Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Lywydd, diolch ichi am y cyfle i siarad heddiw am ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru i brosiect Cylchffordd Cymru. Roedd cynllun arfaethedig Cylchffordd Cymru yn brosiect unigryw a sylweddol, a oedd i'w weld fel pe bai'n cynnig posibilrwydd o adfywio ardal ddifreintiedig yn economaidd. Fel pwyllgor, rydym wedi cytuno bod Llywodraeth Cymru'n iawn i archwilio posibiliadau ar gyfer gwneud i'r prosiect hwn weithio, ac yn briodol iawn nid swyddogaeth y pwyllgor oedd gwneud sylwadau ar rinweddau penderfyniad y Cabinet yn y pen draw i beidio â darparu'r cymorth cyllid cyhoeddus y gofynnwyd amdano. Rydym yn bryderus iawn, fodd bynnag, ynglŷn â'r ffordd yr aeth Llywodraeth Cymru ati ar y prosiect hwn. Rydym am i Gymru fod yn ddewis cyntaf ar gyfer buddsoddi, ac er mwyn cyflawni hyn mae angen i'r prosesau penderfynu a ddilynir gan y rhai sy'n gyfrifol am wario arian trethdalwyr yn y modd hwn fod yn gydlynol ac wedi'u dogfennu'n briodol.
Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad ar ariannu cychwynnol Cylchffordd Cymru ym mis Ebrill 2017, ac amlygodd ddiffygion sylweddol yn y modd yr ymdriniodd Llywodraeth Cymru â'r prosiect. Darparodd yr adroddiad sylfaen gadarn i'n hymchwiliad, a ymestynnodd y tu hwnt i gwmpas y cyllid cychwynnol i brosesau penderfynu Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynnig terfynol.
Gwelsom fod dull Llywodraeth Cymru o fynd ati ar y prosiect hwn yn un o ddau hanner: gwnaeth Llywodraeth Cymru rai penderfyniadau anesboniadwy yn ystod proses gyllid cychwynnol y prosiect hwn, fel awdurdodi taliad ar gyfer prynu FTR, cwmni beiciau modur yn swydd Buckingham, fel rhan o'r grant datblygu eiddo a fwriadwyd ar gyfer prynu tir yng Nglyn Ebwy. Yna, ar ôl gwneud y penderfyniad cychwynnol i beidio â darparu'r warant y gofynnwyd amdani, dewisodd Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ei chyfiawnhad dros hynny ar fater cyfrifyddu technegol yn hytrach na chrybwyll y diwydrwydd dyladwy cynhwysfawr a gomisiynwyd ganddi. Arweiniodd hyn at ddryswch ymhlith y cyhoedd ac ni wnaeth fawr ddim i hybu hyder yng ngallu'r Llywodraeth i drin arian cyhoeddus yn ddoeth ac yn dda.
Y teimlad cyffredinol oedd gennym, fel pwyllgor, oedd bod y penderfyniad polisi wedi'i wneud i gychwyn i gefnogi'r prosiect ac roedd yn rhaid cyflawni hyn doed a ddêl. Ein rôl ni, fel Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yw gwneud yn siŵr nad yw brwdfrydedd gwleidyddion i gyrraedd pa bynnag nod polisi sydd ganddynt yn arwain at dorri corneli, oherwydd mae hynny'n arwain at wneud penderfyniadau gwael.
Wrth inni symud i ail hanner ein hymchwiliad, buom yn archwilio'r prosesau a arweiniodd at y penderfyniad terfynol i beidio â chytuno i warant Llywodraeth Cymru, a oedd yn hanfodol i sicrhau bod y prosiect yn digwydd. Nawr, sylweddolwn y gall llywodraethau newid eu meddyliau ar benderfyniadau, ac y dylent wneud hynny weithiau, ond mae'n bwysig nad yw prosesau'n cael eu llunio o gwmpas y polisi. Mae yna reswm pam fod prosesau ar gael ar gyfer llywodraethu da: i ddiogelu arian cyhoeddus ac enw da am lywodraethu da ac uniondeb. Mae gennym bryderon difrifol nad oedd Llywodraeth Cymru mor dryloyw a chynhwysfawr ag y gallai fod yn egluro ei phenderfyniad i gyflawni'r hyn a ymddangosai fel tro pedol ar brosiect Cylchffordd Cymru. Mae'n bwysig cofio bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal ei safbwynt cadarnhaol ynglŷn â'r prosiect a'i bod wedi gosod ei meini prawf pendant ei hun ar gyfer gwneud ei phenderfyniad terfynol. Felly roedd hi'n sioc pan wrthododd y Cabinet y prosiect ar yr unfed awr ar ddeg.