10. Dadl Fer: Diogelu dyfodol y Prince Madog: Yr achos dros gael llong ymchwil forwrol genedlaethol i Gymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:03, 11 Gorffennaf 2018

Diolch yn fawr iawn i chi, a diolch am eich amynedd chi a'ch cymorth chi yn wyneb trafferthion cyfrifiadurol.

Mi fydd pobl Môn a glannau'r Fenai yn gyfarwydd iawn efo testun fy nadl i heddiw. Mae llong y Prince Madog a'i rhagflaenydd, y Prince Madog gwreiddiol, wedi bod yn olygfa gyfarwydd iawn, wedi'i rhaffu i bier Porthaethwy ers degawdau. Rwy'n falch o gael ei dangos hi ar y sgriniau o'n cwmpas ni yma yn y Siambr heddiw. Hi ydy'r llong fwyaf i'w gweld yn gyson ar y Fenai, ac i bawb sy'n falch ohoni hi, sy'n gwybod ei bod hi'n symbol o ragoriaeth adran gwyddorau eigion Prifysgol Bangor ym Mhorthaethwy, wel, rwy'n gobeithio y gallaf eich gwneud chi'n fwy balch byth ohoni hi yn y 10 munud nesaf, a'ch perswadio chi o bwysigrwydd y Prince Madog rŵan, a'i photensial cenedlaethol hi mewn blynyddoedd i ddod. Rwy'n edrych ymlaen at ymateb y Llywodraeth, ac a gaf i ddweud hefyd fy mod i wedi cytuno i roi amser i Mark Isherwood ymateb i'm sylwadau i hefyd?

Mi ddechreuwn ni efo rhywfaint o gyd-destun. Yn 34m o hyd, yr RV Prince Madog ydy'r llong ymchwil fwyaf yn y sector addysg uwch ym Mhrydain gyfan. Yn 2001 y cafodd hi ei hadeiladu, ond mae'r buddsoddi sydd wedi bod ynddi hi ers hynny yn golygu ei bod hi'n llong fodern iawn, sy'n gallu ymgymryd efo ystod eang o dasgau ymchwil yn nyfroedd Cymru a thu hwnt o fewn ffiniau'r silff gyfandirol. Mae'n cynnwys offer sonar multibeam ar gyfer mapio safon uchel, neu high resolution. Mae'n cynnwys side-scan sonar ar gyfer morffoleg gwely'r môr, offer proffilio dan wely’r môr, neu sub-bottom profiler, i astudio strwythur gwely’r môr. Mae’n cario offer ADCP ar gyfer mesur cerrynt, CTD i wneud mesuriadau yn y dŵr, ac mae'n cario offer i asesu popeth sy’n byw ar y gwaelod ac yn y golofn ddŵr, o blancton i bysgod. Mae’n gallu gweithio 24 awr y dydd am 10 diwrnod yn ddidor. Ac, ar ben hynny, wrth gwrs, mae gan Brifysgol Bangor y gallu gwyddonol i ddadansoddi a defnyddio’r holl ddata sy’n cael ei gasglu. I grynhoi, mae’r Prince Madog, felly—y llong, ei hoffer, a’r bobl sydd y tu cefn iddi—yr union beth sydd ei angen i astudio moroedd Cymru. Ac mae yna lot i’w astudio.

Mae gennym ni 2,200 km o arfordir. Ond, wrth gwrs, mae’n cyfrifoldebau ni, a chyfrifoldebau’r Llywodraeth, yn ymestyn ymhell tu hwnt i’r arfordir hwnnw—200 milltir. Arwynebedd Cymru—y tir, hynny ydy—ydy rhyw 21,000 km sgwâr, ond mae gennym ni 32,000 km sgwâr o wely môr, ond ychydig iawn o hwnnw yr ydym ni’n ei adnabod yn dda—cyfran fechan iawn ohono fo sydd wedi cael ei hastudio a’i mapio.

Mi gafodd cynllun morol i Gymru ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2015. Hen bryd cael un, mae’n rhaid dweud, ac ynddo mae’n dweud bod ardal forol Cymru’n cynnwys adnoddau naturiol gwerthfawr ac amrywiol a all gynnig cyfleoedd economaidd a chymdeithasol sylweddol ac sy’n cyfrannu at les y genedl a lles cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n ddatganiad rwy’n cytuno’n llwyr ag o, ond, mewn difrif, rydym ni’n gwybod fawr ddim manylion am yr adnoddau yna. Mae’n rhyfeddol cyn lleied o’n gwely môr ni sydd wedi cael ei fapio o ystyried manylder mapio’r tir. Ac mae mapio o’r math yma’n flaenoriaeth ar lefel Undeb Ewropeaidd ers tro. Dyma a ddywedodd comisiynydd dros faterion morwrol a physgodfeydd: