– Senedd Cymru am ar 12 Rhagfyr 2018.
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar Ddiwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol, a galwaf ar Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip i wneud y cynnig—Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae hawliau dynol yn berthnasol i bob un ohonom bob dydd. Mae dydd Llun 10 Rhagfyr, Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol, yn nodi 70 mlynedd ers i gynulliad cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fabwysiadu'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol. Roedd hon yn ddogfen hanfodol i ddiogelu rhag ailadrodd yr erchyllterau a gyflawnwyd yn yr ail ryfel byd. Roedd yn datgan yr hawliau diymwad y mae gan bawb hawl gynhenid iddynt fel bodau dynol, waeth beth fo'u hil, lliw, crefydd, rhyw, iaith, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, genedigaeth neu statws arall.
Mae ymagwedd arbennig tuag at hawliau dynol wedi'i phlethu i mewn i setliad datganoli Cymru. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru weithredu'n unol â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Adlewyrchir hyn yn ein cyfraith ddomestig gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998, yn ogystal â'i rhwymedigaethau rhyngwladol, gan gynnwys saith confensiwn y Cenhedloedd Unedig a lofnodwyd ac a gadarnhawyd gan y DU fel y wladwriaeth sy'n barti. Mewn geiriau eraill, mae hawliau dynol yn rhan o'n DNA. Mae'r egwyddorion a gynhwysir yn y datganiad o hawliau dynol yr un mor berthnasol heddiw ag yr oeddent yn 1948.
Rydym yn byw mewn cyfnod anodd ac ansicr, lle mae cyni'n effeithio'n anghymesur ar y rhai sydd leiaf abl i'w oddef, gan effeithio'n uniongyrchol ar eu hawliau dynol. Mae unigolion a theuluoedd yn colli eu cartrefi ac yn mynd heb fwyd. Gwyddom yn rhy dda fod lefelau tlodi ledled Cymru a gweddill y DU yn rhy uchel. Ar ôl ei ymweliad â'r DU, dywedodd yr Athro Alston, rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol, mai Llywodraeth y DU a'i pholisïau cyni a diwygio lles sy'n gyfrifol am hyn. Dywedodd mai
Ychydig iawn o fannau a geir mewn llywodraeth lle mae'r datblygiadau hyn yn fwy amlwg nag yn y system budd-daliadau. Rydym yn gweld y wladwriaeth les a gyflwynwyd ym Mhrydain wedi'r rhyfel yn diflannu'n raddol tu ôl i wefan ac algorithm. Yn ei lle, mae gwladwriaeth les ddigidol yn dod i'r amlwg. Bydd yr effaith ar hawliau dynol y bobl fwyaf agored i niwed yn y DU yn aruthrol.
Soniodd adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'Effaith diwygio lles a rhaglenni o fudd-dâl i waith', a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, am effaith drychinebus bosibl diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU ar bobl â nodweddion gwarchodedig. Roedd yn rhagweld y bydd bron i hanner holl aelwydydd Cymru ar eu colled yn sgil y diwygiadau ac mai pobl ar incwm isel, gan gynnwys menywod, grwpiau ethnig penodol ac aelwydydd â phlant fydd yn teimlo'r effaith fwyaf. Canfu adroddiad 'A Yw Cymru'n Decach? (2018)' y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd fod y grwpiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn llithro hyd yn oed ymhellach ar ôl gweddill y gymdeithas.
Yn fyd-eang, mae llawer o werthoedd ac egwyddorion sylfaenol hawliau dynol yn cael eu tanseilio, ac mewn rhai gwledydd, cânt eu hanwybyddu'n llwyr. Mae naratifau ymrannol wedi tyfu'n bla ar ein trafodaeth wleidyddol, ac wedi eu sbarduno gan bobl sydd i'w gweld yn benderfynol o greu tensiynau rhwng cymunedau. Mae cyfryngau cymdeithasol, yn arbennig, yn llawer rhy aml yn hafan i hiliaeth a senoffobia, gydag unigolion yn defnyddio'r cysyniad o ryddid barn fel amddiffyniad, gyda disgwyliad y gallant ysgrifennu beth bynnag a fynnant heb ganlyniadau.
Mae gan Gymru hanes hir o drugaredd, goddefgarwch a pharch a chroeso i eraill. Gwn fod gwlad sy'n rhoi gwerth ar amrywiaeth ac sy'n galluogi ein cymunedau amrywiol i fod yn gyfartal yn gryfach o ganlyniad.
Y rhai mwyaf agored i niwed sydd bob amser yn colli eu hawliau yn gyntaf—pobl dlawd, menywod, lleiafrifoedd hiliol ac ethnig, pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsryweddol + yn ogystal â phlant, rhieni sengl a phobl anabl. Mae'n gwbl annerbyniol, yma yn y DU yn yr unfed ganrif ar hugain, fod un o bob pump o fenywod yn dioddef trais rhywiol, fod un o bob pedair menyw yn dioddef cam-drin domestig a bod dwy fenyw yr wythnos yn marw o ganlyniad i drais dan law eu partneriaid agos iawn neu gyn-bartneriaid. Mae gennym hefyd fylchau cyflog ystyfnig a pharhaus rhwng y rhywiau yng Nghymru, a rhy ychydig o lawer o fenywod mewn swyddi uwch.
Mae ein hymagwedd groestoriadol tuag at gam 2 o'r adolygiad o gydraddoldeb rhywiol yn cynnwys gweithio ar draws gwahanol feysydd cydraddoldeb, gan gynnwys hil, anabledd ac oedran, gyda'r nod o sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu gadael ar ôl. Rydym yn cydnabod bod menywod a merched sy'n profi sawl ffurf ar wahaniaethu a mathau croestoriadol o wahaniaethu yn aml yn cael eu heithrio rhag cynnydd. Cyn hir, bydd gennym fap clir ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru.
Gan droi at anabledd, gadewch imi ddechrau drwy dynnu sylw at y bwlch cyflogaeth anabledd. Yng Nghymru ar hyn o bryd, 45 y cant yn unig o bobl anabl o oedran gweithio sydd mewn gwaith, o gymharu ag 80 y cant o bobl nad ydynt yn anabl. Un enghraifft yn unig yw hon, er ei bod yn un bwysig iawn, o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl. Mae ein fframwaith newydd, 'Gweithredu ar Anabledd: Hawl i Fyw'n Annibynnol', yn seiliedig ar y model cymdeithasol o anabledd, ac yn nodi sut y byddwn yn mynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau allweddol a nodwyd gan bobl anabl eu hunain. Mae'r rhain yn cynnwys trafnidiaeth, cyflogaeth, tai a mynediad i adeiladau a lleoedd. Mae'n rhaid i bobl anabl gael mynediad at yr un cyfleoedd â phawb arall.
Mae hil yn fater hollbwysig arall. Mae 75 y cant o droseddau casineb yng Nghymru yn ymwneud â hil neu grefydd—mae hynny'n adlewyrchu miloedd o enghreifftiau ffiaidd o gam-drin geiriol, corfforol ac ar-lein tuag at bobl ddiniwed bob dydd oherwydd eu hymddangosiad, a gwyddom na roddir gwybod am lawer o ddigwyddiadau o'r fath. Nid yw ein grwpiau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cynrychioli'n ddigonol yn ein cyfryngau, mewn gwleidyddiaeth na'n gweithleoedd. Rydym yn gweithio'n galed i newid hyn. Mae ein prosiectau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn hanfodol i sicrhau bod Cymru'n wlad gynhwysol i bawb ac yn groesawgar, fel y gwyddom y gall fod ac fel y dylai fod.
Mae Sipsiwn, Roma a Theithwyr ymhlith y bobl sy'n cael eu hymyleiddio fwyaf yn ein cymdeithas. Maent yn wynebu gwahaniaethu, anghydraddoldeb a diffyg cyfleoedd, ac mae hynny'n hyrwyddo'r safbwyntiau negyddol a'r camsyniadau sy'n llenwi'r naratif o'u cwmpas. Dangosodd gwaith ymchwil diweddar gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod 44 y cant o'r cyhoedd yn gyffredinol yn cyfaddef yn agored eu bod yn elyniaethus tuag at y grwpiau hyn. Fel enghraifft o hyn, roedd sylwadau o dan erthygl ar-lein ddiweddar ar Wales Online am angladd cymuned Sipsiwn a Theithwyr yng Nghaerdydd yn cynnwys galwadau i symud y trigolion i Auschwitz a'u llosgi allan o'u gwersyll. Postiodd un unigolyn ddarlun o filwr Natsïaidd gyda'r pennawd, 'Ewch i nôl y nwy.' Parhaodd y sylwadau hyn, nad ydynt yn achos unigryw, yn weladwy am sawl diwrnod, gan achosi cryn drallod i'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Mae'n rhaid inni ddweud yn glir: ni allwn ac ni fyddwn yn goddef unrhyw weithredoedd neu ddatganiadau o'r fath sy'n ceisio annog safbwyntiau mor eithafol a gwrthun.
A wnaiff arweinydd y tŷ dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Araith wych hyd yn hyn, ond a wnaiff hi ystyried y ffaith nad yw arweinydd UKIP yng Nghymru, Neil Hamilton, yn bresennol yn y Siambr hon i wrando ar eich rhyddid i lefaru, eto i gyd roedd yn teimlo ei bod yn briodol iddo rannu llwyfan gyda Tommy Robinson yr wythnos diwethaf yn enw rhyddid i lefaru? A fyddai hi'n mynegi siom ynglŷn â hynny?
Wel, yn wir—pwynt da.
Mae'n rhaid inni fod yn gryf yn wyneb eithafwyr. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid inni barhau i adeiladu cymdeithas gref ac amrywiol, lle y gwerthfawrogir pobl o bob hil, ffydd a lliw am eu cymeriad a'u gweithredoedd. Mae pob un ohonom yn awyddus i helpu i greu gwlad heddychlon a chytûn, lle y gall ein plant a chenedlaethau'r dyfodol ffynnu.
Mae 'Ffyniant i Bawb' yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru fel lle bywiog, croesawgar a chydlynus i fyw ac i weithio—gwlad y gallwn fod yn falch ohoni, sy'n edrych tuag allan a lle mae pobl o bob cefndir yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi. Mae'r weledigaeth hon yn sail i'n cynllun newydd, 'Cenedl Noddfa—Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches', sy'n nodi ymrwymiadau trawslywodraethol i ddarparu cyfle cyfartal, lleihau gwahaniaethu a hybu cysylltiadau da ar gyfer pobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru.
Dangosodd pob awdurdod lleol yng Nghymru arweinyddiaeth wrth ymateb i argyfwng y ffoaduriaid o Syria drwy gytuno i adsefydlu teuluoedd yn eu hardaloedd. Ymwelodd dirprwyaeth o'r Cenhedloedd Unedig â ni ar ôl y cyfnod cyntaf o adsefydlu, a chreodd y croeso a roddwyd gan gymunedau Cymru gryn argraff arnynt. Mae unigolion mewn cymunedau yng Nghymru wedi arwain y ffordd drwy ddod at ei gilydd a ffurfio sefydliadau nawdd cymunedol, sydd wedi gallu croesawu teuluoedd o ffoaduriaid heb fawr iawn o gymorth gan y Llywodraeth. Un enghraifft wych o'r awydd i gyfrannu at y cymunedau sydd wedi eu croesawu oedd ethol ffoadur o Syria i'r Senedd Ieuenctid yr wythnos diwethaf o fy etholaeth i. Rwy'n falch iawn o hynny, Ddirprwy Lywydd. Mae hyn yn dangos y gall arweinyddiaeth ac ymrwymiad i gydraddoldeb ymddangos yn unrhyw le, ond mae profiadau'r rheini sy'n ymfudo i Gymru yn parhau i fod yn gymysg iawn, hyd yn oed pan fyddant wedi bod yma ers blynyddoedd neu ddegawdau lawer.
Yn gynharach eleni, datgelodd sgandal drasig Windrush enghreifftiau o unigolion yn cael eu hanghofio wrth i bolisïau gael eu datblygu. Mae miloedd o bobl a dinasyddion Prydain wedi wynebu statws mewnfudo ansicr, er gwaethaf sicrwydd blaenorol eu bod yn rhan o Brydain. Cafodd rhai eu hallgludo ac mae eraill wedi methu cael gofal iechyd, wedi colli eu swyddi neu wedi methu dychwelyd i Brydain. Maent yn dal i ymchwilio i hyd a lled y sgandal yn llawn, ond roedd dicter y cyhoedd, gan gynnwys yng Nghymru, yn dangos ymrwymiad y cyhoedd i degwch. Hoffwn obeithio na fyddai polisi o'r fath byth yn cael ei ddatblygu yng Nghymru, ond mae'n rhaid inni fod yn wyliadwrus a chryfhau ein hymdrechion i sicrhau bod pobl yn y canol wrth inni lunio ein polisïau.
Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn perthynas â'r ansicrwydd sy'n effeithio ar ein cymdeithas o ganlyniad i Brexit. Nid oes unrhyw un yn teimlo hyn gymaint â'r 80,000 o ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru, a'r nifer lai o ddinasyddion Cymru sy'n byw yn yr UE ar hyn o bryd. Mae gennym gyfrifoldeb i'r aelodau hyn o'n cymuned. Mae angen inni ddefnyddio pob arf sydd gennym dros y misoedd nesaf i sicrhau bod yr unigolion hyn yn hyderus ein bod yn gweld gwerth eu cyfraniad i'n heconomi a'n cymuned, eu bod yn cael cymorth i wneud cais am statws preswylydd sefydlog ac nad ydynt yn wynebu rhwystrau ychwanegol yn y dyfodol.
Y mis diwethaf, roedd hi'n ugain mlynedd ers cyflwyno Deddf Hawliau Dynol 1998. I nodi hyn, gofynnwyd i'r Cwnsler Cyffredinol roi darlith goffa Eileen Illtyd ar hawliau dynol 2018, 'Deddf Hawliau Dynol i Gymru?' Yn ei ddarlith, y cefais y fraint o'i mynychu, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol ei bod yn bosibl iawn na all dull tameidiog o ddiogelu hawliau dynol sicrhau'r un manteision ag y gallai dull deinamig a chynhwysfawr ei gynnig.
Hoffwn ailadrodd ein bod yn ymwybodol iawn o'r cwestiynau hyn, ac wedi ymrwymo i edrych ar ffyrdd o gryfhau hawliau ac amddiffyniadau yng Nghymru.
Bydd yr Aelodau hefyd yn cofio ein dadl yn ddiweddar ar yr opsiwn i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru. Ers hynny, rwyf wedi bod yn myfyrio ar y materion hyn, gan ystyried galwadau gan amryw o randdeiliaid ar Lywodraeth Cymru i roi camau ar waith i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol yng nghyd-destun Brexit, ac i wneud mwy i ymgorffori cytuniadau rhyngwladol yng nghyfraith Cymru. Yn fy nhrafodaethau diweddar â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, ymhlith eraill, rwyf wedi dweud yn glir nad yw'n fater o ba un a fyddwn yn gwneud rhywbeth, ond yn hytrach, pa gamau a fydd fwyaf effeithiol.
O ganlyniad, rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried effaith bosibl ystod o gamau, gan gynnwys deddfwriaeth newydd i roi'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn Neddf Cydraddoldeb 2010 mewn grym, a chryfhau rheoliadau. Cwestiwn hollbwysig yw sut y byddai camau o'r fath yn cysylltu â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd y gwaith hwn wedi'i gysylltu â cham 2 yr adolygiad o gydraddoldeb rhwng y rhywiau. I'w symud ymlaen, byddwn yn cynnal seminar yn gynnar yn y flwyddyn newydd i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, a chwmpasu’r gwaith y bydd ei angen yn fwy manwl.
Yn wyneb newid heb ei debyg o'r blaen, mae'n rhaid inni fod, ac fe fyddwn, yn rhagweithiol, yn uchelgeisiol, ac yn flaengar, a pharhau i wneud popeth o fewn ein pwerau i sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn lle modern a chynhwysol i fyw ac i weithio ynddo. Ein nod clir, Ddirprwy Lywydd, yw atgyfnerthu ac adeiladu ar yr hawliau hyn ar gyfer y dyfodol. Diolch.
Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a galwaf ar Leanne Wood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y twf mewn mudiadau gwleidyddol sy'n gwrthod egwyddorion y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, a galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei gwaith i fynd i'r afael ag eithafiaeth yn cynnwys mesurau rhagweithiol i atal eithafiaeth asgell dde.
Diolch. Rwy'n cynnig y gwelliant.
Wrth i ni ddathlu 70 mlynedd ers mabwysiadu'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol, mae'n bwysig inni ystyried y bygythiadau i hawliau dynol sy'n bodoli ar hyn o bryd. Felly, mae ein gwelliant yn amserol oherwydd, fel y dywedwyd eisoes y prynhawn yma, y penwythnos hwn, gwelsom enghraifft arall o sut y mae mudiadau gwleidyddol yn ceisio gwrthdroi'r amddiffyniadau hawliau dynol sydd gennym. Roedd Aelod o'r sefydliad hwn yn siaradwr mewn gorymdaith o blaid Yaxley-Lennon yn Llundain, a defnyddiodd y llwyfan hwnnw i adleisio damcaniaeth gwrth-Semitaidd fod Arlywydd Ffrainc yn asiant i bŵer tramor. Roedd hon yn orymdaith lle roedd y rhai a'i mynychodd yn gwthio rhaff crogwr ac yn galw am grogi Prif Weinidog y DU mewn ymateb i araith yr Aelod. Roedd hyn yn digwydd, wrth gwrs, mewn hinsawdd lle y llofruddiwyd AS mewn hanes diweddar am ymgyrchu dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Rwyf am i bobl yn y Siambr hon gymharu a chyferbynnu'r hyn sydd wedi digwydd i drefnwyr yr orymdaith honno, a meddwl am beth fyddai'r goblygiadau wedi bod pe bai gorymdaith o bobl Asiaidd Prydeinig wedi bod yn bygwth lladd ASau. Mae'n debygol y byddai gorymdaith o'r fath wedi arwain at arestio nifer o bobl a byddai'r siaradwyr yn wynebu euogfarnau am droseddau o dan ddeddfwriaeth gwrthderfysgaeth a dedfrydau hir o garchar. Neu beth pe bai hon yn orymdaith gyda phobl yn protestio am ddiffyg gweithredu ar newid yn yr hinsawdd? A fyddai gennym sawl aelod o'r heddlu cudd yn ysbïo ar y rhai a'i mynychodd, gyda thrwydded i ddechrau perthynas rywiol dwyllodrus fel rhan o'r gwaith hwnnw? Yn lle hynny, mae'r prif drefnwyr yn debygol o barhau i gael cyflogau uchel gan yr unigolion cyfoethog sydd wedi bod yn ariannu eu mudiadau gwleidyddol a mwynhau'r rhyddid y byddent yn ei wadu i eraill.
Cymharwch a chyferbynnwch y ffordd y mae'r wladwriaeth Brydeinig wedi trin mudiadau gwleidyddol asgell dde a mudiadau gwleidyddol eraill, ac fe welwch pam fod angen ein gwelliant yn enw Plaid Cymru y prynhawn yma. Enghraifft arall, wrth gwrs, yw'r ffordd y mae deddfwriaeth gwrthderfysgaeth wedi cael ei defnyddio i ddedfrydu protestwyr yn Stansted a geisiodd rwystro pobl rhag cael eu hallgludo i wynebu artaith a marwolaeth fel rhan o bolisi mewnfudo'r DU fel y mae. Mae hyn oll yn digwydd yng nghyd-destun Brexit, wrth gwrs; gan fod Brexit ei hun yn brosiect gwleidyddol a ariannir gan y bobl gyfoethog sy'n ceisio gwanhau'r amddiffyniadau sydd ar gael i weithwyr, rheoliadau amgylcheddol a rôl Llys Cyfiawnder Ewrop yn dwyn Llywodraethau San Steffan i gyfrif pan fyddant yn tramgwyddo yn erbyn hawliau dynol.
Bydd Llywodraeth yr Alban yn sicrhau bod gan gyfraith yr Alban fframwaith ar gyfer diogelu hawliau dynol wedi'i gynnwys ym mhob agwedd ar y gyfraith, ac mae fy nghyd-Aelod, Siân Gwenllian, wedi cael ymateb calonogol gan Lywodraeth Cymru wrth alw am rywbeth tebyg yma. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar eich syniadau yn y maes hwnnw.
Mae'n 70 mlynedd ers mabwysiadu'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol ac mae'n bwysig inni adnewyddu ein hymdrechion yn awr i warchod a gwella'r hawliau hynny rhag y grymoedd gwleidyddol sydd am eu diddymu.
Diolch. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod Llywodraeth y DU yn cydnabod bod yr holl hawliau a nodir yn natganiad y Cenhedloedd Unedig o hawliau dynol yn un mor bwysig â'i gilydd.
Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi'u cymryd o ran rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, amddiffyn rhyddid crefydd neu gred, rhoi terfyn ar anghydraddoldeb a gwahaniaethu, a hyrwyddo democratiaeth.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd Diwrnod Hawliau Dynol ddeuddydd yn ôl yn nodi 70 mlynedd, fel y clywsom, ers y datganiad cyffredinol o hawliau dynol, dogfen arwyddocaol a oedd yn datgan yr hawliau diymwad y mae gan bawb hawl cynhenid iddynt fel bodau dynol, fel y clywsom gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y dechrau, waeth beth fo'n hil, lliw, crefydd, rhyw, iaith, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, genedigaeth neu statws arall. Mewn gwirionedd, hon yw'r ddogfen sydd wedi'i chyfieithu fwyaf yn y byd, ac mae ar gael mewn mwy na 500 o ieithoedd.
Fel y dywedodd cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar yr achlysur,
Rwyf am... ddweud rhywbeth am un o sylfaenwyr y Cenhedloedd Unedig—Winston Churchill... prif gymhelliad Churchill', meddai, dros gefnogi'r syniad o gyfundrefnu ein hawliau fel dinasyddion oedd ei awydd i sicrhau na fyddem byth eto'n tystio i unrhyw beth tebyg i'r enghraifft wrthun o gamddefnyddio grym gan y wladwriaeth Natsïaidd.
Aeth ymlaen i ddweud mai gweledigaeth Churchill oedd cymdeithas a ddylai gael byw yn rhydd er mwyn iddi allu cyflawni.
Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru, er ein bod yn ymwybodol fod man cyfarfod rhwng yr asgell dde eithafol a'r asgell chwith eithafol.
Rwy'n cynnig gwelliant 2, gan nodi bod Llywodraeth y DU yn cydnabod bod pob hawl a nodir yn natganiad y Cenhedloedd Unedig o hawliau dynol yr un mor bwysig â'i gilydd, a chroesawu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i flaenoriaethu'r gwaith o fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, amddiffyn rhyddid crefyddol neu ryddid o ran cred, rhoi diwedd ar anghydraddoldeb a gwahaniaethu, a hyrwyddo democratiaeth. Ym mis Medi 2017, daeth Prif Weinidog y DU ag arweinwyr y byd at ei gilydd yng Nghynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i lansio galwad i weithredu er mwyn rhoi diwedd ar gaethwasiaeth fodern—un o heriau hawliau dynol mawr ein hoes. Mae Llywodraeth y DU wedi dyblu gwariant ar gymorth mewn perthynas â'r broblem er mwyn mynd i'r afael â'r achosion craidd, wedi cryfhau'r gallu i orfodi'r gyfraith mewn gwledydd tramwy, ac wedi darparu arian ar gyfer cefnogi dioddefwyr.
Flwyddyn wedi hynny, galwad Prif Weinidog y DU i weithredu, mae dros 80 o wledydd wedi rhoi cymeradwyaeth gadarnhaol. Yn fforwm gogledd Cymru ar gaethwasiaeth fodern ym mis Hydref, a drefnwyd gan Hafan o Oleuni ac a fynychwyd gan gydgysylltydd atal caethwasiaeth Cymru, clywsom fod caethwasiaeth fodern yn digwydd ym myd busnes, y byd amaeth, lletygarwch, gweithgarwch troseddol a chamfanteisio rhywiol. Mae cyn-Gomisiynydd Atal Caethwasiaeth Annibynnol y DU, Kevin Hyland OBE, bellach yn cynghori cyrff rhyngwladol, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, ar fasnachu mewn pobl a chaethwasiaeth fodern.
Mae rhyddid crefyddol neu ryddid o ran cred yn bwysig gan fod ffydd yn arwain bywydau bob dydd mwy nag 80 y cant o boblogaeth y byd, a chan fod hybu goddefgarwch a pharch i bawb yn helpu i adeiladu cymdeithasau cynhwysol sy'n fwy sefydlog, yn fwy ffyniannus, ac sy'n gallu gwrthsefyll eithafiaeth yn well. Mae rhyddid unigolion a sefydliadau i drafod, dadlau a beirniadu, neu i ddwyn llywodraethau i gyfrif, yn elfen hanfodol o gymdeithas lwyddiannus.
Dylai pawb allu byw gydag urddas, yn rhydd rhag pob math o drais neu wahaniaethu, waeth beth fo'u cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth o ran rhywedd. Penododd Swyddfa Dramor a Chymanwlad y DU ei chennad arbennig cyntaf ar gydraddoldeb rhywiol y llynedd, ac mae'n gweithio i hybu cydraddoldeb rhywiol ar lefel ryngwladol, gan gynnwys camau i dargedu trais rhywiol yn ystod gwrthdaro a mynediad anghyfartal at addysg. Y mis diwethaf, cynhaliodd y DU gynhadledd hanesyddol ar gyfer seneddwyr benywaidd o bedwar ban byd. Mae Llywodraeth y DU yn gweithio gyda phartneriaid o'r un anian yma a thramor i hyrwyddo democratiaeth fel y warant hirdymor orau o sefydlogrwydd a ffyniant, a chynaliasant gyfarfod penaethiaid Llywodraethau’r Gymanwlad ym mis Ebrill er mwyn hybu gwerth cyfrannol hawliau dynol, democratiaeth a chynhwysiant sydd wedi'u cynnwys yn siarter y Gymanwlad.
Mae pobl anabl ledled y byd yn dioddef gwahaniaethu. Mae'n rhaid inni ddiogelu eu hawliau a thrawsnewid eu bywydau. Ym mis Gorffennaf, cyd-gynhaliodd Llywodraeth y DU ei huwchgynhadledd anableddau fyd-eang gyntaf erioed i annog gweithredu rhyngwladol. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet yn bersonol, gan iddi siarad yno, roeddwn innau'n falch o siarad hefyd, fel llywydd anrhydeddus Cymdeithas Gogledd Cymru ar gyfer Integreiddio Amlddiwylliannol, yn nathliad blynyddol y Diwrnod Integreiddio Rhyngwladol yn y Deml Heddwch ar 9 Hydref. Ac rwyf bellach yn edrych ymlaen at fynychu lansiad Tref Noddfa Wrecsam ar 1 Chwefror, gyda cherddoriaeth gan gôr o ffoaduriaid o Syria, i gydnabod Wrecsam fel man lle mae pobl yn falch o gynnig noddfa i bobl sy'n dianc rhag trais ac erledigaeth.
Nid yw ymadael â'r UE yn effeithio ar ein hawliau o dan y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, gan ei fod yn deillio o Gyngor Ewrop, nid yr UE. Mae Llywodraeth y DU wedi datgan yn glir fod y DU yn ymrwymedig i'w haelodaeth o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol ac y byddai tynnu'n ôl ohono'n mynd yn groes i'w gweledigaeth o Brydain fyd-eang. Mae'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol—
A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
—yn Brydeinig ac yn Geidwadol o ran ei darddiad. Fe'i hyrwyddwyd gan Winston Churchill ac fe'i drafftiwyd gan y cyn-Ysgrifennydd Cartref Ceidwadol, David Maxwell Fyfe. Wel, 70 mlynedd ers ei fabwysiadu, mae datganiad y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol yn parhau i fod yn ddatganiad grymus o obaith a dyhead i bob un ohonom. Mae cryn dipyn o gynnydd wedi'i wneud ers 1948, ond mae'n fyd peryglus ac mae llawer i'w wneud o hyd.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, am alw arnaf i siarad yn y ddadl bwysig iawn hon. Fel y mae siaradwyr eraill wedi'i ddweud, mae 70 mlynedd wedi bod ers i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fabwysiadu'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol ym Mharis ar 10 Rhagfyr 1948. Ac fe'i pasiwyd drwy 48 pleidlais i ddim, gydag wyth aelod yn ymatal, ac fe'i galwyd gan Eleanor Roosevelt, cadeirydd pwyllgor drafftio'r datganiad, yn Fagna Carta ar gyfer y ddynolryw. A chredaf ei bod yn eithaf arwyddocaol, mewn gwirionedd, mai un o'r rhai a ymatalodd rhag pleidleisio oedd Saudi Arabia, a phan fyddwch yn meddwl am hawliau dynol mewn perthynas â Saudi Arabia yn ddiweddar gyda mater y newyddiadurwyr a hawliau menywod yn Saudi Arabia, credaf ei bod yn eithaf arwyddocaol eu bod wedi ymatal.
Rwy'n falch iawn fod arweinydd y tŷ wedi dweud wrthym yn ei hanerchiad fod hawliau dynol yn rhan o'n DNA, gan y credaf fod tuedd i feddwl am hawliau dynol fel rhywbeth sydd efallai braidd yn bell oddi wrth ein bywydau bob dydd, rhywbeth sydd braidd yn uchel-ael efallai, rhywbeth sy'n ymwneud â siarteri a chynadleddau a phobl yn eistedd o gwmpas mewn ystafelloedd pwysig ac yn trafod hawliau dynol, ond credaf mai'r hyn sy'n rhaid inni ei wneud fel gwleidyddion yw pwysleisio'r ffaith eu bod yn bendant yn bethau sy'n effeithio ar bob un ohonom yn ein bywydau bob dydd. A bydd rhywbeth fel enghraifft syfrdanol o gam-drin hawliau dynol yn pwysleisio'r pwynt hwnnw i ni, rhywbeth fel sgandal Windrush, wrth gwrs, fel y nodwyd eisoes. Roedd hynny'n rhywbeth, yn y marn i, a ddangosodd i bob un ohonom sut roedd hyn wedi bod yn digwydd—. Roedd yr enghraifft hon o gam-drin hawliau dynol wedi bod yn digwydd yn gyfrinachol, yn dawel, heb i neb wybod, ac roedd y pethau ofnadwy hyn yn digwydd i bobl a oedd wedi cyfrannu cymaint at ein gwlad. Rydych yn ymwybodol o hawliau dynol ar achlysuron felly, ond yn amlwg, mae'n effeithio arnom, ar bob un ohonom, yn ein bywydau bob dydd.
Roeddwn yn falch iawn o fynychu cyfarfod nos Lun a drefnwyd gan Helen Mary Jones, i baratoi ar gyfer adnewyddu'r grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol yma yn y Cynulliad. Ac rwy'n siŵr y bydd Helen Mary'n siarad am hynny yn y man os caiff ei galw. Ond roeddwn o'r farn fod honno'n fenter dda iawn, ac rwy'n falch iawn o roi fy nghefnogaeth iddi. A chawsom siaradwr yno o Just Fair, a gododd bwyntiau pwysig iawn, yn fy marn i. Ac un o'r pwyntiau a gododd oedd ei bod hi mor bwysig sicrhau bod hawliau dynol yn rhan o'n profiad bob dydd.
Ac wrth gwrs, mae arweinydd y tŷ eisoes wedi crybwyll grŵp arall sy'n agos iawn at fy nghalon—y grŵp Sipsiwn/Roma/Teithwyr, sy'n wynebu gwahaniaethu ar sail ddyddiol. Os ydych yn perthyn i gymuned Sipsiwn/Roma/Teithwyr, a'ch bod yn mynd allan ac yn byw eich diwrnod arferol, rwy'n credu y byddwch yn dioddef gwahaniaethu ar sail ddyddiol. Credaf fod honno'n un o'r ychydig ffyrdd parchus sydd ar ôl o gam-drin. A chredaf fod ceisio mynd i'r afael â hynny'n dasg fawr i'r Llywodraeth, a gwn fod arweinydd y tŷ yn gwneud hynny. Ond credaf fod yn rhaid inni wneud ymdrech enfawr.
Ond beth bynnag, credaf ein bod wedi gwneud cynnydd yng Nghymru. Rydym wedi gwneud cynnydd ar hawliau plant, gyda Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, ac mae wedi bod yn bwysig iawn, yn fy marn i, yr ymgynghori a gawsom gyda phlant ar nifer o wahanol faterion. Rwy'n arbennig o falch ein bod wedi ymgynghori â phlant ynglŷn â Brexit, i ofyn iddynt sut roeddent yn teimlo ynglŷn â Brexit, er fy mod yn credu, wrth gwrs, fod rhai gwleidyddion wedi ein gwawdio am wneud hynny. Ond credaf fod hynny mor bwysig gan ei bod mor bwysig i amddiffyniadau cydraddoldeb a hawliau dynol gael eu diogelu a'u gwella yn ystod proses Brexit a thu hwnt i hynny. Felly, gwn y bydd Llywodraeth Cymru yn wyliadwrus ynglŷn â cholli unrhyw hawliau dynol a fydd yn digwydd yn ystod y broses. Credaf ei bod hefyd yn bwysig iawn, gan na chafodd pobl ifanc gyfle i gymryd rhan yn y refferendwm—nid oedd hawl gan rai 16 a 17 mlwydd oed i bleidleisio—ac er ein bod ni wedi pleidleisio, wrth gwrs, effeithiwyd ar eu dyfodol hwy yn fwy na'r un ohonom. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn, am y rheswm hwnnw, ein bod wedi ymgynghori â phlant. A gwyddom fod plant yn bryderus iawn am hawliau dynol. Credaf fod Cymru Ifanc wedi cynnal ymgynghoriad gyda phlant, a ddangosodd fod myfyrwyr ysgolion uwchradd yn pryderu am yr amgylchedd, cyfleoedd i astudio dramor, hawliau dynol ac iechyd a lles, ac wrth gwrs, mae pobl ifanc wedi mynegi eu rhwystredigaeth yn yr ymgynghoriad hwnnw na chawsant lais mewn pleidlais a fydd yn effeithio ar eu dyfodol.
Mae llawer mwy i'w wneud, ac rwy'n cytuno ag argymhelliad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn eu hadroddiad 'A yw Cymru'n Decach?' y dylai Llywodraeth Cymru weithredu’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, a fyddai'n dod â thlodi a chydraddoldeb ynghyd i helpu i fynd i'r afael ag un o'r ffactorau mwyaf sy'n ysgogi anghydraddoldeb yn ein gwlad—tlodi. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ond mae'n amlwg yn bwysig iawn inni edrych ar sut y mae hynny'n cyd-fynd â Deddf cenedlaethau'r dyfodol.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn ac yn ddiolchgar i chi am ganiatáu i mi wneud cyfraniad byr i'r ddadl hon heddiw. Fel y mae eraill wedi'i ddweud eisoes, mae hwn, heb os, yn gyfnod pan fo hawliau dynol o dan fygythiad. Duw a ŵyr beth a ddaw o lanastr proses Brexit, a sut y bydd hynny'n effeithio ar ein hawliau a'n gallu yng Nghymru i fanteisio ar yr amddiffyniadau Ewropeaidd hynny. Ond rydym yn gwybod, Ddirprwy Lywydd, bod y ddadl ar Brexit wedi gwneud i rai unigolion deimlo bod ganddynt hawl i fynegi rhai agweddau arbennig o wenwynig, ac roedd y cynnydd ofnadwy a welsom mewn troseddau casineb yma yng Nghymru yn syth ar ôl y bleidlais honno yn dyst i hynny. Ac rydym yn gwybod bod yna elfennau yn y wasg Brydeinig sydd wedi tanseilio'r cysyniad o hawliau dynol, sydd wedi gwneud iddo ymddangos fel rhywbeth amherthnasol, yn rhywbeth gorddethol, a rhywbeth, fel y dywedodd Julie Morgan, sy'n amherthnasol i'n bywydau bob dydd. Ac yn y grŵp trawsbleidiol, y cyfeiriaf ato eto, roedd yn galonogol iawn clywed ein siaradwr yn dweud nad yw hawliau dynol yn ymwneud â bod ar asgell chwith neu asgell dde gwleidyddiaeth, fel y mae'n cael ei bortreadu'n rhy aml mewn rhannau o'r wasg Brydeinig. Mae'n ymwneud â hawliau sylfaenol a ddylai fod ar gael i bawb ohonom.
Roeddwn yn falch iawn—ac rwy'n ddiolchgar i Julie Morgan am ei grybwyll—o gael fy ngwahodd yn y cyd-destun hwn i helpu i ailsefydlu'r grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol yn y lle hwn. Gofynnwyd i mi wneud hynny gan yr Athro Cyswllt Simon Hoffman o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n arbenigwr yn y maes, a gwn y bydd nifer yn y Siambr hon yn gwybod amdano. Mae Simon yn cynnal grŵp rhanddeiliaid hawliau dynol Cymru, grŵp o dros 20 o sefydliadau, sy'n edrych ar y mater o wahanol safbwyntiau, ac yn sicrhau cyfoeth o arbenigedd posibl y credaf y gallwn ei ddefnyddio. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i Julie am fod yno ddydd Llun, ac rwyf hefyd yn ddiolchgar i Jayne Bryant a Darren Millar, sydd wedi ymuno â'r grŵp, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau eraill yn teimlo y gallant wneud hynny wrth i'n gwaith fynd rhagddo. Fel y dywedodd Julie Morgan, cawsom gyfarfod ddydd Llun, yma yn y lle hwn, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol. Cytunasom i weithio gyda'n gilydd tuag at greu deddfwriaeth hawliau dynol newydd gynhwysfawr, deddfwriaeth a wnaed yng Nghymru, i ymgorffori confensiynau priodol y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru.
Rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn, fel y soniodd arweinydd y tŷ, am y ffordd gadarnhaol iawn y mae hi wedi ymateb i fy nghynnig i ymgorffori'r confensiwn anabledd. Ac rwy'n siŵr y bydd yn cael trafodaethau tebyg gyda Darren Millar ynghylch ei gynnig deddfwriaethol ar hawliau pobl hŷn. Ac roedd yn ddiddorol iawn darllen sylwadau'r Cwnsler Cyffredinol, y mae arweinydd y tŷ wedi cyfeirio atynt heddiw. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am y modd y mae arweinydd y tŷ wedi mynd i'r afael â'r mater hwn yn y misoedd ers i mi ddychwelyd yma, a gobeithiaf yn fawr iawn—ac rwy'n siŵr o'r hyn y mae wedi'i ddweud heddiw—y bydd Llywodraeth Cymru, ni waeth beth fydd y newidiadau i rolau unigolion penodol, yn parhau i fabwysiadu'r ymagwedd gadarnhaol, hynod amhleidiol hon. Mae'r grŵp trawsbleidiol yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru wrth i ni barhau i fwrw ymlaen â'r agenda hon yma yng Nghymru, gan gefnogi, a herio, lle bo hynny'n briodol. Ac mae'r grŵp hwnnw, fel rwyf eisoes wedi'i ddweud, yn darparu cronfa ragorol o arbenigedd, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidogion sy'n gyfrifol eisiau manteisio arni.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y gellir gwrthdroi Brexit, a gobeithiaf y gellir cadw'r amddiffyniadau hawliau dynol rydym wedi'u cael drwy fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, a'r mynediad at lysoedd Ewropeaidd sy'n deillio o'r hawliau hynny. Ond pa un a ellir cyflawni hynny ai peidio, hyderaf y gallwn weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y confensiynau rhyngwladol allweddol yn cael eu hymgorffori'n ystyrlon yng nghyfraith Cymru. Diolch yn fawr iawn i chi.
Fel y mae pawb wedi'i ddweud, mae'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol i fyny yno gyda'r Beibl—mae'n un o'r dogfennau sydd wedi'u cyfieithu a'u cyhoeddi fwyaf yn y byd, ac mae ar gael mewn mwy na 500 o ieithoedd. Cafodd gefnogaeth dorfol ymhell cyn y rhyngrwyd. Cafodd ei ddrafftio gan gynrychiolwyr o bob cwr o'r byd, gyda phrofiadau cyfreithiol a diwylliannol gwahanol, ond roeddent wedi rhannu trawma rhyfel. Fel y GIG, y mae'n rhannu pen-blwydd ag ef, mae'r datganiad yn deillio o benderfyniad i adeiladu byd gwell a thecach. Ond nid oedd yn ddyhead uchel-ael. Roedd yn sail i ffurfio trefn fyd-eang ar ôl y rhyfel a oedd yn seiliedig ar reolau. Ac yn union fel y mae grymoedd cenedlaetholaidd ac awdurdodaidd atgyfodol wedi bod yn ymosod yn gynyddol ar y bensaernïaeth wleidyddol ryngwladol honno, mae'r un peth yn wir am hawliau dynol. Gwaith seneddwyr yw eu hamddiffyn, nid rhannu'r llwyfan â bwlis yr asgell dde, a fyddai'n cael gwared ar hawliau pobl eraill. Ac mae'n rhaid i ni fynd gam ymhellach. Oherwydd, mewn ymateb i heriau mawr y ganrif hon—mewnfudo torfol, newid hinsawdd, ac anghydraddoldebau enfawr o ran cyfoeth—rhaid cryfhau hawliau dynol, nid eu gwanhau, a'u hymestyn, nid eu llesteirio.
Mae hynny'n fy arwain, yn anochel, at Brexit. Mae Brexit, wrth gwrs, yn creu goblygiadau pwysig i hawliau dynol yn y wlad hon. Cawn weld beth fydd yn digwydd heno yn San Steffan. Mae Llywodraeth y DU wedi deddfu i ymgorffori deddfau'r UE sy'n ymwneud â diogelwch rhag gwahaniaethu a hawliau gweithwyr, ond dewisodd gael gwared ar siarter hawliau sylfaenol yr UE, sy'n gwarantu diogelwch mewn cyflogaeth, cydraddoldeb a phreifatrwydd. Beth y gallai hynny ei olygu i fenywod beichiog, er enghraifft, i rieni sy'n gweithio a phobl ag anableddau? Nid oes gennyf amheuaeth yr ymosodir ar ein hawliau cyfredol gan frigâd arferol y tâp coch a'r penboethiaid dros ddadreoleiddio ar yr asgell dde.
Ac un pwynt terfynol: roedd Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol hefyd yn nodi diwedd ymgyrch 16 diwrnod yn erbyn trais ar sail rhywedd. Rwyf wedi bod yn ymgyrchu gyda Sefydliad y Merched—yma ac yn Aberystwyth, ac ar draws y rhanbarth—dros y pythefnos, yn gwthio agenda parch i bob cymuned. Ac mae ymgyrch y Rhuban Gwyn wedi bod yn gofyn i bobl addo peidio â chyflawni, goddef na chadw'n dawel am drais yn erbyn menywod. Ond bydd y neges honno'n cael ei thanseilio os na fydd yr heddlu'n llwyddo i weithredu'n briodol pan fydd pobl yn rhoi gwybod. Felly, roeddwn ychydig yn siomedig yr wythnos diwethaf i ddeall, yn ôl yr Arolygiaethau Cyfiawnder Troseddol, fod yna 8,400 o droseddau nad ydynt wedi cael eu cofnodi'n briodol gan heddlu Dyfed-Powys a heddlu Gwent. A hoffwn ganolbwyntio ar heddlu Dyfed-Powys gan ei fod yn cwmpasu'r rhan fwyaf o fy rhanbarth. O'r 3,300 o droseddau yr adroddwyd amdanynt na chânt eu cofnodi bob blwyddyn, mae 1,500 ohonynt yn droseddau treisgar, mae 70 ohonynt yn droseddau rhyw, mae 7 ohonynt yn achosion lle mae'r dioddefwyr yn agored i niwed ac mae 66 ohonynt yn achosion o gam-drin domestig—bron i chwarter yr holl droseddau yr adroddwyd yn eu cylch. Mewn llawer o achosion, ni fydd dioddefwyr ond yn gallu manteisio ar wasanaethau cymorth os caiff trosedd ei chofnodi. Felly, mae hwn yn fethiant difrifol, ac rwy'n disgwyl i arweinwyr yr heddlu a'r comisiynwyr heddlu a throseddu afael ynddi a rhoi'r gorau i wneud cam â dioddefwyr camdriniaeth. Yn y wlad hon, mae ganddynt hawl dynol sylfaenol i gael eu hamddiffyn. Diolch.
Hoffwn dreulio ychydig funudau yn siarad am y cyfle gwych sydd gennym yng Nghymru i barhau i arwain y ffordd o ran ein hagwedd tuag at hawliau dynol. Roedd yn fraint fawr cael eistedd ar y pwyllgor a fu'n ystyried y Mesur hawliau plant a phobl ifanc yn ôl yn 2011. Mae'n rhaid i mi ddweud bod honno'n garreg filltir, rwy'n credu, i'r Cynulliad Cenedlaethol o ran dangos ei ymrwymiad i'r agenda hawliau, sydd wedi bod mor bwysig yn gosod plant yn y canol yn ein dull sy'n seiliedig ar hawliau o lunio polisi a gwneud penderfyniadau, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru, ond wrth gwrs, gan awdurdodau cyhoeddus eraill hefyd.
Fel y dywedodd Helen Mary Jones yn gwbl briodol, bûm yn ddigon ffodus i ennill pleidlais yma yn y Cynulliad Cenedlaethol i geisio cyflwyno deddfwriaeth arall y credaf y bydd yn arloesol fel y gallwn barhau i ddatblygu'r dull sy'n seiliedig ar hawliau ym maes hawliau pobl hŷn. Mae Cymru wedi arwain mewn perthynas â hawliau pobl hŷn. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i benodi comisiynydd pobl hŷn, ac rwy'n credu ei bod yn deg dweud ein bod yn cael ein gweld yn fyd-eang fel lle gwych i bobl dyfu'n hen. Ond mae gennym gyfle, rwy'n credu, i ymgorffori'r hawliau hynny yng nghyfraith Cymru. Rydym eisoes wedi'u hymgorffori, wrth gwrs, yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2006, a bydd arweinydd y tŷ, wrth gwrs, yn cofio hynny'n iawn, rwy'n credu.
Ond credaf eu bod wedi cael eu derbyn gan yr awdurdodau lleol a oedd â dyletswyddau o dan y Ddeddf honno ac maent wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru. A dyna pam rwyf wedi bod yn falch iawn o weld yr ymatebion cadarnhaol iawn a gefais hyd yn hyn gan y comisiynydd pobl hŷn, Cynghrair Henoed Cymru ac Age Cymru, a llu o sefydliadau rhanddeiliaid pobl hŷn eraill i'r cynigion ar gyfer Bil hawliau pobl hŷn. Buaswn yn croesawu ymateb gan arweinydd y tŷ heddiw yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf, mewn gwirionedd, ar y gwaith y gwn ei fod eisoes yn mynd rhagddo o ran ceisio gwneud hawliau pobl hŷn yn real.
Rhaid i ni beidio ag anghofio bod gennym dros 800,000 o bobl hŷn yng Nghymru. Rydym yn gymdeithas sy'n heneiddio, a dylem ddathlu'r rôl y mae pobl hŷn yn ei chwarae a'r cyfraniad y maent yn ei wneud i'n gwlad. Ond mae'n ymddangos i mi fod rhagfarn ar sail oedran yn dal i fod yn un o'r pethau hynny rydym yn aml iawn yn chwerthin amdano ac yn ei dderbyn ac i'n gweld yn ei oddef mewn ffordd nad ydym yn ei wneud gyda nodweddion gwarchodedig eraill megis hil, rhywedd a rhywioldeb. Credaf fod hwnnw'n fater y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef fel cenedl. Felly, credaf fod ymgorffori hawliau pobl hŷn yn well yng nghyfraith Cymru, a helpu i gyfathrebu a hyrwyddo'r hawliau hynny i bobl hŷn, ac yn wir, i'r holl wasanaethau cyhoeddus ac i bawb ledled y wlad, yn ffordd bwysig o helpu pobl i wireddu'r hawliau hynny a gallu manteisio arnynt. Felly, rwy'n gobeithio y gallaf weithio'n agos gyda'r Llywodraeth a'r Gweinidog priodol, pwy bynnag y bo, yn ystod yr wythnosau nesaf o bosibl, ac yn y flwyddyn newydd, i helpu i roi'r ddeddfwriaeth hon ar y llyfrau statud.
Ond rwyf hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda'r grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol. Roeddwn yn falch o weld bod Helen Mary Jones wedi cymryd yr awenau mewn perthynas ag ailsefydlu'r grŵp hwnnw ac edrychaf ymlaen at ymgysylltu ag ef a chyda Llywodraeth Cymru er mwyn hyrwyddo'r agenda hon sy'n seiliedig ar hawliau, ac rwy'n credu ein bod wedi gwneud hynny'n dda iawn hyd yma.
Mae 70 mlynedd wedi bod ers i'r Cenhedloedd Unedig fabwysiadu'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol, ac rydym wedi teithio'n bell yn y saith degawd diwethaf, ond nid ydym wedi teithio'n ddigon pell. I filiynau o bobl ledled y byd, nid yw'r amddiffyniadau a'r addewidion cyffredinol hynny'n ddim ond breuddwyd. Nid yw'r 30 erthygl sydd mor bwysig i ni yn golygu fawr ddim i bobl yn Yemen neu Venezuela, Syria neu Dde Swdan, Somalia neu Saudi Arabia. Nid yw dynion, menywod a phlant sy'n ymdrechu ac yn brwydro bob dydd i aros yn fyw yn mwynhau'r hawliau a'r amddiffyniadau a ddrafftiwyd ar ôl erchyllterau'r ail ryfel byd a'r Holocost. Mae llawer yn gorfod ffoi o'u cartrefi a'u bywydau blaenorol i chwilio am ddiogelwch, ac maent yn aml yn wynebu teithiau sydd yr un mor beryglus â'r sefyllfa y maent yn gobeithio ei gadael ar ôl wrth iddynt groesi Môr y Canoldir, neu Mecsico, ar drywydd hafan ddiogel.
Ond nid y bobl mewn rhanbarthau sydd wedi'u rhwygo gan ryfel yw'r unig rai heb hawliau sylfaenol; gwelwn dorri hawliau dynol yn y byd gorllewinol. Yn yr hyn a elwir yn wlad y bobl rydd, caiff dinasyddion yn yr Unol Daleithiau eu hamddifadu o hawliau sylfaenol, hawliau dynol, ar sail ddyddiol, ac mae'n amlwg fod aelodau o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn cael dedfrydau carchar llymach na phobl wyn. Mae arweinydd yr Unol Daleithiau'n elyniaethus tuag at ffoaduriaid ac mae'n credu ei bod yn iawn i chwalu teuluoedd drwy orfodaeth a charcharu plant nad ydynt wedi gwneud dim mwy na ffoi rhag newyn, rhyfel ac erledigaeth. Ni chaiff rhai teuluoedd eu haduno o gwbl ac er gwaethaf hyn, caiff ei addoli weithiau gan bobl ar yr asgell dde sy'n gobeithio ei efelychu.
Yn nes adref, nid yw ein defnyddwyr cadeiriau olwyn yn gallu teithio gyda'i gilydd yn bell iawn a bod yn gyd-deithwyr ar drên neu fws am nad yw ein seilwaith wedi'i gyfarparu i sicrhau'r cydraddoldeb hwnnw. Hefyd yn nes adref, i lawr y ffordd yn Abertawe, yng Nghaerdydd, mae gennym epidemig o ddigartrefedd, lle'r amddifedir dynion a menywod, lawer ohonynt yn gyn-aelodau o'r lluoedd arfog, o'u hawliau erthygl 25. Yn hytrach na sicrhau bod gan y trueiniaid anffodus hyn hawl i safon byw sy'n ddigonol ar gyfer eu hiechyd a'u lles eu hunain a'u teuluoedd—gan gynnwys bwyd, dillad, tai a gofal meddygol—mae rhai gwleidyddion yn poeni ynglŷn â sicrhau nad yw pobl ddigartref yn gwneud i'r stryd fawr edrych yn ddiolwg. Mewn parc yn Abertawe y diwrnod o'r blaen, gwelais berson yn cysgu y tu ôl i'r llwyni, yn cuddio o olwg pawb, wedi'i lapio mewn blanced, yn teimlo cywilydd eu bod yn ddigartref, a'r foment honno, roeddwn yn teimlo cywilydd fy mod yn wleidydd.
Mae gennym hefyd wleidyddion a phleidiau gwleidyddol cyfan sy'n ymosod ar bobl yn seiliedig ar eu barn grefyddol neu'r hyn y maent yn dewis ei wisgo, ac yn ceisio gosod cymunedau yn erbyn ei gilydd a gwneud enwogion o bobl sy'n lledaenu hiliaeth, rhagfarn a chasineb at wragedd ar-lein. Ac mae gennym hawl—mae'n rhaid i ni wrthsefyll y bobl hyn: pobl sydd eisiau i'r ddogfen hon gael ei rhwygo, pobl a fyddai wrth eu boddau'n gweld hawliau dynol sy'n rhwymo mewn cyfraith yn cael eu diddymu, pobl sy'n rhoi cenedlaetholdeb pitw o flaen dyngarwch.
Ar 10 Rhagfyr 1948, roedd gan y rhan fwyaf o arweinwyr y byd y weledigaeth i weld nad rhyfeloedd a rhaniadau oedd ein dyfodol, ond yn hytrach, fod cydnabod urddas cynhenid a hawliau cyfartal ac anwahanadwy holl aelodau'r teulu dynol yn sylfaen i ryddid, cyfiawnder a heddwch yn y byd. Rhaid i ni amddiffyn yr hawliau hyn rhag y rhai sy'n dymuno eu distrywio a'u gwanhau, nid yn unig pobl fel Bashar al-Assad, Vladimir Putin, Tayyip Erdoğan neu Kim Jong-un, ond pobl fel Gerard Batten a Tommy Robinson—Gerard Batten, a oedd yn amlwg yn credu nad oes lle i fenywod mewn gwleidyddiaeth. Rwy'n gobeithio na fydd yn cymryd 70 mlynedd arall cyn y bydd y 7 biliwn ohonom sy'n rhannu'r blaned hon yn gallu mwynhau'r un hawliau anwahanadwy a gadarnhawyd gan arweinwyr y byd ar 10 Rhagfyr 1948. Byddaf yn cefnogi'r ddau welliant, Rhun, ac rwyf am gydnabod nad oes lle i eithafiaeth, ar unrhyw ffurf, boed yn eithafiaeth asgell chwith, eithafiaeth asgell dde—unrhyw le—yn ein hamgylchedd na'n cymdeithas. Oherwydd mae pawb ohonom yn gyfartal ni waeth beth yw lliw ein croen, pa grefydd rydym yn ei dilyn, ein rhywedd, ein gallu corfforol, ein sefyllfa economaidd na'r wlad rydym yn byw ynddi, a pho gyflymaf y bydd pawb yn derbyn hynny, y mwyaf heddychlon fydd ein planed. Diolch yn fawr.
Mae'n bwysig, heddiw o bob diwrnod, ein bod ni, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cydnabod y Diwrnod Hawliau Dynol Rhyngwladol, sef dydd Llun, 10 Rhagfyr 2018. Mae 70 o flynyddoedd wedi bod ers mabwysiadu'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol, ac roedd datblygiad cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb yn un o'r rhesymau sylfaenol pam y penderfynais gamu i'r byd gwleidyddol, a gwn fod hynny'n wir am eraill yn y Siambr hon, a dyna pam y mae datblygu a chynnal cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal yn sylfaen i bopeth rwy'n ei wneud fel Aelod Cynulliad dros Islwyn. Yn wir, roedd ymladd ideoleg yr asgell dde eithafol a BNP yn hollbwysig i fy nhaith bersonol. Llywodraeth Lafur y DU a lofnododd y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol yn wreiddiol a Llywodraeth Lafur y DU a ymgorfforodd y confensiwn hwnnw yn ein cyfraith, drwy basio Deddf Hawliau Dynol 1998.
Ond mae'n ddiwrnod trist, fel y mae eraill wedi dweud heddiw, pan fo arweinydd grŵp UKIP yn gwenu ac yn annog cyn-arweinydd Cynghrair Amddiffyn Lloegr a chyn-aelod o'r BNP mewn rali yn ddiweddar—ac rwy'n credu mai Stephen Yaxley-Lennon yw ei enw iawn—sydd bellach yn cynghori UKIP.
Y llynedd, anerchodd arweinydd Llafur y DU, Jeremy Corbyn, y Cenhedloedd Unedig yn Genefa. Yn yr anerchiad hwnnw, amlinellodd Jeremy Corbyn y problemau sy'n wynebu ein dynoliaeth gyffredin. Dywedodd, a dyfynnaf, fod y crynodiad cynyddol o gyfoeth a grym anatebol yn nwylo grŵp pitw o elitwyr corfforaethol, system y mae llawer yn ei galw yn 'neo-ryddfrydiaeth', wedi arwain at gynnydd mawr mewn anghydraddoldeb, ymyleiddio, ansicrwydd a dicter ar draws y byd. Rydym yn gwybod bod heriau fel y rhain yn peryglu datblygiad cyfiawnder cymdeithasol, ac yn awr fwy nag erioed, rhaid i ni wynebu'r heriau hyn yn uniongyrchol. Felly, mae'n ddigalon gweld, bob dydd, y ciwiau cynyddol mewn banciau bwyd ledled y DU a'r cynnydd yn nifer y bobl ddigartref a'r bobl sy'n cael eu troi allan o'u cartrefi. Mae'n ddigalon gweld, bob dydd, y cosbau parhaus mewn arian ac amser a orfodir drwy'r credyd cynhwysol gwarthus—ein hawlwyr mwyaf agored i niwed sy'n dioddef—y toriadau i fudd-daliadau plant, y toriadau i drothwyon credyd treth, llanastr yr asesiadau taliadau annibynnol personol a'r ffaith bod rhwydwaith cymorth lles y DU ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed wedi cael ei ddiddymu'n strategol, er gwaethaf camau strategol a phellgyrhaeddol Llywodraeth Cymru i liniaru'r sefyllfa. Mae adroddiad diweddar y Cenhedloedd Unedig ar dlodi a hawliau dynol ym Mhrydain yn dilyn adroddiad damniol arall ar hawliau a'r modd y mae'r DU yn trin ei phobl anabl. Ni ddylai unrhyw un yma fod yn falch o hynny. Mae'n datgan bod y modd y caiff system les polisi cymdeithasol y DU ei chymhwyso yn sbarduno tlodi, yn creu digartrefedd, yn dirymu menywod, pobl anabl a phlant, ac yn torri hawliau dynol yn sylfaenol, ac ymhellach, fod yr ideoleg beryglus sy'n llywio credyd cynhwysol, sy'n rhoi adnoddau ariannol yn nwylo'r penteulu gwrywaidd, yn aml yn sbarduno cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac yn wreig-gasaol.
Felly, wrth i ni ystyried agenda hawliau dynol y DU a'n lle ni yn y byd, a goblygiadau beth bynnag yw Brexit, ar y diwrnod hwn o bob diwrnod, mae'n bwysig ein bod i gyd, gobeithio, yn gwneud popeth yn ein gallu i amddiffyn yr hawliau dynol sydd gennym yn awr er mwyn eu diogelu ar gyfer y dyfodol a'u hymgorffori yn ein cyfansoddiad ar gyfer dyfodol hawliau ein plant yn awr ac ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw ar Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip i ymateb i'r ddadl? Julie James.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl Aelodau am eu sylwadau a'u syniadau ar y pen-blwydd pwysig hwn. Gan droi at y gwelliannau, byddwn yn cefnogi gwelliant 1. Mae Llywodraeth Cymru yn gadarn yn erbyn pob math o eithafiaeth, gan gynnwys eithafiaeth asgell dde. Yn 'Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol', rydym wedi nodi ein huchelgais i weithio gyda chymunedau, y sector gwirfoddol a gwasanaethau lleol i wrthsefyll bygythiad eithafiaeth a throseddau casineb yn ein cymunedau.
Ym mis Hydref, cefais y fraint o gyfarfod â Sara Khan, y comisiynydd arweiniol ar gyfer gwrthsefyll eithafiaeth. Buom yn trafod rôl ddatblygol y comisiwn a sut y gall gefnogi ein huchelgais yng Nghymru i fynd i'r afael â phob math o eithafiaeth, gan gynnwys eithafiaeth asgell dde—y math mwyaf cyffredin o eithafiaeth yng Nghymru. Tra oedd yng Nghymru, cyfarfu'r comisiynydd â nifer o'n rhanddeiliaid fel rhan o'n gwaith casglu tystiolaeth. Bydd hyn yn helpu i lywio dealltwriaeth well o eithafiaeth a sut y gellir ei wrthsefyll.
Mae gennym fecanwaith effeithiol ar gyfer ymgysylltu ar lefel uwch drwy CONTEST a bwrdd eithafiaeth Cymru. Cadeirir y bwrdd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac uned eithafiaeth a gwrthderfysgaeth Cymru. Mae'r aelodau'n cynnwys cadeiryddion ein byrddau rhanbarthol yn ogystal ag uwch gynrychiolwyr allweddol o sefydliadau partner allweddol eraill. Bydd yr Aelodau'n falch o wybod bod y bwrdd wedi comisiynu adroddiad ar eithafiaeth asgell dde yng Nghymru. Byddant yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad hwn ynghyd ag unrhyw argymhellion gan y comisiwn mewn cyfarfod yn y dyfodol. Er gwaethaf y gwaith helaeth ar draws Llywodraeth Cymru a chyda'n partneriaid, rydym yn gwybod nad oes lle i hunanfodlonrwydd. Mae'r straeon diweddar yn y cyfryngau am eithafiaeth asgell dde ar garreg ein drws yn dangos yr angen i barhau i fod yn effro i'r bygythiad, ac rwy'n credu bod yr holl Aelodau wedi crybwyll y bygythiad hwnnw yma heddiw. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid a thrwy ein strwythurau sefydledig i ddeall y sefyllfa'n well a mynd i'r afael â'r risgiau hyn.
Gan droi at welliant 2, er ein bod yn cwestiynu i ba raddau y mae'n flaenoriaeth i Lywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru yn croesawu unrhyw gamau i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, i amddiffyn rhyddid o ran crefydd neu gred, i roi diwedd ar anghydraddoldeb a gwahaniaethu, ac i hyrwyddo democratiaeth. Am y rheswm hwn, rydym hefyd yn cefnogi gwelliant 2.
Rydym yn annog Llywodraeth y DU yn gadarn i gryfhau ei hymdrechion yn y meysydd hyn oll, gan ei bod yn amlwg fod llawer mwy i'w wneud i brofi ei bod yn flaenoriaeth wirioneddol i Lywodraeth y DU. O ran y materion a godwyd, mae Leanne Wood wedi dweud sawl gwaith fy mod—. Wel, mewn gwirionedd, rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth y mae wedi'i ddweud, ond rydym yn gwneud cryn dipyn eisoes, ac fe wnaf yn siŵr fy mod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ganlyniad y bwrdd a'r ymateb a gomisiynodd i eithafiaeth asgell dde. Mae llawer o'r Aelodau wedi sôn am hynny heddiw, felly byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau'n cael y wybodaeth lawn ar hynny wrth iddo ddatblygu.
Roeddwn yn falch iawn o glywed cefnogaeth frwd Darren Millar a Mark Isherwood i hawliau dynol, er gwaethaf y ffaith bod diddymu Deddf Hawliau Dynol 1998 wedi ymddangos mewn dwy o Areithiau'r Frenhines. Credaf ei fod yn dangos bod gwleidyddiaeth yn wahanol yma yng Nghymru, ac roeddwn yn falch iawn o weld y gefnogaeth honno. O na bai Llywodraeth y DU yn mynd mor bell ag y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gallu ei wneud, byddem i gyd mewn sefyllfa well o lawer.
Soniodd llawer o'r Aelodau—Julie Morgan, Helen Mary Jones, Joyce Watson, Caroline Jones a Rhianon Passmore—am yr hyn sy'n digwydd pan fo hawliau dynol yn cael eu hanwybyddu, ac nid wyf yn credu y gallwn wneud yn well na dyfynnu araith y Cwnsler Cyffredinol yn narlith goffa Eileen Illtyd. Dywedodd y dylid gweld hawliau dynol fel pethau ymarferol, sylfaenol, ac arferol hyd yn oed, yn hytrach na phethau sy'n cyfyngu, yn cael eu gorfodi, neu sy'n estron. Rydym angen ymateb sy'n portreadu hawliau dynol fel dulliau arferol o sicrhau cyfiawnder mewn
'lleoedd bach, yn agos at adref', nid datganiadau eangfrydig mewn neuaddau marmor pell.
Credaf fod yr holl Aelodau heddiw, Ddirprwy Lywydd, wedi tanlinellu'r angen i ni ddeall bod hawliau dynol yn hawliau sylfaenol, yn anghenion sylfaenol sydd gan bawb ohonom, nid pethau i'w defnyddio fel arf, ond yn hytrach fel tarian ac fel hawl i urddas a chyfrifoldeb. Rwyf mor falch ein bod wedi cael y ddadl hon heddiw, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau am fod mor barod i gymryd rhan ynddi. Diolch.
Diolch.
Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cynnig yw derbyn gwelliant 2. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn. Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.