Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Mae'r adroddiad hwn gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn tynnu sylw at ddiffygion sylweddol ac mewn rhai achosion, at benderfyniadau anesboniadwy ynghylch dull Llywodraeth Cymru o ariannu prosiect Cylchffordd Cymru. Croesawyd y prosiect yn eang, a rhoddai gyfle i adfywio un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd yng Nghymru. Roedd Llywodraeth Cymru yn iawn i ystyried ymarferoldeb y syniad o Gylchffordd Cymru, ond yn eu hawydd i weld y prosiect yn dwyn ffrwyth, gwnaeth swyddogion gamgymeriadau a hepgoriadau sylfaenol ac arfer crebwyll gwael.
Y ffaith amdani yw bod prosiect Cylchffordd Cymru wedi cael ei drefnu'n ofnadwy. Gwastraffwyd miliynau o bunnoedd o arian y trethdalwyr, a chafodd pobl Blaenau Gwent eu gobeithion wedi'u codi yn gyntaf, ac yna'u chwalu gan y modd carbwl yr ymdriniodd Llywodraeth Cymru â'r prosiect hwn. Conglfaen unrhyw ddemocratiaeth effeithiol yw goruchwyliaeth weinidogol, ac eto, yn yr achos hwn, roedd ar goll. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi darlun o adran mewn anhrefn. I bob pwrpas, roedd swyddogion yn rhedeg y sioe ac yn gwneud penderfyniadau allweddol heb gymeradwyaeth weinidogol, ac ymhlith y camgymeriadau amlwg a wnaed gan y swyddogion, roedd y penderfyniad i gymeradwyo pryniant cwmni beiciau modur yn Lloegr. Prynwyd y cwmni, FTR, gydag arian a ddarparwyd gan grant datblygu eiddo Llywodraeth Cymru—grant y gellir ei ddefnyddio i ariannu pryniant tir ac eiddo gan y sector preifat i ysgogi datblygiad economaidd. Defnyddiodd Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd y grant o £300,000 i brynu FTR, sydd bellach wedi mynd i'r wal. Mae Llywodraeth Cymru wedi methu egluro sut y cymeradwywyd y pryniant hwn pan nad oedd yr un o'r rhesymau a nodwyd yn cyd-fynd ag amcanion cymeradwy y cynllun grant datblygu eiddo. Yn wir, nid oes unrhyw dystiolaeth i gadarnhau bod y Gweinidog yn ymwybodol o'r penderfyniad hyd yn oed. Pan godwyd y mater gan yr Aelod Seneddol, cyhoeddwyd datganiad i'r wasg anghywir a chamarweiniol, yn dweud na ddefnyddiwyd unrhyw arian Llywodraeth Cymru i brynu FTR—datganiad i'r wasg a oedd yn tarddu o'r un tîm o swyddogion a oedd yn gyfrifol am gytuno'r gwariant cymwys ac awdurdodi taliad y cais am grant ar gyfer y caffaeliad.
Un enghraifft syfrdanol yw hon o'r nifer o bryderon a fynegwyd gan y pwyllgor ynghylch cadernid y broses o wneud penderfyniadau—pryderon am y seiliau rhesymegol ar gyfer gwahanol benderfyniadau a wnaed gan swyddogion, diffygion wrth gadw cofnodion a thystiolaeth, ar lafar ac yn ysgrifenedig, a oedd yn osgoilyd ym marn y pwyllgor. Mae hyn i gyd yn arwydd o adran allan o reolaeth. Rhaid cymryd camau effeithiol i sicrhau na all hyn ddigwydd eto.
Mae'r pwyllgor yn galw am lywodraethu a sianeli cyfathrebu mewnol cadarn ac effeithiol i warantu nad yw pethau o'r fath yn digwydd eto. Fodd bynnag, ymddengys bod yna ddiwylliant o wobrwyo methiannau. Yn hytrach na gweithredu clir a chadarn gan y Prif Weinidog, methodd roi unrhyw sicrwydd y byddai swyddogion y gwelwyd eu bod yn gyfrifol am fethiannau a nodwyd yn yr adroddiad yn cael eu cosbi. Lywydd, mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir fod Llywodraeth Cymru wedi methu goruchwylio ei buddsoddiad arian cyhoeddus ym mhrosiect Cylchffordd Cymru. Maent wedi methu dangos gwerth am arian y buddsoddiad hwn. Wrth wneud hynny, maent wedi gwneud cam â phobl Blaenau Gwent, a cham mawr ar hynny; maent wedi gwneud cam â'r trethdalwr; maent wedi gwneud cam â Chymru. Diolch yn fawr iawn.