2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am ar 11 Gorffennaf 2018.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol i bobl ddigartref yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ52495
Mae'r pum awdurdod lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wedi rhoi diwedd ar ddigartrefedd i 2,907 o aelwydydd ac wedi atal digartrefedd yn llwyddiannus i 2,421 o aelwydydd ers cychwyn Deddf Tai (Cymru) 2014. Rydym wedi darparu dros £900,000 yn uniongyrchol i'r awdurdodau lleol hyn y llynedd ar gyfer gwasanaethau digartrefedd yn ychwanegol at y grant cynnal refeniw.
Diolch i'r Gweinidog am ei hateb llawn gwybodaeth. Yn anffodus, mae digartrefedd yng Nghymru wedi bod yn codi'n ddiweddar. Yn 2016-17, y cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan oedd 82 o bobl fesul 10,000 o aelwydydd. Mae hynny'n uwch na'r 52 yn y flwyddyn flaenorol, er y gellir esbonio peth o'r cynnydd hwnnw drwy ddulliau casglu data gwell. Serch hynny, mae'n duedd sy'n peri pryder, a chlywodd pob un ohonom yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet eiliad yn ôl, ac roeddwn yn credu ei fod yn ymateb teimladwy i arweinydd Plaid Cymru. Mae ffigurau sir Gaerfyrddin yn llawer uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol—dynodwyd bod ymhell dros 100 o bobl fesul 10,000 yn ddigartref.
Rwy'n awyddus i ofyn heddiw am un agwedd ar hyn, sef y gyfran o bobl ddigartref sy'n gyn-filwyr. Dywed cyn-filwr a fu ar ddyletswydd yng Ngogledd Iwerddon a phrif weithredwr Veterans Association UK fod 13,000 o gyn-filwyr yn ddigartref yn y DU, ond gallai'r ffigur fod yn uwch. Ni wyddom beth yw'r ffigurau ar gyfer Cymru, ond mae'n deg tybio y bydd nifer eithaf uchel o gyn-filwyr, pobl a fu'n aelodau o'r lluoedd arfog, yn cysgu ar y stryd ac yn ddigartref.
Roedd Carl Sargeant yn ffrind da i'r cyn-filwyr ac roedd yn gyfrifol am welliannau sylweddol yn y ddarpariaeth ar gyfer cyn-filwyr digartref yn arbennig, a thybed felly, a fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet newydd, sy'n rhannu pryderon Carl, rwy'n gwybod, a chi'n benodol, Weinidog, yn ystyried mynd ymhellach na'r cod canllawiau a gyhoeddwyd yn 2016 a rhoi blaenoriaeth tai cymdeithasol i gyn-filwyr a'r rhai sy'n dychwelyd o wasanaeth gweithredol fel cam tuag at sicrhau bod personél y lluoedd arfog yn cael y gwasanaeth ôl-ofal y maent yn ei haeddu.
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â'r duedd ar i fyny mewn digartrefedd sy'n peri cryn bryder, yn enwedig cysgu ar y stryd. Ond credaf y gallwn fod yn falch o'n record mewn perthynas ag atal. Rhoddais rai o'r ffigurau i chi ynghylch y miloedd o bobl sydd wedi elwa o gamau i atal a lleihau digartrefedd yn eich rhanbarth, ac mae'r ffigur ar gyfer Cymru gyfan bellach yn 14,000 o deuluoedd, a chredaf fod hynny'n rhywbeth i'w ddathlu. Gwn fod gwledydd eraill yn edrych ar ein deddfwriaeth yn ofalus iawn i weld beth y gallant ei ddysgu gennym. Serch hynny, cyhyd ag y ceir digartrefedd, a chyhyd ag y bo pobl yn cysgu ar y strydoedd, mae'n amlwg fod angen inni wneud mwy o waith mewn partneriaeth â'r awdurdodau lleol a chyda'n partneriaid eraill.
O ran cymorth ar gyfer pobl sy'n gadael y lluoedd arfog ac ar gyfer cyn-filwyr, gwn fod y llwybr tai wedi bod ar waith ac wedi cael ychydig o lwyddiant, ond rwyf hefyd wedi cael trafodaethau yn ddiweddar â chynrychiolwyr o'r Lleng Brydeinig Frenhinol o ran beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi pobl sy'n gyn-filwyr a hefyd i gynorthwyo pobl sy'n gadael y lluoedd arfog, a'u teuluoedd hefyd, gan eu bod yn aml mewn sefyllfaoedd anodd mewn perthynas â thai, ac o bosibl yn wynebu digartrefedd pan fydd cyplau'n cael ysgariad ac ati. Felly, mae'n ddarlun cymhleth, ond mae'n un rydym yn mynd i'r afael ag ef ac rydym yn awyddus i weld beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi cyn-filwyr.
Weinidog, hoffwn gael gwell dealltwriaeth o sut y mae awdurdodau lleol yn mesur ac yn coladu'r rhesymau dros ddigartrefedd. Fel y gwyddoch, yn fy etholaeth i, mae gennym nifer sylweddol o breswylwyr cartrefi mewn parciau sydd, drwy newidiadau yn y gyfraith a wnaed gan Lywodraeth Cymru, o dan fygythiad o fod yn ddigartref. Nawr, mewn ymateb i lythyr gennyf, fe ddywedoch eich bod eisoes wedi gofyn i'ch swyddogion gysylltu â Chyngor Sir Penfro i siarad am eu hanghenion posibl pe baent yn dod yn ddigartref. Ond hoffwn dynnu sylw at y ffaith eu bod yn bobl oedrannus iawn, maent yn agored iawn i niwed, maent wedi gwario eu holl gynilion ar gartref mewn parc, ac mae'r ffaith eu bod yn wynebu hyn ar yr adeg hon yn eu bywydau yn gwbl warthus.
Tybed pa gamau pellach y gallwch eu rhoi ar waith ar hyn. Gwn eich bod yn gwneud y pwynt, yn eich llythyr ataf, fod gan berchnogion cartrefi mewn parciau hyd at 2019 i ddechrau gwneud addasiadau bach, ond mae rhai o'r cartrefi hyn mewn sefyllfa fregus iawn. Efallai mai sir Benfro yw'r lle cyntaf lle mae'r mater hwn wedi dod i'r amlwg, ond rwy'n bryderus y gall fod cartrefi eraill mewn parciau ledled Cymru sydd ar ymyl clogwyn o ran eu gallu i barhau. Ac os nad ydym yn ofalus, bydd rhan agored iawn i niwed o'n cymdeithas yn ddigartref heb fawr o rybudd ar adeg yn eu bywydau pan fyddant yn ei chael yn anodd iawn ymdopi â hynny. Credaf fod angen inni fabwysiadu ymateb mwy rhagweithiol o ran sut rydym yn ymdrin â chanlyniadau anfwriadol y ddeddfwriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi ar waith.
Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn. Wrth gwrs, nid yw'r ddeddfwriaeth ar waith eto; bydd yn amodol ar bleidlais y Cynulliad cyfan yn gynnar y flwyddyn nesaf. Wrth gwrs, roedd yr ymagwedd y ceisiais ei mabwysiadu yn ymagwedd bragmatig, wrth geisio bod yn deg â pherchnogion cartrefi mewn parciau yn ogystal â phreswylwyr cartrefi mewn parciau. Gwn fod y Blaid Geidwadol wedi galw am gael gwared ar ffioedd cartrefi mewn parciau yn gyfan gwbl, a fyddai wedi cael effaith wahanol iawn, yn fy marn i, ar gartrefi mewn parciau.
Mae'r hyn y gallaf ei ddweud ar y mater hwn ar hyn o bryd yn gyfyngedig, gan y deallaf fod bwriad posibl i ddwyn achosion llys. Felly, mae'n debyg mai dyna'r oll a ddywedaf ar y mater heddiw, ac os gallaf ddweud mwy, byddaf yn ysgrifennu atoch.