8. Dadl Plaid Cymru: Pleidlais y Bobl

– Senedd Cymru am ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, gwelliant 2 yn enw Gareth Bennett, a gwelliant 3 yn enw Julie James. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Photo of Ann Jones Ann Jones Llafur 4:44, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Symudwn yn awr at ddadl Plaid Cymru ar bleidlais y bobl, a galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig—Adam.

Cynnig NDM6816 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu y dylid cynnal pleidlais y bobl drwy refferendwm y DU-gyfan ar delerau terfynol ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 4:44, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyflwynodd Plaid Cymru y cynnig hwn heddiw ar bleidlais y bobl oherwydd ein bod yn credu'n ddidwyll ac yn ystyriol mai ein dyletswydd ddifrifddwys yw gwneud popeth yn ein gallu i osgoi trychineb o'n gwneuthuriad ein hunain i'n gwlad. Mae democratiaeth yn beth pwerus yn wir; gall ffurfio a dymchwel llywodraethau, gall greu democratiaethau newydd a chenedl-wladwriaethau, ond yn ei hanfod, wrth gwrs, mae'n darparu cyfleoedd rheolaidd i'r bobl eu hunain newid eu meddyliau.

Ar 23 Mehefin 2016, cymerodd pobl ym mhedair gwlad y DU ran yn un o'r ymarferion democratiaeth mwyaf a welodd y DU erioed. Gwnaed addewidion gan y ddwy ochr yn ymgyrch y refferendwm, 'gadael' a 'aros', ac yn aml iawn gan unigolion a gwleidyddion nad oeddent mewn sefyllfa i'w cyflawni. Gadewch inni edrych ar rai o'r addewidion a wnaed, rhai o'r ffeithiau a'r opsiynau o ran beth y dylem ei wneud yn awr. 'Gadewch inni roi'r £350 miliwn y mae'r UE yn ei gymryd bob wythnos i'r GIG' oedd yr addewid mwyaf amlwg oll, wrth gwrs: cafodd ei dynnu'n ôl ar y diwrnod wedi'r bleidlais. Wrth gwrs, y gwir amdani yw bod Brexit mewn gwirionedd yn costio £500 miliwn yr wythnos i economi'r DU bellach, yn ôl amcanestyniadau diweddaraf y Ganolfan Ddiwygio Ewropeaidd. Dyna £26 biliwn y flwyddyn, sef, fel y mae'n digwydd, y gwahaniaeth rhwng parhau a rhoi diwedd ar bolisi cyni—sy'n eironig, gan mai'r polisi cyni oedd un o'r prif ffactorau a ddylanwadodd ar y bleidlais.

Efallai y bydd yr Aelodau wedi clywed fy rhybudd y bore yma ein bod yn anelu tuag at fynydd iâ economaidd ac angen newid llwybr. Ceir rhai sy'n dadlau dros strategaeth amgen, y gellir ei disgrifio orau fel, 'Gadewch i'r mynydd iâ symud'. Maent yn gwrthod yr holl rybuddion ac yn mynnu ein bod ar fin mynd i mewn i ddyfroedd tawel ac y bydd yr UE yn y pen draw yn plygu i'n galwadau.

Addawyd cytundebau masnach newydd sbon i ni gyda gwledydd yr UE a gwledydd nad ydynt yn yr UE, a'r cytundeb gyda'r UE fyddai'r 'fargen fasnach hawsaf a negodwyd erioed', yn ôl yr honiad. Wel nawr, er eu bod yn iawn y byddai gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau yn caniatáu i'r DU ddechrau'r gwaith o negodi cytundebau masnach newydd gyda gwledydd eraill, mae cwestiynau anodd a phoenus yn codi ynghylch cynnwys ac amserlen cytundebau o'r fath. Yr amser cyfartalog ar gyfer negodi cytundeb masnach rydd, yn ôl Sefydliad Economeg Ryngwladol Peterson, yw 18 mis, gyda thair blynedd a hanner arall i gyrraedd y cam gweithredu. Y ffigurau hyn yw'r cyfartaledd ar gyfer cytundebau masnach dwyochrog rhwng dau bartner. Os digwydd Brexit, bydd angen i'r DU gytuno ar gytundeb masnach gyda'r UE, a rhai ar wahân gyda'i bartneriaid masnachu, a cheir dros 50 o'r rheini. Nid oes unrhyw wlad ar y blaned wedi bod mewn sefyllfa lle bu'n rhaid iddi negodi dros 50 o gytundebau masnach rydd ar yr un pryd o dan yr amgylchiadau hyn. Mae'r Llywodraeth bresennol wedi treulio dwy flynedd yn negodi cytundeb gyda'r UE  ac mae wedi methu gwneud unrhyw gynnydd. Ffantasi lwyr yw'r syniad y bydd negodi 50 o gytundebau o'r fath ar yr un pryd yn hawdd.

Mae cost cyfle enfawr eisoes wedi bod ers y refferendwm—holl amser y Llywodraeth wedi'i dreulio ar un mater a miloedd ar filoedd o weision sifil yn gweithio ar gynlluniau wedi'u gyrru'n unig, mae'n ymddangos, gan ddogma ac ideoleg, gydag un canlyniad: tanseilio economi Cymru a'r DU.

Er bod y rhagolygon macro yn frawychus, mae pethau'n gwaethygu hyd yn oed pan fyddwch yn edrych yn fanylach ar yr hyn y byddai gadael undeb tollau a marchnad sengl yr UE yn ei olygu'n ymarferol. Byddai'n golygu gadael Euratom, er enghraifft, sef y contract cyfreithiol sy'n galluogi'r DU i fewnforio sylweddau ymbelydrol a ddefnyddir yn eang ym maes meddygaeth ar gyfer trin canser. Mae gadael yr UE yn golygu gadael Euratom oni bai bod y DU yn ymgeisio am aelodaeth gyswllt, ac nid yw'n bwriadu gwneud hynny. A ydym yn dweud o ddifrif fod ein hannibyniaeth ymbelydrol—beth bynnag y mae hynny'n ei olygu—yn bwysicach na lles cleifion canser?

Pryder mawr arall yw beth fyddai'r cytundebau masnach rydd arfaethedig yn ei olygu a'u goblygiadau ehangach. Yn ddiweddar, rhyddhaodd Torïaid Ewrosgeptig adroddiad yn galw am gytundeb masnach rhwng y DU a'r Unol Daleithiau i ganiatáu i gwmnïau Americanaidd gystadlu am gytundebau iechyd yn y GIG: mor wahanol i hybu'r gyllideb iechyd drwy ddefnyddio'r difidend Brexit a addawyd.

Ymhlith y camau eraill tuag yn ôl a argymhellir gan yr eithafwyr asgell dde hyn, mae cynnau coelcerth o dan reoliadau defnyddwyr a rheoliadau amgylcheddol: cig eidion wedi'i drin â hormonau, cyw iâr wedi'i olchi â chlorin—lles pobl ac anifeiliaid yn cael ei aberthu ar allor hunllef imperialaidd. Mae'n drist—

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, yn sicr.

Photo of Darren Millar Darren Millar Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn credu fy mod yn eithafwr asgell dde, ond mater i eraill yw fy nisgrifio. Y broblem yw fy mod yn cofio gwneud llawer o'r pwyntiau hyn yn ystod ymgyrch y refferendwm. Roeddwn yn frwdfrydig dros aros. Nid wyf wedi newid fy marn ar y manteision strategol i'r DU o aros yn yr UE, ond fe wnaed penderfyniad. Pa asesiad a wnaethoch o'r difrod y byddech yn ei achosi i'n diwylliant democrataidd os ceisiwch wrthdroi canlyniad y refferendwm?

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Wel edrychwch, credaf mai'r pwynt wrth galon popeth a ddywedais yw ein bod wedi gweld bod yr ucheldiroedd goleuedig hyn, y wlad yn llifo o laeth a mêl a addawyd, yn gelwydd llwyr. Dywedwyd celwydd wrth y bobl, ac mewn gwirionedd, mae llawer o'r rhai a bleidleisiodd ar sail y prosbectws ffug hwn yn ddig ynglŷn â dosbarth gwleidyddol sydd wedi gweithredu fel twyllwyr, ac yn yr amgylchiadau hynny mewn gwirionedd, er mwyn achub ein democratiaeth, mae angen inni ailedrych ar y cwestiwn drwy roi'r ffeithiau llawn a wadwyd iddynt y tro diwethaf i bobl.

Mae'n adlewyrchiad trist o'r hinsawdd bresennol fod gennym bellach aelodau o'r blaid sy'n rheoli yn dweud yn agored fod peryglu heddwch yng ngogledd Iwerddon yn bris gwerth ei dalu i wireddu eu nodau gwyrdröedig. Maent wedi siarad llawer am ryddid fel eu cyfiawnhad, ond beth am y rhyddid i fyw mewn heddwch, fel y sicrhawyd o dan gytundeb Dydd Gwener y Groglith? Maent yn honni eu bod eisiau rhyddid rhag gormes Ewropeaidd, ond at ba ormes y maent yn cyfeirio? Gormes y gram a'r cilometr? Gormes heddwch ar gyfandir a dreuliodd 100 mlynedd o'i hanes yn rhyfela? Gormes Llys Cyfiawnder Ewrop, sy'n gwarantu ein hawliau dynol? Gormes bod yn rhydd i fyw a gweithio mewn gwledydd cyfagos cyfeillgar?

Nid yw Plaid Cymru yn argymell cynnal refferendwm i ailystyried penderfyniad cyfansoddiadol ar chwarae bach, ond mae'n hollol glir bellach ein bod yn anelu ar ein pennau tuag at argyfwng cenedlaethol yn seiliedig ar freuddwyd ffug a werthwyd i'r pleidleiswyr. Ymgyrchodd nifer o'r Aelodau ar y meinciau yma gyda mi i sicrhau datganoli i Gymru yn 1997. Roedd gennym gynllun gweithredu priodol a Phapur Gwyn; byddem yn egluro'n fanwl iawn i bleidleiswyr beth y bwriadem ei wneud. Roedd pobl yn gwybod dros beth roeddent yn pleidleisio, a phan gawsom bleidlais 'ie', fe wnaethom gadw ein gair a chyflawni'r hyn a addawsom. Roedd yr un peth yn wir yn achos yr Alban yn 2014; roedd y Llywodraeth wedi cynhyrchu Papur Gwyn yn nodi'n union beth fyddai annibyniaeth yn ei olygu—roedd yn 670 o dudalennau o hyd ac yn gwbl gynhwysfawr. Roeddent mewn sefyllfa i wneud addewidion a'u cyflawni. Nid oedd hynny'n wir am refferendwm 2016. Nid oedd yr ymgyrch dros 'adael' mewn unrhyw sefyllfa i wneud nac i anrhydeddu'r addewidion a wnaed i'r pleidleiswyr.

Nawr, efallai y bydd yr Aelodau ar feinciau'r Torïaid ac UKIP yn anghytuno â mi. Rwy'n dweud, 'Iawn. Gadewch i ni bleidleisio arno—pleidlais y bobl—a gadewch i'r bobl benderfynu a wnaethant bleidleisio o blaid "dim bargen", bargen trychineb, bargen hunanddinistriol neu a werthwyd celwydd iddynt gan dwyllwyr amheus a'u bod bellach am unioni'r penderfyniad yng ngoleuni'r dystiolaeth newydd sydd ganddynt.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:52, 3 Hydref 2018

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Rydw i'n galw ar Paul Davies i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn credu bod yn rhaid parchu canlyniad refferendwm y DU gyfan ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd.

2. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Llywodraeth y DU yn y gwaith o ddiogelu uniondeb y Deyrnas Unedig wrthi inni adael yr UE.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Paul Davies Paul Davies Ceidwadwyr 4:52, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon, ac rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Bydd y chwe mis nesaf yn dylanwadu ar y ffordd y bydd Cymru a'r Deyrnas Unedig yn ymwneud â gweddill y byd am genedlaethau i ddod wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Er mwyn masnach, buddsoddi, diogelwch, mewnfudo, mae'n hanfodol ein bod yn cael y fargen orau bosibl i Gymru.

Dylai'r ddadl heddiw archwilio sut y gallwn sicrhau'r fargen orau bosibl ar gyfer pobl Cymru. Yn lle hynny, mae'r cynnig heddiw wedi canolbwyntio ar symud y ddadl o'r drafodaeth hon ymlaen at wrthdroi canlyniad y refferendwm a'r datganiad clir a wnaed gan bobl Cymru.

Fel cynrychiolwyr etholwyr Cymru, mae gennym ddyletswydd i gyflawni ar y canlyniad a roddwyd inni gan bobl Cymru ym mis Mehefin 2016. Mae Llywodraeth y DU yn gweithio i sicrhau'r fargen orau ar gyfer Prydain a Chymru ar ôl Brexit, ac rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n adeiladol gyda'i chymheiriaid yn San Steffan i gael y fargen orau honno. Gadewch imi atgoffa'r Aelodau fod bron bob awdurdod lleol wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae hynny'n rhywbeth na allwn ei anwybyddu.

Mae yna gyfleoedd sylweddol i Gymru ar ôl Brexit wrth gwrs, a dylai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen yn awr i hyrwyddo Cymru fel lle ar gyfer gwneud busnes. Deallaf fod allforion Cymru yn werth £14.6 biliwn bob blwyddyn, gyda 61 y cant o allforion Cymru ac ychydig o dan hanner ein mewnforion yn mynd i ac o'r UE. Ac felly mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i gynllunio a pharatoi ar gyfer Brexit.

Nawr, rwy'n derbyn bod cynnydd wedi'i wneud mewn rhai mannau. Er enghraifft, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi lansio porth Brexit Busnes Cymru—gwefan benodol i helpu busnesau wrth iddynt baratoi ar gyfer y newidiadau a'r heriau sy'n deillio o'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Y math hwnnw o weithgarwch sy'n hollbwysig wrth i ni symud yn nes ac yn nes at adael yr UE. Yn yr un modd, ar gyfer ffermwyr Cymru, mae gadael yr UE hefyd yn sicrhau cyfleoedd i roi polisïau pwrpasol ar waith ar gyfer Cymru a all adlewyrchu natur gyfnewidiol y diwydiant yn well a helpu i gefnogi ffermwyr Cymru ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag—

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 4:55, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Paul Davies Paul Davies Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Mewn munud. Fodd bynnag, yn hytrach nag edrych ar y themâu hynny a thrafod ffyrdd y gallwn weithio'n agosach â busnesau a diwydiannau i baratoi ar gyfer ymadawiad Prydain â'r Undeb Ewropeaidd, y prynhawn yma rydym yn trafod a ddylid cynnal pleidlais arall ai peidio. Ac fe ildiaf i'r Aelod dros y Rhondda.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

A ydych yn credu o ddifrif y bydd Cymru a phobl yng Nghymru yn well eu byd ar ôl Brexit?

Photo of Paul Davies Paul Davies Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Mae pobl Cymru, pobl Prydain, wedi gwneud eu penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, a rhaid inni sicrhau Brexit yn awr; rhaid inni barchu eu dymuniadau. A dylech chi barchu—[Torri ar draws.] Dylech chi—[Torri ar draws.] Dylech chi barchu eu dymuniadau yn ogystal, oherwydd hoffwn atgoffa'r Aelod fod ei hetholaeth hi hefyd wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd.

Nawr, mae Llywodraeth y DU—[Torri ar draws.] Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi ei gwneud yn gwbl glir na fydd yn gwrthdroi canlyniad y refferendwm ac y bydd yn parhau i symud ymlaen yn ei thrafodaethau wrth iddi lywio ei ffordd allan o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n amlwg—

Mick Antoniw a gododd—
 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:56, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

A ydych yn derbyn ymyriad gan Mick—

Photo of Paul Davies Paul Davies Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Nid ar hyn o bryd. Nid ar hyn o bryd. Hoffwn wneud mwy o gynnydd, diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Nid yw'n derbyn yr ymyriad.

Photo of Paul Davies Paul Davies Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, rwy'n derbyn bod nifer o faterion yn dal heb eu datrys rhwng y DU a'r UE yn eu negodiadau cyfredol—nid yn lleiaf natur y ffin rhwng y DU a Gweriniaeth Iwerddon. Fodd bynnag, rwy'n hyderus y caiff y materion hynny eu datrys yn ystod y trafodaethau, yn enwedig gan fod Llywodraeth y DU a'r UE wedi dweud yn gwbl glir eu bod yn dymuno osgoi ffin galed rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon.

Yn naturiol, wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, mae nifer o gwestiynau cyfansoddiadol yn mynd i godi ar gyfer pob un o'r gweinyddiaethau datganoledig. Yn wir, roedd Prif Weinidog Cymru'n gwbl gywir pan ddywedodd, y llynedd, fod Brexit yn gyfle i ailddyfeisio a chryfhau'r Deyrnas Unedig, ac rwy'n cytuno ag ef fod yna gyfleoedd sylweddol i ailedrych ar y berthynas rhwng y gweinyddiaethau datganoledig, ac rwy'n edrych ymlaen at fynd i'r afael â'r cwestiynau cyfansoddiadol hynny wrth inni symud ymlaen.

Lywydd, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr wedi bod yn glir iawn: byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Siambr hon a thu hwnt i weld Cymru'n ffynnu wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae cymunedau Cymru, diwydiannau Cymru a phobl Cymru yn dibynnu ar ei Llywodraethau ar bob lefel i wneud popeth posibl i wneud i hyn ddigwydd. Ni fydd unrhyw beth arall, gan gynnwys gweithredu ail bleidlais, yn ddim mwy nag ymyrraeth ar adeg pan fo angen inni ganolbwyntio ein hymdrechion ar sicrhau bod Cymru'n ffynnu ar gyfer y dyfodol. Ni fyddwn yn cefnogi galwadau i rwystro ewyllys y bobl drwy gefnogi ail bleidlais ar ymadawiad Prydain â'r Undeb Ewropeaidd. Amser cyfyngedig sydd gennym cyn inni adael yr UE; gadewch inni wneud y gorau ohono drwy weithio gyda'n gilydd er budd ein hetholwyr, ac felly rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant.

Gwelliant 2—Gareth Bennett

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod mai ewyllys pendant y bobl yw bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel a fynegwyd mewn refferendwm a gynhaliwyd llai na 27 mis yn ôl.

2. Yn galw ar wleidyddion y Deyrnas Unedig sydd yn erbyn gadael yr UE i barchu dymuniadau pleidleiswyr Cymru a Phrydain a fynegwyd yn ddiweddar a rhoi'r gorau i geisio tanseilio proses Brexit.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen orau i Gymru a'r DU, y tu allan i'r UE, y farchnad sengl a'r undeb tollau.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 4:58, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n cynnig ein gwelliant i'r cynnig hwn. Roeddwn yn siomedig gydag araith arweinydd newydd Plaid Cymru, a groesawaf i'w swydd, am ei phesimistiaeth, ei gwangalondid, ei gwae, ei diffyg hyder llwyr ym mhobl Cymru a phobl y Deyrnas Unedig i wneud llwyddiant o'r cyfleoedd mawr y bydd dod yn genedl sofran, annibynnol—pethau y buaswn wedi meddwl y byddent yn greiddiol i Blaid Cymru—yn rhoi cyfle inni wneud. Fe wnaeth araith fel rhyw fath o Mr Micawber o chwith, yn aros am rywbeth i'w wrthod. Hyn wrth gwrs gan bobl nad oeddent erioed eisiau pleidlais y bobl yn y lle cyntaf ar fater ymuno â'r hyn a oedd yn Gymuned Economaidd Ewropeaidd ar y pryd, a ddaeth yn Gymuned Ewropeaidd, ac sydd wedi esblygu ymhellach i fod yn Undeb Ewropeaidd.

Rydym wedi cael addewid o refferenda gan Lywodraethau'r Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur ar y cytuniadau unigol sydd wedi ymestyn cyrhaeddiad Llywodraethau Ewropeaidd yn y cyfnod ers 1973, ac mae'r addewidion hynny wedi cael eu torri i raddau helaeth. Nid oedd David Cameron am gael y refferendwm ar adael yr UE yn awr. Fe'i gorfodwyd i wneud hynny oherwydd bod UKIP ar warrau ASau Torïaidd, fel y bydd Mark Reckless yn gallu ein hatgoffa gan iddo fyw drwy hynny. Ac yn awr, wrth gwrs, mae'r pleidiau nad oeddent yn hoffi canlyniad y refferendwm am ei wrthdroi. Er bod yn rhaid imi ddweud nad oedd araith Adam Price yn cyfeirio at ei gynnig, nad yw mewn gwirionedd yn galw am ail refferendwm ar aelodaeth o'r UE, ond am refferendwm ar delerau ein hymadawiad. Felly, pe bai Plaid Cymru yn sefyll dros ei hegwyddorion, dylai fod wedi cyflwyno cynnig yn dweud, 'Dylem gael refferendwm yn y gobaith y gallwn wrthdroi penderfyniad yr un diwethaf.' Credaf fod gan David Melding gyfraniad pwysig iawn yn ei—

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Llafur 5:00, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

A gaf fi orffen y pwynt hwn? Roedd yn gyfraniad pwysig iawn yn ei ymyriad, pan ofynnodd pa ddifrod y byddai hyn yn ei wneud i wead democratiaeth yn y wlad hon pe bai'r penderfyniad hwn yn cael ei wrthdroi yn awr. Fe ildiaf i Mick Antoniw.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am ildio. Ai eich barn chi, felly, os yw bargen Theresa May yn fargen wael, y dylai'r Senedd bleidleisio yn ei herbyn?

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

O, yn sicr, ie. Ni fu gennyf erioed fawr o hyder y byddai'r UE yn negodi bargen gyda ni yn y lle cyntaf oherwydd—[Torri ar draws.] Prosiect gwleidyddol yn bennaf yw'r UE, ac rydym yn sôn yma am berthynas economaidd gyda'r UE yn y blynyddoedd i ddod. Byddai'n llawer gwell gennyf adael, fel yr arferai Theresa May ei ddweud, heb ddim bargen yn hytrach na bargen wael. Credaf nad yw cynigion Chequers yn golygu gadael yr UE o gwbl. Brexit mewn enw'n unig ydyw oherwydd byddent yn ein cadw, i bob pwrpas, yn aelodau o'r undeb tollau, a sut y byddai hynny'n datblygu y tu hwnt i hynny, dyn a ŵyr. Byddem yn derbyn rheolau gan yr UE. Byddem yn addo derbyn y rheolau a wnânt am gyfnod amhenodol, a byddai hynny'n clymu ein busnesau ni, ac ni fyddem yn gallu dylanwadu ar eu telerau hyd yn oed, heb sôn am eu datglymu wedyn.

Ond gadewch inni ddychwelyd at brif bwynt araith Adam Price yma, sef bod pobl Prydain yn llawer rhy dwp i fod wedi gallu gwneud penderfyniad goleuedig. Dim ond pobl fel ni sy'n gallu gwneud hynny. Gwnaed honiadau eithafol ar y ddwy ochr, fel sy'n digwydd ym mhob ymgyrch etholiad, boed yn etholiad cyffredinol neu'n etholiad Cynulliad Cymru. A ddylem gael etholiad bob blwyddyn ar y sail honno, neu bob wythnos ar y sail honno? Yn amlwg, mae'n gynnig absẃrd.

Nid wyf yn erbyn cael refferendwm yn y dyfodol i weld a ddylem fynd yn ôl i mewn i'r UE os mai dyna fydd dymuniad nifer sylweddol o bobl Prydain, a'u bod yn gallu cael mwyafrif o Aelodau Seneddol i gefnogi hynny. Pe bai ail refferendwm yn awr, yn bersonol rwy'n ffyddiog o'r canlyniad. Credaf y byddai'n cadarnhau penderfyniad y refferendwm cyntaf. Ond byddai'n creu cyfnod arall o ansicrwydd, sef mantra parhaus y rhai sy'n cefnogi 'aros' yn awr. Felly, nid yw hyn yn mynd i ddatrys ein problemau.

Yn ymgyrch y refferendwm ei hun, gwariodd y Llywodraeth—Llywodraeth y DU—£9 miliwn ar ein traul ni yn cynhyrchu'r ddogfen hon. Mae'r syniad nad oedd gan bobl Prydain unrhyw syniad beth fyddai canlyniadau gadael yr UE yn ôl y sefyllfa waethaf bosibl—. Darllenwch y ddogfen hon oherwydd, ar un dudalen, mae'n dweud y byddai'r sioc economaidd:

yn rhoi pwysau ar werth y bunt, a fyddai'n creu risg o brisiau uwch am rai nwyddau cartref ac yn niweidio safonau byw. Byddai colli mynediad llawn at Farchnad Sengl yr UE yn gwneud allforio i Ewrop yn anos ac yn cynyddu costau.

Yna, ar y dudalen ganlynol, mae'n dweud:

Mae rhai'n dadlau y gallem daro bargen dda yn gyflym gyda'r UE oherwydd eu bod am gadw mynediad at ein marchnad. Ond barn y Llywodraeth yw y byddai'n llawer anos na hynny... Nid oes unrhyw wlad arall wedi llwyddo i sicrhau mynediad sylweddol—[Torri ar draws.]

Ie, ac er gwaethaf hynny, fe bleidleisiodd y bobl dros adael yr UE. Roedd y bobl yn gwybod beth roeddent yn ei wneud. Y cyfan y mae'r rhai a oedd o blaid aros ei eisiau—y bobl ddiedifar, ddi-ildio hynny—yw ceisio gwrthdroi'r penderfyniadau a wnaeth pobl Prydain ddwy flynedd yn ôl.

Hoffwn wneud un pwynt arall gan fod fy amser ar ben eisoes. Gadewch i ni gadw'r achos economaidd mewn persbectif—[Torri ar draws.] Hoffwn wneud un pwynt yn unig. Dim ond 2.7 y cant yw cyfartaledd pwysedig Sefydliad Masnach y Byd o dariffau'r UE, sy'n cyfateb i £3.9 biliwn mewn derbyniadau tariff. Dim ond rhwng 4 a 7 y cant yw cyfartaledd pwysedig tariffau'r UE ar fewnforion y DU i'r UE—cyfanswm o £5.5 biliwn i £10 biliwn. Mae'r rhain yn ffigurau dibwys yng nghyd-destun yr economïau y soniwn amdanynt. Beth bynnag fo canlyniad y negodiadau presennol, hyd yn oed os na cheir cytundeb, gallwn ymdopi'n hawdd ag ymyraethau o'r fath.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:04, 3 Hydref 2018

Galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig yn ffurfiol gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Julie James.

Gwelliant 3—Julie James

Dileu popeth ar ôl 'credu' a rhoi yn ei le:

bod yn rhaid cadw’r opsiwn o gynnal pleidlais y bobl, a hynny’n enwedig os na fydd Prif Weinidog y DU yn gallu sicrhau cytundeb ar delerau terfynol ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ac na fydd etholiad cyffredinol yn dilyn hynny. Os felly, rhaid i’r bobl benderfynu ar y ffordd ymlaen.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Fel un o gefnogwyr gwreiddiol pleidlais y bobl, nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl ynglŷn â'r peryglon y mae pobl Cymru yn eu hwynebu o adael yr UE heb gytundeb neu drwy Brexit Torïaidd eithafol.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 5:05, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Ein pryder am ein heconomi adfydus, am swyddi, am gyflogau sy'n gyrru Plaid Cymru yn hyn o beth, a dyna a achosodd inni gyd-ysgrifennu’r Papur Gwyn gyda'r Llywodraeth a ddywedai mai aros yn y farchnad sengl fyddai'n cynnig y budd gorau i Gymru. Mae'r opsiwn hwn wedi'i wrthod gan Brif Weinidog y DU, a chafodd ei wrthod hefyd gan arweinydd yr wrthblaid swyddogol. Felly, mewn gwirionedd, y blaid yn San Steffan sy'n ymladd dros yr hyn y mae ein dwy blaid wedi'i gytuno sydd er budd gorau Cymru yw Plaid Cymru. Nid yw'r Blaid Lafur yn San Steffan yn hyrwyddo'r egwyddorion a amlinellir yn y Papur Gwyn, ac mae hynny'n fater na ellir ei ddatrys yn hawdd gydag etholiad cyffredinol. Cawsom un o'r rheini y llynedd ac ni ddatryswyd dim. Ni fyddai Llywodraeth Lafur yn y DU yn mynd â ni'n agosach at y safbwynt cytûn hwnnw chwaith. Mae pawb ohonom yn gwybod hynny. Ni fydd teis o liwiau gwahanol yn y trafodaethau yn hwyr yn y dydd fel hyn yn datrys dim.

Felly pa opsiynau sydd gennym i ddod allan o'r llanastr hwn? Pa opsiynau sydd gennym i osgoi'r hunllef economaidd hwn a allai wneud i bolisi cyni edrych yn gymharol ddiniwed? Bydd pleidlais y bobl ar y cytundeb terfynol yn rhoi cyfle pellach i bobl roi eu barn pan fydd gwybodaeth fanylach ar gael. Fel rhywun a ddisgrifiodd ei hun fel Ewropead Cymreig, rwyf am i ni gadw ein cysylltiadau â'r Undeb Ewropeaidd, ond rhaid inni gadw ein llygaid yn agored led y pen yma hefyd. Ni cheir unrhyw ddewisiadau hawdd na chanlyniadau perffaith. Os yw Brexit yn mynd rhagddo, yn enwedig os aiff rhagddo heb gytundeb, bydd yn drychineb i'n heconomi. Rwy'n gwbl argyhoeddedig o hynny.

Ond mae yna bryderon o ran ein democratiaeth hefyd. Bydd ein democratiaeth mewn perygl os mai canfyddiad pobl yn syml iawn yw bod sefydliad sydd o blaid aros yn gwrthdroi'r bleidlais wreiddiol oherwydd rhyw fath o agwedd nawddoglyd, 'Nid ydynt yn gwybod beth y maent yn ei wneud'. Sut y bydd gan bobl ffydd mewn prosesau democrataidd os gellir eu gwrthdroi? Felly mae angen inni fod yn ofalus iawn nad ydym yn agored i gyhuddiadau mai diddordeb mewn gwrthdroi'r canlyniad gwreiddiol yn unig sydd gan wleidyddion, arbenigwyr, academyddion.

Rwy'n cefnogi pleidlais ar y fargen derfynol, i'w chadarnhau neu fel arall, ond ni fydd ail-ofyn y cwestiwn gwreiddiol neu wrthdroi'r canlyniad yn datrys y mater. Roedd llawer o'r bobl a bleidleisiodd dros 'adael' yn gwneud hynny oherwydd nad oedd ganddynt unrhyw beth i'w golli. Roedd pobl yn fy ardal i, ar draws yr hen faes glo, yn enwedig y genhedlaeth hŷn, yn gallu cofio adeg pan nad oedd ein cymunedau'n dibynnu ar gymorth sy'n aml i'w weld yn cael ei wario ar brosiectau heb unrhyw fanteision gweladwy i'w bywydau. Maent yn deall bod ein cymunedau wedi'u hadeiladu gan bobl yn gwneud pethau drostynt eu hunain. Nid oedd unrhyw wasanaethau cyhoeddus eang pan gafodd pentrefi'r Rhondda eu taflu at ei gilydd o amgylch y pyllau. Crëwyd y rheini drwy weithredu ar y cyd, cyfuno ceiniogau a enillwyd yn y diwydiant glo, ac ers i'r diwydiant hwnnw gael ei ddymchwel yn fwriadol yn y 1980au, nid yw ein pobl wedi cael unrhyw ddewis heblaw bod yn ddibynnol ar fudd-daliadau, ar gymorth o San Steffan neu Frwsel neu'r loteri neu fentrau tebyg i Cymunedau yn Gyntaf. Ar ôl degawd o gyni a mwy na hynny o beidio â chael eu clywed, penderfynodd llawer o'r bobl sy'n byw yn y cymunedau hyn anfon neges fawr a phwerus i'r sefydliad. Fe wnaethant ddefnyddio'r ychydig bŵer a oedd ganddynt i godi dau fys ar ddibyniaeth, ar dlodi, ar ystumiau gwasgu dwylo, ar dadoldeb ac ar y Torïaid. Ni allaf ddweud wrthych faint o bobl rwy'n eu hadnabod sydd eisiau rhoi trwyn gwaed i David Cameron a George Osborne, ac sy'n methu deall sut roeddwn ar yr un ochr â'r ddau dwyllwr hynny.

Beth bynnag sy'n digwydd, rhaid mynd i'r afael â phryderon pobl sy'n gweithio, y rhai sydd ar gontractau dim oriau, ac sy'n ddibynnol ar fudd-daliadau a banciau bwyd, yn ogystal â'r bobl hŷn sy'n dyheu am adeg wahanol. Os cawn bleidlais y bobl ar y cytundeb terfynol, mae angen inni ddysgu gwersi o refferendwm 2016 a mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol a arweiniodd at y bleidlais Brexit: tlodi, dadrithiad â'n system wleidyddol, a'r anobaith a deimlir gan lawer o'n cymunedau. Mae angen i bleidlais y bobl fod yn ymarfer mewn democratiaeth bellach, ac nid ei gweld fel ymgais i wrthdroi penderfyniad democrataidd, ac fel Ewropead Cymreig, byddaf yn parhau i ymgyrchu dros y budd gorau i Gymru ar y sail honno.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 5:10, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Lywydd, mewn gwleidyddiaeth, yn aml ceir llwybr hawdd a llwybr anodd. Pe bai'n wir mai'r llwybr hawdd yw'r ffordd gywir i fynd bob amser, byddai'r gwaith a wnawn yma yn syml. Yn wir, prin y byddai ein hangen o gwbl. Ond yn amlach na pheidio, y gwir amdani yw bod y llwybr caled hefyd yn ffordd gywir i fynd. Mewn oes pan ellir ail-drydaru celwydd 30,000 o weithiau cyn i'r gwir danio ei gliniadur, mae hynny'n fwy gwir nag erioed. Felly, mae yna rai pethau anodd sy'n rhaid inni fod yn ymwybodol ohonynt yn y Siambr hon.

Yn gyntaf, pleidleisiodd Cymru dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n derbyn hynny ac rwy'n parchu hynny. Yn ail, nid yw'r cynnig a wnaed i bobl Cymru adeg refferendwm 2016 byth yn mynd i gael ei wireddu. Yn hytrach na bod gadael 'yn costio dim' a'r 'peth hawsaf erioed', mae'r bil ysgariad yn mynd i gostio o leiaf £50 biliwn i'r DU, a byddwn yn dal i'w dalu yn 2064. A hynny cyn inni hyd yn oed ystyried y gost yn awr mewn prisiau uwch a thwf isel, hyd yn oed cyn inni adael—cost y mae'r Ganolfan Ddiwygio Ewropeaidd yn amcangyfrif ei bod yn £500 miliwn yr wythnos.

Y drydedd ffaith sy'n rhaid inni ei derbyn yw nad oes mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin dros unrhyw fath o Brexit—o blaid Brexit Theresa May, o blaid Brexit Jacob Rees-Mogg, nac o blaid unrhyw fath o Brexit dall chwaith. Ond mae gwendid y Prif Weinidog a natur ymosodol y Breximistiaid yn y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd—cefndryd gwleidyddol Aelodau UKIP yn y Siambr hon—yn golygu y cawn y math gwaethaf oll o Brexit oni bai ein bod yn dod o hyd i ffordd allan o'r llanastr hwn, sef Brexit 'dim bargen' a fyddai'n dinistrio ein diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru ac yn difa ein gwasanaeth iechyd; Brexit 'dim bargen' a fydd yn anrheithio ein sectorau modurol, awyrofod ac amaethyddol; Brexit 'dim bargen' a fydd yn difa swyddi mewn cwmnïau fel ArvinMeritor yng Nghwmbrân sy'n dibynnu ar weithgynhyrchu mewn union bryd. Eu swyddi, eu morgeisi, dyfodol eu plant hwy sydd yn y fantol.

Felly, y bedwaredd ffaith yw bod arnom angen ffordd allan o'r llanastr hwn, ac mae hynny'n golygu y bydd yn rhaid i'r pleidiau gydweithredu. Mae gwelliant fy mhlaid yn dweud mai'r ffordd allan yw etholiad cyffredinol. Byddaf yn pleidleisio drosto, ond byddaf yn gwneud hynny gan wybod mai'r bumed ffaith yw nad oes fawr o debygrwydd y bydd yn digwydd. A daw hynny â mi at fy chweched ffaith, a'r olaf, mai pleidlais y bobl yw'r un ffordd sydd gennym o ymuno i'n cael ni allan. Mae'n bryd inni roi diwedd ar ymffrost gwleidyddiaeth plaid a dangos arweiniad, hyd yn oed os yw'n anodd, a chydnabod y ffaith honno.

Ni fydd pleidlais y bobl yn ailadrodd refferendwm 2016, ond yn hytrach bydd yn bleidlais ar y cytundeb ei hun. Cafodd cefnogwyr Brexit hawl yn 2016 i negodi i ni adael, ond dylai fod gennym ni hawl i ddweud wrthynt nad yw'r hyn y maent yn ei gynnig yn ddigon da o gymharu â'r hyn sydd gennym heddiw. Nid oes arnaf ofn y ddadl honno, yn wahanol i gefnogwyr Brexit, mae'n ymddangos.

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 5:13, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Mae hyn yn hwyl heddiw, onid yw? [Torri ar draws.]

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Parhewch â'ch araith.

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP

(Cyfieithwyd)

Fy nhro i siarad, mae'n ddrwg gennyf. Rwy'n sefyll heddiw gyda phryderon dwys ynglŷn â'r cynnig hwn.

Yn 2016, cawsom ddadl genedlaethol, cawsom bleidlais ddemocrataidd a phleidleisiodd y bobl dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Ein gwaith fel cynrychiolwyr etholedig yw gweithredu ewyllys y bobl. Rhaid inni gofio bob amser mai gwasanaethu'r bobl nid y meistr y mae Llywodraeth.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Llafur

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP

(Cyfieithwyd)

Na wnaf—mae hwn yn fyr.

Mae'n ymddangos i mi fod y ddadl hon yn ymwneud â llawer mwy na'r posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd. I bob pwrpas, rydym yn gofyn i bobl Cymru feddwl eto. Mae hynny'n anghywir. [Torri ar draws.] Do, ac fe wnaethant bleidleisio dros adael.

Gallai gofyn i Gymru feddwl eto ddechrau cynsail peryglus, ac rydych chi'n gwybod hynny. Gadewch i ni edrych yn ôl ar refferendwm 1997 ar ddatganoli. Bryd hynny, rhoddodd pobl Cymru fandad llawer llai clir o blaid datganoli nag a wnaethant wrth bleidleisio dros adael yr UE yn 2016. Ond dyna oedd yr ateb cywir, mae'n amlwg.

Yna, yn 2015, etholwyd Llywodraeth Geidwadol fwyafrifol gydag addewid clir yn ei maniffesto i ddarparu refferendwm i mewn/allan ar gyfer y bobl. Dau gwestiwn: i mewn neu allan. Yn 2016, pleidleisiodd y bobl yn briodol yn y refferendwm hwnnw dros adael yr UE, ac o'r diwedd—a gallwch dynnu'r wên oddi ar eich wynebau, Lywodraeth Lafur—yn 2017, ymrwymodd y ddwy blaid wleidyddol fawr i adael yr Undeb Ewropeaidd yn eu maniffestos. Felly, mae sawl pleidlais y bobl wedi bod ar adael yr UE, pa un a ydych chi'n hoffi hynny neu beidio. Rydych wedi ymrwymo i hynny.

Yn bendant, nid yw'r ddadl heddiw ynglŷn â'r bobl, mae'n ymwneud â gwleidyddion yn dweud, 'Ni sy'n gwybod orau', gan anwybyddu'r cyfarwyddyd a roddwyd i ni gan y bobl. [Torri ar draws.] Rydych wedi cael eich cyfarwyddyd, sef 'gadael'. Ble mae pen draw hyn? [Torri ar draws.] Wyddoch chi beth, fe allaf sefyll yma drwy'r dydd i aros am fy nhrydydd papur os hoffech chi, nid oes ots gennyf. Ie? Rwy'n siomedig i fod yn sefyll yma heddiw. Siaradodd arweinydd newydd Plaid Cymru—er fy mod yn eich hoffi, Adam—yn gywir ddigon, yn fy marn i—[Torri ar draws.] Siaradodd arweinydd newydd Plaid Cymru—[Torri ar draws.]

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:16, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

O'r gorau, o'r gorau. Parhewch.

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Lywydd. [Torri ar draws.] Ni fuaswn yn gwneud hynny. Wedi iddo gael ei ethol siaradodd arweinydd newydd Plaid Cymru, yn gywir ddigon yn fy marn i, am y nifer sylweddol o heriau sy'n wynebu Cymru, ac eto mae wedi penderfynu mai ei ddadl werthfawr gyntaf yn amser y Cynulliad fydd sarhau pobl Cymru am nad ydynt yn rhannu ei farn ar yr UE. Gallai dreulio'r amser hwn yn llawer gwell yn trafod iechyd, addysg a'r pwerau ychwanegol sydd i ddod i'r lle hwn ar ôl Brexit. Gallai'r pethau hynny'n hawdd ddechrau gwella bywydau pobl yma ar ôl Brexit.

Fe ddof i ben yn awr drwy ofyn i'r Aelodau barchu'r bleidlais y mae pobl eisoes wedi'i chael. Rwy'n pryderu ynglŷn â'n democratiaeth os nad ydym yn parchu'r pleidleisiau hynny. Diolch yn fawr.

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 5:17, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Lywydd, rhaid imi gyfaddef bod gennyf hanes o wrthsefyll canlyniadau refferenda pan deimlaf fod pobl wedi gwneud camgymeriad. Ymunais â Phlaid Cymru yn 1979 ar ôl i'r refferendwm ar ddatganoli gael ei cholli. Cymerodd 20 mlynedd inni wrthdroi canlyniad y refferendwm hwnnw. Nid wyf yn meddwl bod llawer o bobl—. [Torri ar draws.] Fe gymerodd 20 mlynedd, rwy'n rhoi hynny i David Rowlands. Cymerodd 20 mlynedd, ond ni allwn aros 20 mlynedd i edrych eto ar ganlyniad y refferendwm hwn. Mae Cymru ar fin cael ei llusgo dros glogwyn Brexit 'dim bargen' ac mae'r risgiau a wynebir gan y cymunedau gwledig a gynrychiolaf yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn hysbys iawn. Mae dyletswydd absoliwt gan y rheini ohonom sy'n gwybod y byddai hyn yn drychineb i'w wrthsefyll a rhoi realiti'r hyn y byddwn yn ei wynebu i bobl Cymru, os a phan fyddwn yn gadael, a beth fydd y cytundeb mewn gwirionedd.

Roedd y refferendwm gwreiddiol yn ddiffygiol iawn. Gwahoddwyd pobl i bleidleisio o blaid mwy o reolaeth. Yr hyn a welsom yn lle hynny yw cipio pŵer gan Lywodraeth Dorïaidd wrth iddi lusgo pwerau oddi ar Gymru yn ôl i San Steffan tra bo'r Llywodraeth Lafur yn sefyll o'r neilltu gan wneud ystumiau gwasgu dwylo. A gwahoddwyd pobl i bleidleisio dros biliynau o bunnoedd yn ychwanegol ar gyfer y GIG, ymhlith pethau eraill. Roedd yna bob math o bethau yr oeddem yn mynd i wario'r arian hwn arnynt—y ffermwyr, roeddem yn mynd i'w wario ar y gwasanaeth iechyd. Mawredd, dyma oedd y goeden arian hud onide? Yn lle hynny, fel y nododd Adam Price a Lynne Neagle ac eraill eisoes, mae Brexit eisoes yn costio miliynau o bunnoedd yr wythnos i ni a bydd biliynau o bunnoedd yn y Bil ysgaru, ac mae'r effaith bosibl ar economi Cymru yn hirdymor yn enbyd.

Bydd gan bob un a bleidleisiodd dros Brexit yng Nghymru eu rhesymau eu hunain dros wneud hynny, ac mae gennyf lawer o gydymdeimlad â'r hyn a ddywedodd Leanne Wood ynglŷn â beth fyddai rhai o'r rhesymau hynny—gwrthwynebiad i sefydliad y teimlai pobl ei fod yn eu hanwybyddu. Cofiaf ymgyrchu gyda Lee Waters yn Llanelli a dau ddyn ifanc yn dweud wrthyf, 'Ni allaf fynd yn rhan o hyn o gwbl. Saeson crand yn gweiddi ar ei gilydd yw hyn. Nid yw'n teimlo fel pe bai ganddo unrhyw beth i'w wneud â mi.' Efallai fod hynny'n wir, ond rwy'n argyhoeddedig nad oedd yr un o'r bobl a bleidleisiodd dros Brexit wedi pleidleisio dros brinder cyffuriau, dros ddiweithdra, dros ffin galed yng Ngogledd Iwerddon, dros ofynion fisa i ymweld â'n cymdogion agosaf a bygythiadau i ddiogelwch amgylcheddol a'n hawliau dynol. Ac mae'r rhain oll yn risgiau go iawn yn sgil Brexit caled 'dim bargen'.

Rwyf am gyfeirio heddiw, Lywydd, at y bobl na allent bleidleisio yn y refferendwm—tua 71,500 o bobl ifanc sydd wedi cyrraedd oedran pleidleisio yng Nghymru ers inni bleidleisio dros adael. Nid yw hynny ymhell o gyrraedd y mwyafrif cenedlaethol yng Nghymru dros Brexit. Nawr, nid wyf am awgrymu am eiliad y byddai'r holl bobl ifanc wedi pleidleisio dros aros, ond gwyddom fod pobl ifanc yn llawer llai tebygol o gefnogi Brexit, ac mae'n amlwg y bydd effaith Cymru'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig os ydym yn gwneud hynny heb gytundeb, yn llawer dyfnach ar fywydau'r bobl ifanc hynny nag ar fywydau'r rheini ohonom sydd eisoes wedi elwa o ddegawdau o aelodaeth o'r UE, ac a allai fod yn dod i ddiwedd ein bywydau gwaith, rai ohonom, bellach.

Ceir tystiolaeth fod llawer o ddicter ymhlith pobl ifanc ynglŷn â Brexit. Gwelais hyn pan oeddwn yn arwain elusen gwaith ieuenctid cenedlaethol. Mae gan y bobl ifanc hyn hawl i fod yn ddig. Mae ein cenhedlaeth ni'n mentro'n anwybodus â'u dyfodol, ac mae ganddynt hawl i gael llais yn y penderfyniad hwnnw ynglŷn â'r dyfodol, ac i gymryd rhan mewn bleidlais i'r bobl ar y fargen sy'n cael ei chynnig mewn gwirionedd.

Hoffwn gyfeirio'n fyr at welliant y Llywodraeth, sy'n ein gwahodd i edrych ar yr etholiad cyffredinol fel ffordd o ddatrys hyn. Wel, fel y dywedodd Lynne Neagle eisoes, ni allaf yn fy myw weld sut y byddai hynny'n gweithio. Nid oes angen ailadrodd y rhaniadau a'r anhrefn yn safbwynt y Blaid Geidwadol ar Brexit, ond mae arnaf ofn nad yw Llafur yn San Steffan fawr gwell. Rwy'n dilyn gwleidyddiaeth yn eithaf agos, ac nid oes syniad gennyf beth fyddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn ei wneud ynglŷn â Brexit. A fyddent yn ail-negodi? A fyddent yn cynnal refferendwm heb opsiwn i aros? A fyddent yn cynnal refferendwm gydag opsiwn posibl i aros pe bai'r fargen yn cael ei gwrthod? Rwy'n amau nad wyf yn gwybod am nad ydynt hwythau'n gwybod chwaith, ac rwy'n amau bod hynny'n dibynnu ar ba un a ydych yn credu Jeremy Corbyn, Keir Starmer neu unrhyw un o'r bobl eraill a allai fod yn siarad. Yn anffodus, ni all etholiad cyffredinol—a hoffwn pe na bai hyn yn wir—ein cael ni allan o'r llanastr hwn, fel y dywedodd Lynne Neagle, ac rwy'n tybio bod llawer o'r Aelodau eraill ar y meinciau Llafur yn gwybod hyn.

Mae angen pleidlais y bobl pan fydd hi'n hysbys beth yw'r cytundeb, ac mae angen i bob un ohonom yn y Siambr hon a thu hwnt sy'n credu mai bod yn aelod o'r teulu Ewropeaidd yw'r dyfodol i Gymru ymgyrchu yn awr dros y bleidlais honno i'r bobl, fel y gall pobl bleidleisio ar yr hyn sy'n cael ei gynnig go iawn ac nid y freuddwyd gwrach a fwydwyd iddynt yn 2016.   

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Llafur 5:22, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cydnabod yn llwyr fod pobl wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016. [Torri ar draws.] Nid wyf yn eu hanwybyddu o gwbl, ond nid wyf yn credu eu bod wedi pleidleisio dros golli eu swyddi, a dyna un o ganlyniadau gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Credaf ei fod yn fater cymhleth tu hwnt a gyflwynwyd—. [Torri ar draws.] Na. Roedd yn fater cymhleth iawn. Roedd ceisio'i roi mewn refferendwm—. Nid oes ond angen i chi gofio pa mor anodd oedd hi ar garreg y drws i gael sgwrs nad oedd angen iddi barhau am hanner awr oherwydd ei fod yn fater mor gymhleth. Digwyddodd y trychineb gwreiddiol pan benderfynodd David Cameron gynnal refferendwm ar y mater yn lle gorfod dioddef y rhaniad yn y Blaid Geidwadol. Ond rydym lle'r ydym, felly rhaid inni fwrw ymlaen â'r sefyllfa sydd gennym.

Cafwyd rhai manteision i bleidlais Brexit, ac un ohonynt yw ei bod wedi gostwng gwerth y bunt gan helpu i ddiogelu ein diwydiant dur, felly mae hynny'n rhywbeth y dylem i gyd fod yn ddiolchgar amdano. Ond nid yw hynny'n golygu nad yw gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn rhywbeth y byddai bron bawb yn y Siambr hon yn ei ystyried yn gwbl annerbyniol, gan gynnwys Paul Davies gobeithio. Felly, credaf fod angen inni sicrhau'r fargen orau a allwn wrth gwrs, a dyna pam y dylem gefnogi ein Hysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r gwaith rhagorol y mae'n ei wneud yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion i geisio llywio rhyw fath o ymddygiad rhesymegol gan Lywodraeth y DU yn y ffordd y mae'n mynd i effeithio ar y setliad datganoli. Ond rwy'n credu o ddifrif ein bod yn twyllo ein hunain os credwn, fel Aelodau o'r Siambr hon, fod gennym unrhyw ddylanwad dros yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. Mae ganddynt broblem rhy fawr eu hunain.

Mae gennyf beth cydymdeimlad â Mrs May, sydd wedi gorfod treulio dwy flynedd yn ceisio meddwl am ffordd o sgwario'r cylch yn ei phlaid ei hun, sy'n golygu, yn anffodus, nad yw hi wedi cael digon o amser i wrando'n ofalus iawn ar yr hyn y mae 27 aelod yr UE yn ei ddweud. Felly, nid wyf yn deall—ni allaf weld sut y bydd Plaid Geidwadol seneddol y DU yn uno y tu ôl i ba fargen bynnag y bydd Mrs May yn llwyddo i'w tharo drwy gyfrwng cytundeb nad yw'n gwrth-ddweud yr ymrwymiadau a nodwyd yng nghytundeb heddwch Dydd Gwener y Groglith. Felly, yr unig ffordd y gall osgoi gadael yr UE heb gytundeb o gwbl, ac rwy'n siŵr nad yw am wneud hynny, fyddai dibynnu ar y Blaid Lafur seneddol a'i chwe amod cefnogaeth. Nawr, rwy'n credu bod galwad y Blaid Lafur am etholiad cyffredinol yn gwbl ofer, gan nad yw'r Blaid Geidwadol byth yn mynd i bleidleisio dros gynnal etholiad cyffredinol cyn 2022, ac felly pleidlais y bobl, gwerinbleidlais, refferendwm arall yw'r unig ffordd allan o sefyllfa wleidyddol gwbl ddiddatrys, na welsom mo'i thebyg erioed yn ystod ein hoes ni, er ei fod wedi digwydd o bosibl yn y 1920au, 1930s.

Felly, rhaid inni baratoi ar gyfer y posibilrwydd o ryw fath o refferendwm er mwyn cael rhyw fath o ateb i'r broblem sydd ar fin digwydd ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf—[Torri ar draws.] Nid yw heb risg. Ceir y posibilrwydd o anghydfod sifil oherwydd teimladau dyfnion pobl ynglŷn â'r mater hwn. Felly, mae angen i'r rheini ohonom sy'n poeni am hyn wneud popeth yn ein gallu rhwng nawr a'r adeg honno i estyn allan at yr holl bobl a bleidleisiodd mewn ffordd wahanol i'r ffordd yr oeddem eisiau iddynt ei wneud er mwyn sicrhau bod—[Torri ar draws.]—na—i sicrhau ein bod yn gallu cael trafodaeth wâr ar y mater hwn, ar y materion sy'n ein hwynebu. Rwy'n ei chael hi'n anodd iawn deall sut y pleidleisiodd ffermwyr Cymru i ymwrthod ag 80 y cant o'u hincwm, a ddôi iddynt o'r polisi amaethyddol cyffredin, ond mae'n ffaith eu bod wedi gwneud hynny, felly mae bai ar bawb ohonom am beidio â chyfathrebu'n ddigon clir beth fyddai canlyniadau'r ffordd y byddem yn pleidleisio. Roedd pobl yn meddwl bod hyn yn rhywbeth y byddem yn gallu ei wrthdroi y tro nesaf, fel gydag etholiadau cyffredinol, ond ni allwn wneud hynny—. Mae'n broblem wirioneddol ddifrifol. Ni allwn ddiystyru'r posibilrwydd o wrthdaro os na ellir ei ddatrys drwy ddull arall, ac yn absenoldeb etholiad cyffredinol, ac nid wyf yn credu y bydd hynny'n digwydd, mae'n ymddangos i mi mai rhyw fath o werinbleidlais yw'r unig ffordd o ddatrys hyn.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Llafur 5:27, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, caf fy hun yn anghytuno gyda'r rhan fwyaf o fy nghyd-Aelodau Llafur a fy nghyd-Aelodau Plaid Cymru ac yn anffodus, bron nad wyf yn cytuno gyda'r Ceidwadwyr ac UKIP, oherwydd credaf ei fod yn fater cymharol syml, a chredaf fod y rhan fwyaf o bobl yn hollol glir dros beth roeddent yn pleidleisio. Roedd y rhai a bleidleisiodd dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn amlwg yn gwneud hynny oherwydd eu bod wedi cael sicrwydd na fyddem yn gadael y farchnad sengl. Dywedodd Daniel Hannan, yr ASE Torïaidd, a ddisgrifir yn aml fel—

Neil Hamilton a gododd—

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Llafur 5:28, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Eisteddwch os gwelwch yn dda—

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Fe ildiais i chi.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Llafur

(Cyfieithwyd)

Fe dderbyniaf ymyriad pan fyddaf wedi gwneud ychydig mwy o bwyntiau, iawn? Felly, peidiwch â neidio i mewn; arhoswch am funud.

Fe ddywedodd hyn:

Nid oes neb o gwbl yn siarad am fygwth ein lle yn y farchnad sengl.

A dywedodd Owen Paterson hefyd, AS Torïaidd, ymgyrchydd amlwg dros y bleidlais i adael,

Dim ond gwallgofddyn fyddai'n gadael y farchnad mewn gwirionedd.

Felly, roedd pobl yn glir ynglŷn â hynny. Roeddent hefyd yn dweud—cawsom y tamaid bach o hiliaeth a gyflwynodd UKIP a'r Torïaid i mewn i hyn—'Mae Twrci'n mynd i ymuno â'r UE a bydd miliynau o bobl yn heidio i'r DU.' Ble rydym ni? Mae'r holl drafodaethau â Thwrci wedi cael eu hatal ar sail hawliau dynol ac nid oes unrhyw obaith o gwbl y bydd hynny'n digwydd. Dyna mae'n debyg oedd y rhan fwyaf gwarthus o'r holl ymgyrch, oherwydd cyflwynodd elfen o hiliaeth wedi'i hadeiladu ar gelwydd, ac roedd hynny'n warthus.

Y rheswm arall y pleidleisiodd pobl drosto, yn syml, oedd am eu bod yn gwybod mai cael cytundeb masnach rydd gyda'r UE, fel y cawsant eu sicrhau gan Liam Fox, fyddai'r peth hawsaf yn hanes y ddynoliaeth. Dyma a ddywedodd Liam Fox, y dylai'r cytundeb masnach rydd y bydd yn rhaid inni ei wneud gyda'r Undeb Ewropeaidd fod yn un o'r rhai hawsaf i'w gael yn hanes y ddynoliaeth.

A chawsant sicrwydd hefyd, yn amlwg iawn, y byddem yn arbed £350 miliwn yr wythnos i'r GIG. Mae'n swnio fel cynnig da iawn. Roeddent hefyd yn dweud y byddem yn amddiffyn hawliau gweithwyr, na fyddai unrhyw broblem gyda hawliau gweithwyr. Wel, bellach mae gennym Ysgrifennydd Brexit, Dominic Raab, sydd wedi disgrifio hawliau gweithwyr fel 'rhwystrau i fusnesau Prydain' a gweithwyr y DU fel 'y segurwyr gwaethaf yn y byd'. Yr wythnos diwethaf, yng nghynhadledd y Blaid Dorïaidd, nid ddywedodd air o gwbl am amddiffyn hawliau gweithwyr. A hefyd cawsom sicrwydd na fyddai Cymru'n colli ceiniog, y byddem yn well ein byd, mewn gwirionedd—nid yn unig na fyddem yn colli ceiniog, mae'n debyg y byddai gennym ychydig mwy o geiniogau—ac eto mae Theresa May wedi gwrthod rhoi'r sicrwydd hwnnw ar bob cam. Byddai mor hawdd—[Torri ar draws.] Iawn, fe gymeraf ymyriad.

Photo of David Melding David Melding Ceidwadwyr 5:30, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Ymgyrchais yn frwd dros aros yn yr UE, a byddaf yn ymuno â'r ymgyrch i'n cael yn ôl i mewn y diwrnod ar ôl i Brexit ddod yn realiti, oherwydd dyna pryd y mae ymateb democrataidd yn bosibl. Nid yw'r farn gyhoeddus wedi newid o gwbl yn yr amser ers y bleidlais, a chafodd yr holl ddadleuon hyn eu hailadrodd dro ar ôl tro. Mae pobl yn dal i lynu at y farn a oedd ganddynt yn y refferendwm.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Llafur

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n credu eich bod wedi gwneud y pwynt o blaid pleidlais y bobl, oherwydd mai'r unig ffordd o brofi'r sylw hwnnw—sylw rwy'n anghytuno ag ef—fyddai drwy ei roi i'r bobl ei benderfynu mewn gwirionedd. Oherwydd credaf mai'r hyn sydd gennych yw nad oedd pobl yn gwybod dros beth roeddent yn pleidleisio, ond mae'n amlwg mai'r hyn sy'n digwydd yn awr yw ei fod yn dadfeilio ac mae'n gwbl amlwg fod pob addewid a alluogodd pobl i bleidleisio dros adael yr UE yn dadfeilio bellach, a dyna pam fod yn rhaid inni gyrraedd sefyllfa lle mae'n rhaid cael pleidlais yn y Senedd yn gyntaf oll ar gytundeb Theresa May. A'r rheswm pam y gofynnais y cwestiwn yn gynharach yw hyn: os na all Theresa May gyflawni'r addewidion a wnaethpwyd yn y cytundeb, yna rhaid pleidleisio yn erbyn y cytundeb a rhaid cael penderfyniad wedyn, yn y pen draw, gan y bobl. Nawr, rwy'n credu mai bathodyn yw pleidlais y bobl mewn gwirionedd, ac mae'n dangos—. Mae'n fathodyn sy'n adlewyrchu agweddau pobl at y ffaith eu bod wedi cael eu twyllo. Cawsant eu twyllo yn ystod y refferendwm.

Y rheswm pam y credaf mai etholiad cyffredinol fydd hi, a'r rheswm pam y mae safbwynt Keir Starmer a Jeremy Corbyn yn gywir, yw oherwydd mai'r canlyniad mwyaf tebygol fydd etholiad cyffredinol, oherwydd yn ôl pob tebyg, ni allwn gael pleidlais y bobl cyn inni ddod allan o'r UE mewn gwirionedd, oherwydd er mwyn cyflwyno deddfwriaeth, bydd yr amser i'r ddeddfwriaeth honno fynd drwodd—. Pe bai Theresa May yn gorfod cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer refferendwm yn awr, i bob pwrpas byddai hynny'n bleidlais o ddiffyg hyder a byddem yn cael etholiad cyffredinol. Ac rwy'n credu bod y safbwynt a fabwysiadwyd gan Keir Starmer a'r safbwynt a fabwysiadwyd gan Jeremy Corbyn yn hollol gywir. Mae wedi rhoi'r hawl i'r Torïaid negodi. Maent wedi methu yn y negodiadau hynny, mae hynny'n eithaf amlwg, ac yn y pen draw, mae angen mandad newydd. Fel y dywedodd Jeremy Corbyn yng nghynhadledd y Blaid Lafur:

Byddwn yn pleidleisio yn erbyn unrhyw leihad o ran hawliau, safonau neu amddiffyniadau ac yn gwrthwynebu ras ddadreoleiddio i'r gwaelod.

Felly, gadewch imi ddweud wrth y wlad: bydd Llafur yn pleidleisio yn erbyn cynllun Chequers—fel y bydd hanner cynhadledd y Blaid Dorïaidd yn pleidleisio yn ei erbyn beth bynnag—a beth bynnag a fydd ar ôl ohono, ac yn gwrthwynebu gadael yr UE heb unrhyw gytundeb. Mae'n annirnadwy ein bod yn gadael Ewrop heb unrhyw gytundeb. Byddai hynny'n drychineb cenedlaethol. Dyna pam, os yw'r Senedd yn pleidleisio yn erbyn cytundeb Torïaidd, neu os yw'r Llywodraeth yn methu dod i gytundeb o gwbl, byddem yn pwyso am etholiad cyffredinol. Yn niffyg hynny, mae pob opsiwn ar y bwrdd. Y canlyniad tebygol yw etholiad cyffredinol. Canlyniad tebygol yr etholiad cyffredinol hwnnw yw y bydd Llafur yn ennill, a bydd Llafur naill ai'n negodi ar sail y chwe egwyddor—ac yn niffyg hynny, cynhelir refferendwm i bobl benderfynu a ydynt am aros yn yr UE neu a ydynt am adael yr UE eto.

Photo of Ann Jones Ann Jones Llafur 5:33, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi alw yn awr ar[Torri ar draws.] Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Mae nifer o'r dadleuon a ailadroddwyd ar y llawr y prynhawn yma wedi eu hailadrodd o'r blaen ac yn wir, cawsant eu lleisio ddwy flynedd yn ôl. Mae'n iawn i ddweud y cafwyd refferendwm ddwy flynedd yn ôl a phleidleisiodd pobl mewn ffordd benodol, ac rwyf wedi bod yn ofalus iawn bob amser rhag rhoi, neu gael fy ngweld yn rhoi'r argraff y dylai'r refferendwm fod wedi cael ei wrthdroi ar chwarae bach, oherwydd dyna'n union a wnaeth y Ceidwadwyr yn 1997. Dyna oedd eu dadl. Roeddent yn dweud, 'Wel, mae'n ddrwg gennym, roedd yna refferendwm Cynulliad yn 1997', ac am wyth mlynedd fe gadwyd polisi o alw am ail refferendwm. Ymddengys i mi nad yw'r Ceidwadwyr ond yn derbyn canlyniadau refferenda y maent yn cytuno â hwy. Felly, nid wyf yn meddwl fod hwnnw'n bwynt a wnaethpwyd yn dda gan feinciau'r Ceidwadwyr.

Yn bersonol, ni chredaf y gellid cael refferendwm ar yr un cwestiwn a'r un amgylchiadau'n union, ond nid dyna sydd gennym yma. Fel y dywedais droeon yn y Siambr hon, gofynnwyd i'r bobl bleidleisio am syniad ddwy flynedd yn ôl—nid cynllun, ond syniad. Pan gawsom ein refferenda yma yn 1997 a 2011, os oeddent eisiau, gallai pobl edrych ar y ddogfen a fyddai'n dweud wrthynt yn union beth fyddai'n digwydd pe baent yn pleidleisio 'ie'. Nid oedd hynny ar gael iddynt yn 2016. Yn sicr, felly, mae gan bobl hawl, ar ôl gwneud penderfyniad, i ddylanwadu ar y penderfyniad hwnnw. Fel arall, mae'n ddadl haerllug ac elitaidd iawn i ddweud wrth bobl, 'Rydych chi wedi gwneud penderfyniad; mae'r cyfan allan o'ch dwylo yn awr.' Nid democratiaeth yw hynny.

Nawr, droeon yn y Siambr hon fe glywsom yr honiadau a wnaethpwyd. Rydym yn gwybod nad oes £350 miliwn yr wythnos ar gyfer iechyd—roedd hynny'n nonsens; mae hynny wedi'i dderbyn. Rydym yn gwybod nad oes unrhyw gytundebau masnach—ni chawsant eu negodi—rydym yn gwybod nad yw'r porthladdoedd yn barod, rydym yn gwybod nad yw cynhyrchwyr ceir yr Almaen wedi camu i mewn i orfodi cytundeb, ac rydym yn gwybod nad yw'r UE wedi chwalu o ganlyniad i Brexit. Nawr, nid wyf am oedi gormod yn ailadrodd y dadleuon hynny heblaw i ddweud hyn: yn y ddadl sy'n cael ei chyflwyno yn awr gan bobl Brexit—pan gânt eu herio ar ffeithiau, pan fo busnesau'n dweud, 'Mae hyn yn ddrwg i ni; mae "dim bargen" yn ddrwg i ni,' yr ymateb yw, 'Nid oes gennych hyder yn y wlad hon.' Mae pobl yn haeddu tystiolaeth; nid ydynt yn haeddu nonsens.

Yn ail, gallwn weld thema sy'n dod i'r amlwg gan bobl Brexit sy'n dweud hyn: 'Wel, os na fydd Brexit yn gweithio, bai'r rhai a oedd am aros fydd hynny nid ein bai ni.' Mae damcaniaeth cyllell yn y cefn yn dechrau datblygu yma—wyddoch chi, 'Ni a daflodd y fricsen drwy'r ffenestr; rydych chi'n ceisio ei rhoi yn ôl at ei gilydd, ond rydym yn anghytuno â'r ffordd yr ydych yn ceisio gwneud hynny.' Dyna ddadl pobl Brexit, hyd y gwelaf. Nid wyf yn derbyn yr hyn a ddywedodd Neil Hamilton, fod pobl wedi penderfynu'n ymwybodol eu bod yn arddel safbwynt am yr undeb tollau a'r farchnad sengl, a pham? Oherwydd ni allwch fod yn y ddau heb fod yn yr UE. Gallwch fod mewn undeb tollau heb fod yn yr UE; gallwch chwarae rhan lawn yn y farchnad sengl heb fod yn yr UE—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 5:36, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Yn ystod fy araith, darllenais o'r ddogfen a anfonodd y Llywodraeth at bob aelwyd yn y wlad, ac mae'n dweud yn glir yma, i bob pwrpas, y byddem yn gadael y farchnad sengl ac y byddai:

colli mynediad llawn at Farchnad Sengl yr UE yn gwneud allforio i Ewrop yn anos ac yn cynyddu costau.

Cafwyd dadleuon ar y ddwy ochr. Clywsom lwyth ohonynt heddiw, wedi'u hailadrodd unwaith eto. Yn y pen draw, yng nghlochdar yr ymgyrch, mae pobl yn penderfynu drostynt eu hunain sut i bleidleisio, fel y gwnânt mewn etholiad cyffredinol. Ni allwn ail-gynnal etholiad cyffredinol bob blwyddyn—Wel, gallem ei wneud, ond ni fyddai hynny'n gwneud synnnwyr—pam y dylem ei wneud ar hyn?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Llafur 5:37, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Y pwynt yw hyn, ynte? Ar ochr pobl Brexit, gwnaethpwyd honiadau mynych y byddai popeth yn iawn, y byddai cytundeb masnach rydd ac na fyddai sefyllfa 'dim bargen'. Wel, roedd hynny'n anghywir, onid oedd? Mae pawb ohonom yn gweld hynny. Ni ddywedodd neb ddwy flynedd yn ôl—neb yn UKIP; ni ddywedodd Nigel Farrage hyn, na phobl Brexit ar ochr y Ceidwadwyr; ni chafodd ei ddweud gan bobl Brexit ar fy ochr fy hun, yn fy mhlaid fy hun—ni ddywedodd neb, 'Wel, os ydym yn gadael heb gytundeb, bydd yn fater o "ddim bargen" a pha ots.' Roedd yn ymwneud bob amser â chytundeb masnach rydd, a Norwy oedd yr enghraifft a roddwyd. Dywedodd rhai pobl yn y Siambr, mewn gwirionedd, mai Norwy yw'r esiampl y dylai'r DU ei dilyn. Credaf fod i hynny ei rinwedd, er nad yw'r model yn union fel y dylai fod o'm rhan ninnau. Y realiti yw mai prosiect gwleidyddol yw'r UE, ond dyna hefyd yw'r DU. Mae pob cenedl-wladwriaeth, pob gwladwriaeth sofran, yn brosiect gwleidyddol a rhaid inni gadw hynny mewn cof.

Ond rwyf am droi fy sylw at fater a godais yn y Siambr hon gyntaf flynyddoedd yn ôl, os caf—un sy'n ceisio cael ei ddiystyru, ond sydd mewn gwirionedd yn ganolog i Brexit a'r negodiadau Brexit, sef y sefyllfa yn Iwerddon. Yn 1995, gwelodd y bobl yno ddiwedd ar y Trafferthion. Pan lofnodwyd cytundeb Dydd Gwener y Groglith yn 1998, rhoddodd ddiwedd ar, nid 25 mlynedd o drafferthion, nid 100 mlynedd o drafferthion, ond 300 o flynyddoedd o ryfel achlysurol. Dyna y llwyddodd i roi diwedd arno. Dywedwyd wrth bobl, 'Yn awr, fe fyddwch yn gallu rhannu hunaniaeth; bydd y ffin yn dyllog ac ni fydd yn gwneud gwahaniaeth mwyach, oherwydd rydym oll yn rhan o'r UE.' Mae hynny mewn perygl dirfawr yn awr. Ac eto ymateb pobl Brexit yw dweud—mae Jacob Rees-Mogg wedi'i ddweud; mae Boris Johnson wedi'i ddweud—nad oes ots; mai'r gynffon yn siglo'r ci yw hyn rywsut. Wel, mewn gwirionedd, mae'n gwbl hanfodol. Oherwydd, gadewch imi ddweud wrth yr Aelodau—ac fe ddywedaf hyn wrth Neil Hamilton—bu farw mwy na 3,000 o bobl rhwng 1969 a 1994. Cafodd pobl ar y ddwy ochr eu lladd oherwydd eu crefydd. Ni allech gerdded y strydoedd mewn rhai rhannau o'r ddinas heb roi eich bywyd mewn perygl. Roedd hofrennydd yn yr awyr drwy'r dydd. Pan oeddech yn croesi'r ffin, byddech yn mynd drwy bwynt diogelwch. Roedd rhwystrau ffyrdd yr holl ffordd o gwmpas dinas Belfast. Roedd y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon yn enbyd: lladdwyd pobl a oedd yn gyrru tacsis am eu bod yn gyrru ar ran y cwmni anghywir; lladdwyd pobl pan osodwyd bomiau, fel y gwyddom, yn Enniskillen; lladdwyd pobl mewn tafarnau oherwydd eu bod yn digwydd bod yn y grefydd anghywir yn y dafarn anghywir. Ac yma mae gennym bobl yn dweud, 'Nid yw'n bwysig; nid yw'n bwysig.' Dywedwch hynny wrth deulu fy ngwraig. Ac rydych yn dweud hynny wrth bobl Gogledd Iwerddon a aeth drwy'r holl anhrefn hwnnw am nifer fawr iawn o flynyddoedd, ac yn dweud wrthynt, 'Does dim ots am Ogledd Iwerddon'.

Oherwydd, cofiwch, nid yw'r DU yn 100 mlwydd oed hyd yn oed—nid yw'n 100 mlwydd oed hyd yn oed. Ni ddaeth y DU i fodolaeth tan i Wladwriaeth Rydd Iwerddon gael ei sefydlu o fewn ei ffiniau presennol. Rwy'n dweud wrth yr Aelodau yn y Siambr hon yn awr: rwyf wedi gweld sut beth yw gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon, ac rwyf wedi gweld beth y mae heddwch wedi'i sicrhau. Gwelais y ffyniant a ddaeth yn sgil yr heddwch. Gwelais y rhwystrau'n dod i lawr. Gwelais bobl yn gallu cerdded ar hyd y strydoedd heb ofni cael eu herwgipio neu eu llofruddio. Gwae inni chwarae o gwmpas gyda'r cytundeb heddwch hwnnw; nid yw'n rhywbeth i chi chwarae gemau ag ef, ac nid yw'n rhywbeth y gellir ei ddiystyru yn sgil trafodaethau Brexit. Rhaid i Brexit ystyried bod ffin yr ymladdwyd drosti ar ynys Iwerddon, ffin lle mae pobl wedi marw, a ffin a oedd yn broblem a gafodd ei datrys yn 1998 gyda chanlyniad heddychlon. Mae hynny bellach o dan fygythiad.

Felly, oes, mae yna ddadleuon yn y Siambr hon sydd wedi cael eu hailadrodd droeon o'r blaen. Nid wyf eisiau eu hailadrodd ac nid wyf yn ceisio dweud, 'Wel, wyddoch chi, roedd y canlyniad yn anghywir ddwy flynedd yn ôl', oherwydd mae'r dadleuon hynny eisoes wedi'u gwneud, ond nid ydym yn chwarae â bywydau pobl, ac nid ydym yn anwybyddu'r ffaith fod heddwch wedi'i ennill ar ynys Iwerddon o ganlyniad—mae'n wir—i ymdrechion Llywodraethau'r DU ac Iwerddon, ond o ganlyniad i ymdrechion yr UE yn ogystal.

Gyda chymaint yn y fantol, ni allaf weld pa wrthwynebiad a fyddai gan neb, os yw'r broses wleidyddol yn methu, os na all y Senedd gytuno, os ceir etholiad a bod y canlyniad yn amhendant, i ofyn y cwestiwn i bobl wedyn, 'Beth a gredwch erbyn hyn? Fe wyddoch beth yw'r amgylchiadau, fe wyddoch beth sydd yn y fantol—beth rydych chi eisiau ei wneud?' A dyna yw democratiaeth.

Photo of Ann Jones Ann Jones Llafur 5:41, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Adam Price i ymateb i'r ddadl?

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon, a hoffwn ymateb, yn gyntaf oll, i'r Prif Weinidog, a siaradodd yn rymus iawn, gan bwyso ar brofiad ei deulu ei hun, wrth gwrs, o ran hanes Gogledd Iwerddon. Wyddoch chi, mae cyfraniad yr UE o ran heddwch, ledled y cyfandir hwn, wedi bod yn gwbl ganolog i'w hanes, wrth gwrs. Roeddwn yn yr Almaen ar y noson y daeth wal Berlin i lawr yno fel myfyriwr—fel myfyriwr Erasmus, fel mae'n digwydd. Roeddwn yn meddwl fy mod ar y ffin anghywir y noson honno, oherwydd roeddwn ar y ffin Ffrengig-Almaenig; roeddwn yn Saarbrücken. Anfonodd Prifysgol Caerdydd ei myfyrwyr i Saarland, i fan tebyg i adref i raddau—ardal lo a dur yn yr Almaen. Ond mewn gwirionedd, honno oedd y ffin iawn i fod arni y noson honno, oherwydd gwelais fyfyrwyr Ffrengig ac Almaenig yn y brifysgol yno'n cofleidio'i gilydd yn eu dagrau, ac ni allwn help ond meddwl, mewn gwirionedd, nad oedd cymaint â hynny er pan oedd dynion ifanc o'r ddwy wlad yn ymladd ei gilydd ar y ffin honno. Ac os ceir pleidlais y bobl, wyddoch chi, dyna'r math o angerdd y gallwn ei roi wrth wraidd y cwestiwn hwn yn fy marn i.

Fel Leanne Wood, rwy'n Ewropead Cymreig angerddol. Dywedodd Gwyn Alf Williams yn gofiadwy iawn mewn gwirionedd, pe na bai'r gymuned Ewropeaidd fel yr oedd hi yn bodoli, yna byddai'n rhaid i ni Gymry fod wedi ei ddyfeisio. Mae'n gwbl ganolog i'n hanes, o'r cychwyn cyntaf. O ran yr amser y cawn ein hunain ynddo yn awr, hoffwn dalu teyrnged i'r areithiau angerddol a glywsom, yn enwedig ar feinciau cefn y Blaid Lafur. Ond dyma wirionedd anodd arall: rhwng ein pleidiau, fe fuom yn trafod y Papur Gwyn a oedd yn nodi ffordd synhwyrol ymlaen ar gyfer sicrhau mandad Brexit, gan gyfyngu ar y niwed i fywydau a bywoliaeth pobl. Yn anffodus, rydym yn byw mewn cyfnod pan nad oes unrhyw synnwyr gan y sefydliad gwleidyddol Prydeinig. Mae'n analluog i gyflawni unrhyw beth. Hynny yw, os yw pobl yn siarad am fandad moesol yr ymgyrch dros 'adael', y gwir amdani yw bod y bobl hyn wedi dweud celwydd. Fe wnaethant dorri'r gyfraith. A diflannu wedyn o'r fan lle y cyflawnwyd eu trosedd wleidyddol, gan adael y canlyniadau i eraill. Nid yw hynny'n ddigon da. Ac os ydych yn sôn am y difrod i ddemocratiaeth, meddyliwch beth fydd yn digwydd nesaf. Meddyliwch beth fydd yn digwydd nesaf os caniateir i drychineb Brexit 'dim bargen' ddigwydd o flaen ein llygaid.

Rydym wedi gweld damwain car yn digwydd yn araf deg o'n blaenau onid ydym? Wel, mae'n cyflymu yn awr, onid yw, a'r peth cyfrifol inni ei wneud—. Y gofyniad cyntaf mewn democratiaeth yw bod yn onest â'r bobl, a dyna—. Mae gennym fandad yn y Senedd hon, rydym yn Senedd y bobl, a rhaid inni fod yn onest gyda phobl Cymru. Dywedwyd celwydd wrthynt, ac maent yn haeddu cyfle—gan fod y gwir bellach wedi'i ddatgelu, maent yn haeddu cyfle i benderfynu mewn gwirionedd beth y maent eisiau ei weld yn digwydd nesaf. [Torri ar draws.] Fe ildiaf.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Ceidwadwyr 5:45, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydych chi wedi bod yn onest, yn onest iawn, yn dweud eich bod am ymgyrchu i wrthdroi Brexit. A fyddwch chi hefyd yn onest yn cyfaddef, pe baem yn cyhoeddi bod ail refferendwm yn mynd i fod, y byddai hynny'n rhoi'r golau gwyrdd i negodwyr yr UE ddarparu bargen wael neu ddim bargen gan ddisgwyl y byddai pobl wedyn yn pleidleisio dros aros?

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Wel, edrychwch, nid ni ar yr ochr hon sydd wedi tanseilio negodiadau'r Prif Weinidog. Hynny yw, edrychwch ar yr hyn y mae hyd yn oed ei chyn-Ysgrifennydd Tramor yn ei ddweud am y ffordd y mae hi wedi trin y negodiadau. Dyna un elfen y ceir cytundeb eang yn ei gylch, mae'n ymddangos. Mae wedi bod yn draed moch; mae wedi bod yn hollol druenus. Wrth gwrs, y broblem yw mai'r bobl fydd yn talu'r pris am y diffyg arweiniad gwleidyddol yno. Rydym mewn tagfa, tagfa wleidyddol, a rhaid inni ddod o hyd i ffordd ymlaen. Ni cheir unrhyw lwybr hawdd, ac o dan yr amgylchiadau hyn mae'n iawn ac yn gywir mewn democratiaeth ein bod yn rhoi dewis i bobl ailedrych ar y cwestiwn hwn, oherwydd fe ddywedwyd celwydd wrthynt; ni chawsant y ffeithiau llawn er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniad.

Hoffwn ddweud wrth yr Aelodau yn y Blaid Lafur fod hwn yn gyfle, ydy, rwy'n credu ei fod—mae hyn yn fwy na phlaid. Mae hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â dyfodol ein cenedl. Bydd yn effeithio arnom—fel y dywedodd Helen Mary, yn enwedig y bobl ifanc, sy'n mynnu pleidlais y bobl mewn niferoedd mwy a mwy. Bydd yn rhaid iddynt fyw gyda chanlyniadau hyn. Y drasiedi, wrth gwrs, yw nad y Blaid Geidwadol yn unig y mae'r diffyg arweiniad gwleidyddol hwn ynghanol y wladwriaeth Brydeinig yn effeithio arnynt; rhaid imi ddweud ei fod yn effeithio ar y Blaid Lafur hefyd. Yn y Senedd hon rydym wedi gallu dod i gytundeb ar y Papur Gwyn, ond rwy'n ddryslyd ynglŷn â beth yw safbwynt y Blaid Lafur ar y lefel Brydeinig. O ran y chwe phrawf y cyfeiriwyd atynt, wel, y polisi yw bod ar y tu allan i'r farchnad sengl, felly sut y gallwch fodloni'r prawf o gyflawni'r un manteision yn union? Mae hwnnw'n fyd o realiti amgen tebyg i un Theresa May. Credaf ein bod yn haeddu gwell na hynny. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod aelodau a chefnogwyr y Blaid Lafur yn haeddu gwell na hynny. A hoffwn apelio arnoch, mor hwyr â hyn hyd yn oed—ac rwy'n edrych ar y rheolwr busnes: peidiwch ag ymuno ag UKIP a'r Torïaid heno. Pleidleisiwch gyda ni o blaid pleidlais y bobl.

Photo of Ann Jones Ann Jones Llafur 5:47, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Fe ohiriwn y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Photo of Ann Jones Ann Jones Llafur 5:48, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Rydym yn dod at yr amser pleidleisio, felly oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, fe af yn syth at y bleidlais. Nac oes, iawn, diolch.