Portffolio Addysg

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 18 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Ceidwadwyr 2:12, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae pwyllgor addysg y Cynulliad wedi nodi pryderon efallai nad yw cyllid y grant datblygu disgyblion sydd wedi'i anelu at helpu disgyblion tlotach yn sicrhau gwerth am arian yng Nghymru. O gofio bod trechu tlodi yn un o nodau craidd allweddol Llywodraeth Cymru, pa ystyriaeth a roddwyd wrth bennu'r gyllideb addysg i sicrhau bod y grant datblygu disgyblion yn cyflawni ei nod o wella canlyniadau cyrhaeddiad disgyblion o'r cefndiroedd tlotaf, nid yn unig er mwyn cynorthwyo eu cyrhaeddiad addysgol ond hefyd eu hiechyd a'u lles yn y dyfodol? Diolch.