Part of QNR – Senedd Cymru am ar 11 Gorffennaf 2018.
Targed cynllun Glastir Organig, sy'n cael ei gyllido'n rhannol drwy raglen datblygu gwledig Llywodraeth Cymru, yw cefnogi 542 o ffermwyr i un ai droi’n organig neu gynnal eu statws organig dros y cyfnod 2014-20. Erbyn hyn rydym yn cefnogi 563 o fusnesau fferm organig.