2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am ar 11 Gorffennaf 2018.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gyfarfod diweddaraf gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder? OAQ52503
Rwy'n cyfarfod ag Edward Argar AS, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder, a Rory Stewart AS, y Gweinidog Gwladol sy'n gyfrifol am garchardai, ddydd Llun nesaf, ar 16 Gorffennaf.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. A fydd yn pwyso am ganolfan breswyl i fenywod yng Nghymru ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi strategaeth troseddwyr benywaidd newydd ar 27 Mehefin? Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd y cynlluniau i adeiladu pum carchar ar gyfer menywod yn cael eu diddymu. Yn hytrach, ceir pum canolfan breswyl ar gyfer menywod, a chredaf fod hynny'n cyd-fynd yn llwyr â'r newid yn y polisi cyfiawnder ar gyfer menywod y mae llawer ohonom wedi pwyso amdano ers amser hir. Felly, a fydd yn pwyso am adeiladu un o'r canolfannau hynny yng Nghymru?
Byddaf yn gwneud hynny. Rwyf wedi dadlau'r achos ar sawl achlysur, ond credaf fod angen i ni fuddsoddi'n sylweddol mewn sefydliadau diogel yng Nghymru. Credaf y byddai unrhyw un sy'n edrych ar yr ystâd fel y mae heddiw yn deall nad yw wedi'i chynllunio ar gyfer anghenion Cymru ac nid yw'n addas at y diben i ddiwallu ein hanghenion heddiw nac yn y dyfodol.
O ran troseddwyr benywaidd, rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod gennym gyfleuster yng Nghymru—canolfan i fenywod sy'n debyg i'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio—i ddarparu cymorth i fenywod ac wrth gwrs, i leihau nifer y menywod yn y system cyfiawnder troseddol. Rydym eisiau i fenywod Cymru gael cyfleusterau diogel i sicrhau eu bod yn cael gofal a chymorth adsefydlu effeithiol. Rydym hefyd eisiau sicrhau ein bod yn gallu lleihau nifer y menywod yn y system. I'r perwyl hwnnw, byddwn yn cefnogi prosiect braenaru i fenywod, sydd wedi'i gynllunio i ddarparu dull integredig, system gyfan, sy'n benodol ar gyfer menywod sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Felly, rydym eisiau gweld dull cyfannol, cynhwysfawr o lunio polisi yng Nghymru sy'n rhoi'r fenyw wrth wraidd y polisi hwnnw yn hytrach na cheisio adeiladu carchar i fenywod nad yw'n diwallu ein hanghenion heddiw nac yn y dyfodol.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.