7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 4:37, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

I mi, mae hwn yn fater sy'n ymwneud yn llwyr â hawliau dynol. Dywedir weithiau mai'r hyn sy'n dynodi cymdeithas wâr yw sut rydym yn trin ein dinasyddion mwyaf agored i niwed, ac i mi, mae hynny'n mynd at wraidd y mater hwn.

Fel y dywedodd y Cadeirydd, un cyffur gwrthseicotig yn unig, risperidone, a drwyddedwyd i drin symptomau ymddygiadol a seicolegol dementia, ac eto gwyddom fod meddyginiaethau gwrthseicotig eraill yn cael eu rhagnodi'n eang i'r rheini sy'n byw gyda dementia, a bod sgil-effeithiau peryglus i'r meddyginiaethau gwrthseicotig hyn, risg o godymau a'r risg o farwolaeth gynnar. Mynegwyd pryderon difrifol ynghylch yr arfer hwn gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar sawl achlysur, ac mewn adroddiadau eraill i Lywodraeth Cymru. Tynnir sylw at yr union fater hwn yn adroddiad etifeddiaeth y pwyllgor iechyd yn y pedwerydd Cynulliad.

Felly, y cwestiwn i mi heddiw yw a yw ymateb Llywodraeth Cymru yn darparu'r sicrwydd y mae'r pwyllgor yn chwilio amdano: ein bod yn mynd i weld gweithredu cyfunol i atal rhagnodi meddyginiaeth gwrthseicotig yn amhriodol. A rhaid imi ddweud, yn anffodus, nad yw'n gwneud hynny i mi. Pam fod Llywodraeth Cymru ond wedi derbyn yr alwad y dylai'r holl fyrddau iechyd gasglu a chyhoeddi data safonol ar y defnydd o'r feddyginiaeth hon mewn cartrefi gofal mewn egwyddor yn unig? Clywodd y pwyllgor dystiolaeth fod rhai byrddau iechyd eisoes yn gwneud hyn. Pam nad oes modd i bob un ohonynt wneud hynny? Pam fod Llywodraeth Cymru ond wedi derbyn mewn egwyddor yn unig yr alwad i sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn cydymffurfio'n llawn â chanllawiau NICE ar ddementia? Y cwestiwn y dylem ei ofyn heddiw yw: pam nad ydynt yn gwneud hynny'n barod?

Nawr, mae'n gas gennyf yr ymadrodd 'ymddygiad heriol' i ddisgrifio ymddygiad y bydd pobl sy'n byw gyda dementia yn ei arddangos, yn amlach na pheidio, pan na fydd eu hanghenion yn cael eu diwallu—pan fyddant mewn poen, pan fyddant angen y toiled, pan fyddant yn unig neu wedi diflasu. Yn amlach na pheidio, yr anghenion nas diwallwyd hynny sy'n arwain at ragnodi meddyginiaeth wrthseicotig yn amhriodol. Dyna pam fod nifer o argymhellion y pwyllgor yn canolbwyntio ar yr angen i sicrhau bod gofal safonol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei ddarparu gan staff sydd wedi'u hyfforddi'n dda.

Nawr, fel y nodwyd, gwrthodwyd argymhelliad 9, a gynlluniwyd i sicrhau bod gennym y nifer gywir o staff gyda'r cymysgedd priodol o sgiliau mewn cartrefi gofal. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi eglurhad pellach ar y rhesymau y tu ôl i hynny, ond hoffwn gael sicrwydd pellach ganddo heddiw fod y mesurau y cyfeiriodd atynt, y rheoliadau sy'n mynd drwodd, ond hefyd y Ddeddf lefelau staff nyrsio, nad yw'n berthnasol i gartrefi gofal—sut y mae honno'n mynd i wella'r sefyllfa ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal.

Mae argymhelliad 10 yn galw am ddatblygu safonau cenedlaethol i sicrhau bod yr holl staff sy'n gweithio gyda phobl â dementia yn cael hyfforddiant ar gyfer rheoli ymddygiad heriol. Derbyniwyd yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Unwaith eto, rydym wedi gwybod ers blynyddoedd fod hon yn broblem. Roedd yn adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, 'Lle i'w Alw'n Gartref?' Ni ddylai fod y tu hwnt i'n gallu i sicrhau bod gan bawb sy'n gweithio gyda'n dinasyddion agored i niwed sydd â dementia y lefel sylfaenol honno o hyfforddiant dementia, ac mae gennym fodel ardderchog ar ei gyfer yn ein hyfforddiant Cyfeillion Dementia. Hefyd mae'n hanfodol cofio bod yna arferion da iawn i'w cael fel y gwelir gyda phethau fel gwaith pontio'r cenedlaethau. Gwahoddais Ysgol Gynradd Griffithstown i ymweld â'r grŵp trawsbleidiol ar ddementia y diwrnod o'r blaen, ac roeddent yn siarad yn frwdfrydig iawn am y gwaith y maent yn ei wneud gyda phobl sy'n byw gyda dementia, sy'n sicrhau manteision mawr i'r bobl hynny ac mae wedi bod yn drawsnewidiol i'r plant a'r bobl ifanc hynny hefyd.

Roeddwn am orffen drwy sôn am yr argymhelliad olaf, sy'n ymwneud â'r angen i wneud gwaith pellach i edrych ar raddau rhagnodi meddyginiaeth wrthseicotig i bobl ar wardiau iechyd meddwl pobl hŷn yng Nghymru. Mae hwn yn bwnc sy'n agos at fy nghalon, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen. Dyma rai o'n dinasyddion mwyaf di-lais yng Nghymru, a chredaf fod gennym ddyletswydd arbennig i sicrhau bod eu hawliau'n cael eu cynnal. Derbyniwyd yr argymhelliad penodol hwnnw mewn egwyddor, ond mae'n swnio, o ddarllen y naratif, fel pe bai'n rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i edrych arno o ddifrif, ond buaswn yn erfyn arno i wneud hynny ar fyrder yn awr.

Mae'n hanfodol hefyd ei fod yn bwrw iddi ar fyrder i wneud y gwaith ar ymestyn y ddeddfwriaeth lefelau staff nyrsio i gynnwys wardiau ysbytai ar gyfer pobl â dementia oherwydd maent angen y gofal hwnnw sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae gennym ddyletswydd, bob un ohonom, i wrando ar leisiau'r bobl sy'n byw gyda dementia er mwyn sicrhau bod y lleisiau hynny'n cael eu clywed ac i gynnal eu hawliau.