Adroddiad ar y Sylfaen Drethu Gymreig

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 18 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 2:09, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, cafodd y mater gryn sylw, Lywydd, yn ystod y trafodaethau ynglŷn â'r fframwaith cyllidol. Mae'r fframwaith cyllidol yn trosglwyddo rhai risgiau i Gymru. I wrthbwyso hynny, mae'n ein hamddiffyn rhag rhai risgiau eraill, a'r math o ddatganoli treth incwm sydd gennym—ac mae llawer o fodelau eraill y gallem fod wedi eu cael ac eraill sy'n dadlau y dylid bod wedi mynd ag ef ymhellach—ond credaf mai un o'r agweddau cadarnhaol arno, yn y tymor byr o leiaf, wrth inni ymgymryd â'r cyfrifoldebau newydd hyn, yw ei fod yn golygu nad ydym mor agored i rai o'r risgiau y byddem yn eu hwynebu fel arall pe baem wedi cytuno ar set wahanol o gytundebau yn y fframwaith cyllidol.