Cyllido Llywodraeth Leol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Llafur 3:06, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

—£4.1 biliwn er mwyn cynnal a chefnogi'r gwasanaethau cyhoeddus a ddisgrifiwyd ganddi. Nid wyf yn mynd i sefyll yma ac amddiffyn am un eiliad y rhaglen gyni aflwyddiannus yn y DU, ond rwyf am ddweud wrthi nad wyf wedi cyfarfod ag un cynghorydd o unrhyw blaid wleidyddol sydd wedi dweud wrthyf, 'Yr hyn rydym eisiau ei weld yw mwy o bolisïau Ceidwadol a llai o bolisïau Llafur.' Yr hyn rwyf wedi'i glywed gan bob cynghorydd ar draws Cymru gyfan yw diolch am ddiogelu llywodraeth leol rhag y gwaethaf o raglen gyni'r DU.