Pobl Ddigartref

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Ceidwadwyr 2:27, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Weinidog, hoffwn gael gwell dealltwriaeth o sut y mae awdurdodau lleol yn mesur ac yn coladu'r rhesymau dros ddigartrefedd. Fel y gwyddoch, yn fy etholaeth i, mae gennym nifer sylweddol o breswylwyr cartrefi mewn parciau sydd, drwy newidiadau yn y gyfraith a wnaed gan Lywodraeth Cymru, o dan fygythiad o fod yn ddigartref. Nawr, mewn ymateb i lythyr gennyf, fe ddywedoch eich bod eisoes wedi gofyn i'ch swyddogion gysylltu â Chyngor Sir Penfro i siarad am eu hanghenion posibl pe baent yn dod yn ddigartref. Ond hoffwn dynnu sylw at y ffaith eu bod yn bobl oedrannus iawn, maent yn agored iawn i niwed, maent wedi gwario eu holl gynilion ar gartref mewn parc, ac mae'r ffaith eu bod yn wynebu hyn ar yr adeg hon yn eu bywydau yn gwbl warthus.

Tybed pa gamau pellach y gallwch eu rhoi ar waith ar hyn. Gwn eich bod yn gwneud y pwynt, yn eich llythyr ataf, fod gan berchnogion cartrefi mewn parciau hyd at 2019 i ddechrau gwneud addasiadau bach, ond mae rhai o'r cartrefi hyn mewn sefyllfa fregus iawn. Efallai mai sir Benfro yw'r lle cyntaf lle mae'r mater hwn wedi dod i'r amlwg, ond rwy'n bryderus y gall fod cartrefi eraill mewn parciau ledled Cymru sydd ar ymyl clogwyn o ran eu gallu i barhau. Ac os nad ydym yn ofalus, bydd rhan agored iawn i niwed o'n cymdeithas yn ddigartref heb fawr o rybudd ar adeg yn eu bywydau pan fyddant yn ei chael yn anodd iawn ymdopi â hynny. Credaf fod angen inni fabwysiadu ymateb mwy rhagweithiol o ran sut rydym yn ymdrin â chanlyniadau anfwriadol y ddeddfwriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi ar waith.