Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. A fydd yn pwyso am ganolfan breswyl i fenywod yng Nghymru ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi strategaeth troseddwyr benywaidd newydd ar 27 Mehefin? Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd y cynlluniau i adeiladu pum carchar ar gyfer menywod yn cael eu diddymu. Yn hytrach, ceir pum canolfan breswyl ar gyfer menywod, a chredaf fod hynny'n cyd-fynd yn llwyr â'r newid yn y polisi cyfiawnder ar gyfer menywod y mae llawer ohonom wedi pwyso amdano ers amser hir. Felly, a fydd yn pwyso am adeiladu un o'r canolfannau hynny yng Nghymru?