Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Nawr, rydym wedi derbyn holl argymhellion y pwyllgor ar gyllid cychwynnol Cylchffordd Cymru, a gobeithio y gallaf ddangos i'r Cadeirydd heddiw fy mod yn gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â'r argymhellion hynny. Fe nodaf nifer o'r argymhellion y mae'r Aelodau eisoes wedi'u crybwyll, a gobeithio y gallaf gynnig rhywfaint o sicrwydd pellach.
Yn gyntaf oll, tynnodd y Cadeirydd sylw at argymhelliad 6. Buaswn yn hapus i roi ffigurau gan y Llywodraeth y gwnaed cais amdanynt gan Gadeirydd y pwyllgor. O ran argymhelliad 13, gadewch imi ddweud ar goedd nad ydym yn agored o gwbl i bresenoldeb casino yn un o'r rhannau mwyaf difreintiedig o'r Deyrnas Unedig. Ceir nifer o hyrwyddwyr prosiectau, fel y mae'r Aelod yn gwybod, mae llawer o drafodaethau wedi digwydd—maent yn fasnachol gyfrinachol—ac nid cynnig Rocksteady yw'r unig gynnig sy'n cael ei ystyried.
Argymhelliad 3: nawr, mae darpariaeth y contract yn cyd-fynd ag arferion masnachol cyffredin, er y bydd swyddogion yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi i gyngor cyfreithiol gael ei ddarparu a'n bod yn gallu canfod beth yw sefyllfa'r cyfrif ysgrow. Rydym eisoes wedi cydnabod bod gwersi i'w dysgu o elfennau'r ffordd yr ymdriniodd Llywodraeth Cymru â'r prosiect, mae hynny'n sicr, ac rydym wedi sefydlu prosesau newydd i fynd i'r afael â'r materion hynny.
Rydym yn derbyn yr angen i gryfhau ein mesurau rheoli er mwyn sicrhau gwerth am arian cyhoeddus. Rhaid i gamau gweithredu fod yn gymesur â'r risg sydd ynghlwm wrth y peth, yn ogystal â bod wedi'u dogfennu'n glir. Er enghraifft, rydym eisoes wedi gweithredu newidiadau i broses ymgeisio am y grant cyllid busnes. Rhaid i ymgeiswyr—mae'n rhaid iddynt bellach—egluro a yw cyllid Llywodraeth Cymru i gael ei dalu i gwmnïau cysylltiedig am nwyddau neu wasanaethau. Mae ymarfer ar y gweill hefyd i ystyried ein mesurau rheoli ar gyfer sicrhau gwerth am arian yn fwy manwl, a rhoddir ystyriaeth i'r prosesau y gellir eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod prosiectau cymhleth yn dangos gwerth am arian lle y caiff gweithgareddau eu caffael. Rhaid nodi y bydd prosesau diwydrwydd dyladwy priodol yn cael eu cyflawni ar unrhyw gwmnïau cysylltiedig a nodwyd yn y cam ymgeisio. A chyda lansio cronfa dyfodol yr economi newydd, adnewyddwyd yr holl ganllawiau ar gyfer swyddogion, a diweddarwyd y canllawiau risg. Hefyd rydym wedi diweddaru ein canllawiau mewnol i sicrhau y cynhwysir yr holl wybodaeth berthnasol y gellid ei hystyried yn newydd, yn ddadleuol neu'n arwyddocaol mewn cyngor gweinidogol a ddarparwyd yn rhan o'r broses gymeradwyo. Rydym hefyd yn derbyn y gellid bod wedi gwneud rhagor o waith ar gam arfarnu'r prosiect cyn cynnwys pryniant FTR o fewn costau cymwys y grant datblygu eiddo. Er mwyn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu, bydd pryniant FTR yn cael ei ddatblygu'n astudiaeth achos i'w defnyddio mewn sesiynau hyfforddi mewnol.
Nawr, nodir canllawiau ar bwysoli risg prosiectau o'r math hwn yn llawlyfr Eurostat ar ddiffygion a dyledion llywodraeth a gynhyrchir gan Drysorlys ei Mawrhydi a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Nawr, rwy'n cydnabod y byddai'n werth i'r canllawiau hyn gael eu gwneud yn gliriach. Felly, i'r perwyl hwnnw, byddwn yn ymgysylltu ag eraill yn y DU a chyda'r ystadegwyr i bwyso arnynt i egluro a symleiddio'r rheolau dosbarthu. Mae'n eglur mai'r ystadegwyr yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Eurostat sy'n gwneud penderfyniadau ffurfiol ar ddosbarthiad. Mae proses y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn un a ddefnyddiwyd gennym yn llwyddiannus ar sawl achlysur, pan fo Gweinidogion am fwrw ymlaen â ffordd benodol o weithredu. Er fy mod yn credu bod ein prosesau mewnol yn gadarn, rwy'n cydnabod y gellid gwella'r prosesau hyn. Rwyf hefyd yn cydnabod na wnaed y defnydd gorau o'r berthynas rhwng swyddogion yng Nghymru a'u cymheiriaid datganoledig ac yn Llywodraeth y DU. Rwy'n hapus i ymrwymo i gamau a fydd yn egluro'r berthynas waith a'r prosesau hynny'n well.
Ddirprwy Lywydd, rhybuddiodd Nick Ramsay yn ystod ei gyfraniad fod yna berygl i dorri corneli pan fo brwdfrydedd gwleidyddion ynglŷn â rhai prosiectau yn tyfu'n ormodol. Mae rhai gwleidyddion yn parhau i fod yn rhyfeddol o gefnogol i'r cynnig a gafodd ei wrthod yn anffodus. Ond os caf ddweud un peth i orffen am brosiectau mawr a ddarparwyd yng Nghymru: achub maes awyr Caerdydd; dyfodiad CAF; Aston Martin Lagonda; yr Athrofa Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch, gyda chyfraniad o £4 biliwn at yr economi leol; y fasnachfraint reilffordd newydd sy'n werth £5 biliwn, a ganmolwyd ledled y DU; y clwstwr o led-ddargludyddion cyfansawdd; Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru—mae pob un o'r rhain yn brosiectau enfawr a gyflawnir gan y Llywodraeth hon.