Iechyd Meddwl Da

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 24 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur 3:11, 24 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, un mater pwysig yw iechyd meddwl dynion a'u tuedd i beidio â siarad am eu teimladau a'u problemau, fel rydym wedi'i drafod droeon. Felly, mae'n bwysig cyrraedd dynion gyda'r negeseuon cywir drwy amrywiaeth o ddulliau a sefydliadau, a chael modelau rôl da wrth gwrs. O ystyried proffil a chyrhaeddiad pêl-droed proffesiynol, rwy'n credu bod rhan gref gan ein clybiau i'w chwarae, ac rwy'n falch iawn fod y tîm rwy'n ei gefnogi, Clwb Pêl-droed Casnewydd, wedi dangos arweiniad cadarn iawn yn y maes hwn. Ddwy flynedd yn ôl, hwy oedd yr unig glwb yng Nghymru—a dim ond y pedwerydd, mewn gwirionedd, yng Nghynghrair Pêl-droed Lloegr—i lofnodi'r Siarter Iechyd Meddwl ar gyfer Chwaraeon a Hamdden. Maent bellach yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau yn y ddinas i ddatblygu polisïau ar gyfer iechyd meddwl da. Mae ganddynt chwaraewyr fel llysgenhadon iechyd meddwl, gan gynnwys siarad am eu hanawsterau a'u profiadau eu hunain. Mae County in the Community yn sicrhau bod gweithgareddau cymunedol yn cynnwys negeseuon iechyd meddwl da. Mae ganddynt 'ddydd Mercher llesiant', lle mae'r cyfryngau cymdeithasol, a gwefan y clwb yn wir, yn cael eu defnyddio i gyfleu gwybodaeth a chyngor. Maent yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Credaf ei bod yn enghraifft dda i chwaraeon yng Nghymru yn gyffredinol, Weinidog, a tybed a wnewch chi ymuno â mi, pan fydd amgylchiadau'n caniatáu, i ymweld â'r clwb a thrafod y mentrau hyn a sut y gellir adeiladu arnynt ar gyfer y dyfodol.