Pobl Ddigartref

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Llafur 2:29, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn. Wrth gwrs, nid yw'r ddeddfwriaeth ar waith eto; bydd yn amodol ar bleidlais y Cynulliad cyfan yn gynnar y flwyddyn nesaf. Wrth gwrs, roedd yr ymagwedd y ceisiais ei mabwysiadu yn ymagwedd bragmatig, wrth geisio bod yn deg â pherchnogion cartrefi mewn parciau yn ogystal â phreswylwyr cartrefi mewn parciau. Gwn fod y Blaid Geidwadol wedi galw am gael gwared ar ffioedd cartrefi mewn parciau yn gyfan gwbl, a fyddai wedi cael effaith wahanol iawn, yn fy marn i, ar gartrefi mewn parciau.

Mae'r hyn y gallaf ei ddweud ar y mater hwn ar hyn o bryd yn gyfyngedig, gan y deallaf fod bwriad posibl i ddwyn achosion llys. Felly, mae'n debyg mai dyna'r oll a ddywedaf ar y mater heddiw, ac os gallaf ddweud mwy, byddaf yn ysgrifennu atoch.