwybod eich bod chi'n ymwybodol iawn o faint mor galed mae'r mentrau iaith a grwpiau cymunedol eraill yn gweithio, fel Menter Cwm Gwendraeth Elli, a fel maen nhw wedi dioddef y llynedd trwy golli digwyddiadau sydd mor bwysig iddyn nhw—y festivals, y digwyddiadau cymunedol, sydd yn bwysig iawn iddyn nhw o ran creu cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg, ond hefyd sydd yn bwysig iawn o ran incwm y mudiadau, felly. Dwi'n falch i glywed am y buddsoddiad sydd wedi cael ei wneud, ond a ydy'r Gweinidog yn cytuno â fi y dylai Llywodraeth nesaf Cymru, pwy bynnag ydyn nhw, flaenoriaethu cefnogaeth i'r mudiadau cymunedol yma er mwyn sicrhau bod nhw'n gallu para nes maen nhw mewn sefyllfa lle maen nhw'n gallu codi mwy o arian eu hunain, achos mae'n bell o fod yn glir y byddan nhw'n gallu cynnal y math yna o ddigwyddiadau cymunedol yn ystod yr haf yma chwaith?