– Senedd Cymru am 6:03 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo—Rhun.
Diolch yn fawr iawn i chi, a diolch am eich amynedd chi a'ch cymorth chi yn wyneb trafferthion cyfrifiadurol.
Mi fydd pobl Môn a glannau'r Fenai yn gyfarwydd iawn efo testun fy nadl i heddiw. Mae llong y Prince Madog a'i rhagflaenydd, y Prince Madog gwreiddiol, wedi bod yn olygfa gyfarwydd iawn, wedi'i rhaffu i bier Porthaethwy ers degawdau. Rwy'n falch o gael ei dangos hi ar y sgriniau o'n cwmpas ni yma yn y Siambr heddiw. Hi ydy'r llong fwyaf i'w gweld yn gyson ar y Fenai, ac i bawb sy'n falch ohoni hi, sy'n gwybod ei bod hi'n symbol o ragoriaeth adran gwyddorau eigion Prifysgol Bangor ym Mhorthaethwy, wel, rwy'n gobeithio y gallaf eich gwneud chi'n fwy balch byth ohoni hi yn y 10 munud nesaf, a'ch perswadio chi o bwysigrwydd y Prince Madog rŵan, a'i photensial cenedlaethol hi mewn blynyddoedd i ddod. Rwy'n edrych ymlaen at ymateb y Llywodraeth, ac a gaf i ddweud hefyd fy mod i wedi cytuno i roi amser i Mark Isherwood ymateb i'm sylwadau i hefyd?
Mi ddechreuwn ni efo rhywfaint o gyd-destun. Yn 34m o hyd, yr RV Prince Madog ydy'r llong ymchwil fwyaf yn y sector addysg uwch ym Mhrydain gyfan. Yn 2001 y cafodd hi ei hadeiladu, ond mae'r buddsoddi sydd wedi bod ynddi hi ers hynny yn golygu ei bod hi'n llong fodern iawn, sy'n gallu ymgymryd efo ystod eang o dasgau ymchwil yn nyfroedd Cymru a thu hwnt o fewn ffiniau'r silff gyfandirol. Mae'n cynnwys offer sonar multibeam ar gyfer mapio safon uchel, neu high resolution. Mae'n cynnwys side-scan sonar ar gyfer morffoleg gwely'r môr, offer proffilio dan wely’r môr, neu sub-bottom profiler, i astudio strwythur gwely’r môr. Mae’n cario offer ADCP ar gyfer mesur cerrynt, CTD i wneud mesuriadau yn y dŵr, ac mae'n cario offer i asesu popeth sy’n byw ar y gwaelod ac yn y golofn ddŵr, o blancton i bysgod. Mae’n gallu gweithio 24 awr y dydd am 10 diwrnod yn ddidor. Ac, ar ben hynny, wrth gwrs, mae gan Brifysgol Bangor y gallu gwyddonol i ddadansoddi a defnyddio’r holl ddata sy’n cael ei gasglu. I grynhoi, mae’r Prince Madog, felly—y llong, ei hoffer, a’r bobl sydd y tu cefn iddi—yr union beth sydd ei angen i astudio moroedd Cymru. Ac mae yna lot i’w astudio.
Mae gennym ni 2,200 km o arfordir. Ond, wrth gwrs, mae’n cyfrifoldebau ni, a chyfrifoldebau’r Llywodraeth, yn ymestyn ymhell tu hwnt i’r arfordir hwnnw—200 milltir. Arwynebedd Cymru—y tir, hynny ydy—ydy rhyw 21,000 km sgwâr, ond mae gennym ni 32,000 km sgwâr o wely môr, ond ychydig iawn o hwnnw yr ydym ni’n ei adnabod yn dda—cyfran fechan iawn ohono fo sydd wedi cael ei hastudio a’i mapio.
Mi gafodd cynllun morol i Gymru ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2015. Hen bryd cael un, mae’n rhaid dweud, ac ynddo mae’n dweud bod ardal forol Cymru’n cynnwys adnoddau naturiol gwerthfawr ac amrywiol a all gynnig cyfleoedd economaidd a chymdeithasol sylweddol ac sy’n cyfrannu at les y genedl a lles cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n ddatganiad rwy’n cytuno’n llwyr ag o, ond, mewn difrif, rydym ni’n gwybod fawr ddim manylion am yr adnoddau yna. Mae’n rhyfeddol cyn lleied o’n gwely môr ni sydd wedi cael ei fapio o ystyried manylder mapio’r tir. Ac mae mapio o’r math yma’n flaenoriaeth ar lefel Undeb Ewropeaidd ers tro. Dyma a ddywedodd comisiynydd dros faterion morwrol a physgodfeydd:
bydd ein menter— menter yr UE— i greu map digidol o wely'r môr holl ddyfroedd Ewrop yn cynyddu lefel y rhagweladwyedd er mwyn i fusnesau fuddsoddi, gan ostwng costau ac ysgogi arloesedd pellach ar gyfer twf glas cynaliadwy.
Ar lefel Ewropeaidd, mae yna feddwl strategol wedi bod ynglŷn â sut i wneud y mapio yna. Ond nid oes yna gynllun wedi’i gydlynu ar gyfer y Deyrnas Unedig—dim cynllun ar gyfer Cymru. Mae’r broses o gasglu data wedi bod yn ad hoc. Nid ydy o wedi cael ei gydlynu’n iawn, ac mae’n rhaid i hynny newid. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni’r adnodd sydd ei angen i wneud y gwaith. Rydym ni’n ei gweld hi ar y sgrin: y Prince Madog.
Felly, beth ydy’r broblem? Wel, mae model cyllido’r llong wedi bod yn effeithiol iawn yn y gorffennol. Mae wedi galluogi i Brifysgol Bangor gael y llong. Mae’n cael ei rhedeg ar y cyd gan y brifysgol a chwmni P&O Marine fel cydberchnogion. Mae’r brifysgol yn defnyddio’r llong ar gyfer ymchwil a dysgu am 125 diwrnod y flwyddyn, ac mae P&O Marine yn chwilio am siarteri ar gyfer gweddill yr amser i wneud y project yn hyfyw a chynaliadwy. Mae wedi bod yn enghraifft ragorol o bartneriaeth rhwng y sector gyhoeddus a’r sector breifat. Ond—a dyma’r rheswm dros y ddadl—nid oes yna addewid y bydd yr adnodd gennym ni ar ôl 2021. Dyna pryd mae’r cytundeb presennol yn dod i ben. Mae yna gwymp sylweddol wedi bod yn y farchnad am wasanaethau masnachol P&O yn defnyddio’r llong arbennig hon, ac mae hynny’n peryglu’r bartneriaeth. Ac fel mae’n edrych ar hyn o bryd, mae’n ymddangos yn annhebygol y bydd P&O yn gallu adnewyddu’r cytundeb. Felly, mae angen ateb amgen. Yr un yr wyf i am ei weld yn digwydd ydy dyrchafu’r Prince Madog o long ymchwil Prifysgol Bangor i statws llong ymchwil forwrol genedlaethol. Ac, yn syml iawn, rydym ni angen un.
Oddi ar arfordir Môn ar hyn o bryd mae yna waith cyffrous iawn yn digwydd o ddatblygu ardal arddangos technolegau cynhyrchu trydan o’r llanw. Beth sy’n gwneud y parth arddangos yn ddeniadol i gwmnïau ynni ydy bod y gwaith paratoi wedi cael ei wneud ar eu cyfer nhw gan Morlais yn barod—nhw sy’n rhedeg y fenter, yn cynnwys yr holl waith mapio a darparu gwybodaeth sydd ei angen arnyn nhw ynglŷn â chyflwr gwely’r môr a lle y cân nhw roi eu peiriannau. Os ydym ni’n wirioneddol o ddifrif am fanteisio i'r eithaf ar y llanw a'r cerrynt sy'n llifo o gwmpas Cymru, i ddod â budd economaidd a budd amgylcheddol hefyd i genedlaethau'r dyfodol, yna rydym ni angen gwneud y gwaith mapio i ddangos beth yn union ydy'r cyfleoedd. Ac os nad ydym ni'n ei wneud o, mae gwledydd eraill am ei wneud o.
Mi soniais i yn gynharach am waith strategol y Comisiwn Ewropeaidd. Gadewch i ni edrych ar beth sy'n digwydd yn y wlad Ewropeaidd agosaf atom ni—ein cymdogion draw yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae ganddyn nhw ddwy long ymchwil genedlaethol yn barod. Mae'r prif un, y Celtic Explorer, yn llong 65m o hyd, wedi'i chomisiynu yn 2003. Yn gynharach eleni, mi ddywedodd Llywodraeth y Weriniaeth eu bod nhw'n bwriadu prynu llong ymchwil newydd i gymryd lle llong arall sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, sef y Celtic Voyager. Mae Iwerddon yn gwybod bod yn rhaid iddyn nhw gael yr adnoddau yma er mwyn iddyn nhw allu manteisio ar eu hadnoddau morol nhw. Mae'r adroddiad 'Harnessing Our Ocean Wealth', a gyhoeddwyd yn ôl yn 2012, yn cynnig strategaeth uchelgeisiol sy'n dangos cymaint mae Iwerddon yn cymryd y cyfleoedd yma o ddifri. Nid ydw i wedi gweld pris ar gyfer y llong newydd—mi gostiodd y Celtic Explorer, o ran diddordeb, rhyw €23 miliwn yn ôl yn 2003.
Yn y Prince Madog, mae gennym mi long yno yn barod, ac mae yno i Gymru, ond ni all Prifysgol Bangor fforddio ei rhedeg hi ei hunan. Mae angen cefnogaeth. Nid degau o filiynau o gyfalaf, ond cefnogaeth, a heb y gefnogaeth honno, nid dim ond Bangor ond Cymru fyddai'n colli'r adnodd rhagorol yma. Nid oes yna'r un brifysgol arall ym Mhrydain yn berchen ar long fel hon. I brifysgol, mae'n adnodd drud iawn, ond i wlad sydd angen buddsoddi yn ei dyfodol, rydym ni'n sôn am symiau cymharol fychan o arian. Dyma ichi enghraifft o sut allai fo weithio, yn cadw partner masnachol, preifat, o bosibl, fel rhan o'r fargen hefyd. O gofio bod yna werth blynyddoedd o waith mapio angen ei wneud—angen ei wneud er lles economaidd Cymru—petasai Llywodraeth Cymru yn dod yn bartner yn y Prince Madog fel llong ymchwil forwrol genedlaethol, a buddsoddi mewn dim ond—beth ddywedwn ni—50 o ddyddiau'r flwyddyn, mi allai hynny fod yn ddigon i achub y llong. Efallai dim ond dechrau byddai hynny—50 o ddyddiau, rhyw £5,000 y dydd, £250,000 y flwyddyn. Dyna'r cyfan rydym ni'n sôn amdano fo, o bosibl, ar gyfer gwaith mapio a allai fod â'r potensial, waeth inni fod yn onest, i ryddhau ac agor y ffordd at werth biliynau o bunnau o brosiectau ynni, yn ogystal â bod yn ffynhonnell gwybodaeth allweddol ym meysydd cadwraeth, twristiaeth, hamdden, pysgodfeydd a chynhyrchiant bwyd.
Mae'n ffordd, byddwn i'n dadlau, gost-effeithiol iawn o ddelifro'r data sydd ei angen at y dyfodol, o ddarparu'r dadansoddiad gwyddonol angenrheidiol, ac, o edrych arno fo fel cymorth i adran gwyddorau eigion o safon fyd-eang, mae hefyd yn fodd o gynnal a chryfhau'r sylfeini ar gyfer ymchwil morwrol yn ei ystyr ehangach, sydd hefyd, wrth gwrs, yn hwb economaidd i Gymru. Mae'r llong yma yn denu myfyrwyr gorau'r byd i Gymru.
I grynhoi, mae ffyniant a buddsoddiad yn yr economi las yng Nghymru yn dibynnu ar ein dealltwriaeth o'r moroedd sydd o'n cwmpas ni. Mi ydym ni mewn sefyllfa freintiedig fod y gallu gennym ni i wneud yr ymchwil yma. Rydym ni'n lwcus bod y Prince Madog yn ein meddiant ni'n barod, ond fiw inni ei chymryd hi yn ganiataol. Ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, mi fydd yna fwy o gyfrifoldebau ar ein hysgwyddau ni dros reoli ein hadnoddau naturiol. Ond i wneud y rheoli yna, mi fydd angen y math o dystiolaeth wyddonol sydd ddim gennym ni ar hyn o bryd. Mae gan Gymru'r gallu i fod yn arweinydd mewn technoleg ynni llif llanw. Mae targedau yn eu lle gan y Llywodraeth ar gyfer cynyddu cynhyrchiant oddi ar ein harfordir o fewn y blynyddoedd nesaf. Ond mae angen gwneud y buddsoddiad mewn cynhyrchu ynni yn hawdd iawn, ac, er mwyn hynny, mae angen data ac mae angen mapio.
Uchelgais yr Undeb Ewropeaidd, fel dywedais i, yw mapio ei holl foroedd. Mae Iwerddon, fel dywedais i, yn buddsoddi yn hyn. Ond nid oes yn dal i fod gan Gymru, ar hyn o bryd, raglen o'r fath, a'r Prince Madog ydy'r allwedd.
Y Prince Madog yw'r allwedd i ymchwil forol Cymru yn y dyfodol. Mae'n allweddol ar gyfer darparu'r wyddoniaeth, darparu'r data, y dystiolaeth, i wneud y mwyaf o'n hadnoddau morol. Rhaid inni fapio ein glannau a gwely'r môr, neu fe gawn ein gadael ar ôl. Lluniwyd y rhan fwyaf o'r delweddau eglur iawn o wely'r môr yng Nghymru hyd yma gan y Prince Madog. Dyma'r llong orau ar gyfer y gwaith. Gwnaethpwyd hynny drwy weithgarwch SEACAMS a ariannwyd gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, ond bydd y gweithgarwch hwnnw'n dod i ben cyn bo hir.
Mae gwledydd eraill yn comisiynu llongau ymchwil newydd, ac mae Iwerddon wedi penderfynu adnewyddu ei fflyd yn ddiweddar. Mae gennym y llong sydd ei hangen arnom yn barod. Byddai buddsoddi a datblygu gweithgareddau morol masnachol yn y dyfodol yn cael hwb sylweddol drwy sefydlu strategaeth genedlaethol ar gyfer casglu data morol a ddatblygir ar y cyd ag asiantaethau a busnesau bach a chanolig, a gallai hyn fod yn seiliedig ar gydnabod y Prince Madog a buddsoddi ynddi fel ein llong ymchwil forol genedlaethol. Mae'n debygol y bydd yr adnodd gwerthfawr hwn fel y mae yn cael ei golli yng Nghymru os na fydd gennym strategaeth genedlaethol o'r fath.
'Tra môr yn fur i'r bur hoff bau'
—cyhyd â bod y môr yno, medd ein hanthem genedlaethol, bydd yn gofalu am ein cenedl hen. Rwy'n aralleirio ychydig. Ond gadewch inni edrych ar ôl, ac edrych i mewn i'n môr fel na wnaethom erioed o'r blaen. Mae gennym blatfform i wneud hynny. Ei henw yw'r Prince Madog. Gallai fod yn llong ymchwil forol genedlaethol i ni.
Ymwelais ag Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor ar y Fenai. Fe holais i Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â hyn ym mis Chwefror, pan ddywedais:
'Mae arolygu a mapio gwely'r môr yn hanfodol bwysig i'n heconomi. Mae Iwerddon eisoes wedi rhoi camau ar waith ar hyn. Mae'r UE yn dechrau gwneud hynny bellach hefyd. Mae perygl y bydd Cymru a'r DU ar ei hôl hi yn hyn o beth. Llong ymchwil Prifysgol Bangor, y Prince Madog, yw'r llong ymchwil gwely'r môr fwyaf yn y DU sy'n eiddo i brifysgol, ac mae'n allweddol i'n heconomi ac i'r gwaith o reoli pysgodfeydd wrth inni edrych at y dyfodol. Ond ni fydd yn cael ei ariannu wedi 2020. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, felly, i sicrhau cyllid hanfodol a chynaliadwy yn y dyfodol, ac i ymgorffori ymchwil gwely'r môr mewn cynllun strategol cenedlaethol?'
Atebodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei bod yn
'ymwybodol fod Prifysgol Bangor yn awyddus i nodi gwaith gwyddonol strategol ar gyfer y Prince Madog yn y dyfodol' ond, dywedodd:
'Mae'n fater masnachol ar gyfer y prifysgolion a sefydliadau eraill yn y consortiwm' felly ni allai roi unrhyw sylw pellach. Wel, dywedodd yr Ysgol Gwyddorau Eigion wrthyf, er bod y llong mewn cydberchnogaeth ac yn cael ei rhedeg ar y cyd, bydd arian Llywodraeth Cymru a datblygu cynllun strategol cenedlaethol yn y dyfodol yn hollbwysig. Felly, rydym yn sôn am ased strategol cenedlaethol allweddol, nid trafodaethau preifat neu fasnachol sensitif. Gobeithiaf, felly, y bydd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn awr yn fwy ystyriol o'r bygythiad, ond hefyd o'r cyfle rydym yn ei drafod yn awr.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl? Lesley Griffiths.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o ymateb i'r ddadl fer hon ynghylch y Prince Madog a gyflwynwyd gan Rhun ap Iorwerth, a hefyd i gael cyfle i drafod y rhan o fy mhortffolio sy'n ymwneud â'r môr, testun nad wyf yn meddwl ein bod yn trafod digon arno yn y Siambr hon o bosibl.
Rydym i gyd yn rhannu ymrwymiad i foroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol ac amrywiol yn fiolegol. Golyga hyn fod y Llywodraeth yn gweithio gyda'n holl randdeiliaid i gael tystiolaeth gadarn er mwyn gallu cael asesiad deallus a chyfunol o gyflwr ein moroedd. Fel y nododd Rhun, credaf y bydd yr ymchwil yn bwysicach byth wrth inni adael yr UE a chynllunio sut rydym yn rheoli cyflwr a defnydd o'n moroedd yn y dyfodol.
Rwyf ar hyn o bryd yn ystyried yr ymatebion i'n cynllun morol cyntaf ac mae'n nodi ein polisïau a'n rheolaeth forol, a fydd yn seiliedig ar dystiolaeth dda. Mae'r Llywodraeth eisoes yn rhan o amrywiaeth o raglenni gwaith i fonitro ac asesu'r môr, gan gynnwys cyflawni statws amgylcheddol da drwy strategaeth forol y DU. Mae'r rhaglenni hyn yn bodoli i ddarparu'r dystiolaeth i ddeall ac ymateb i iechyd, cyflwr, cynhyrchiant a gwydnwch moroedd Cymru. Maent hefyd yn darparu dealltwriaeth o'r pwysau allweddol ar ecosystemau morol a'r rhyngweithio a geir â gweithgaredd dynol.
Mae meysydd blaenoriaeth penodol ar gyfer casglu data yn cynnwys data ar fioamrywiaeth mewn ardaloedd morol gwarchodedig ac yn yr amgylchedd morol ehangach, data biolegol a data glanio ar gyfer stociau a ddaliwyd gan bysgodfeydd masnachol a hamdden, data i asesu effaith gweithgareddau dynol ar yr ecosystem forol, data manwl ar gapasiti a gweithgarwch pysgota a data cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar bysgodfeydd a dyframaeth.
Wrth ddatblygu polisi, rydym hefyd yn ystyried tystiolaeth a gyflwynwyd drwy 'Adroddiad Tystiolaeth Morol Cymru', yr 'Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol' ar gyfer Cymru a'r porth tystiolaeth cynllunio morol ar-lein. Rydym hefyd yn comisiynu ac yn cefnogi gwaith ymchwil wedi'i dargedu ar amrywiaeth eang o bynciau morol. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae hyn wedi cynnwys adroddiadau ar reolaeth a chyflwr ardaloedd morol gwarchodedig, adolygiadau o garthu agregau, asesu effeithiau gweithgareddau pysgodfeydd, astudiaethau treillio am gregyn bylchog ac asesiadau o botensial dyframaethu. Hefyd mae gennym gryn dipyn o weithgaredd pellach sy'n gysylltiedig â thystiolaeth ar y gweill neu wedi'i gynllunio, ac mae rhai o'r enghreifftiau'n cynnwys datblygu rhaglen fonitro bioamrywiaeth forol newydd, amrywiol astudiaethau dyframaeth, ac ymchwil ar ddatblygu ynni morol.
Gyda golwg ar adael yr UE yn fuan ar ôl y refferendwm, sefydlais grŵp bwrdd crwn o randdeiliaid cynrychioliadol i ofyn am eu help i nodi a deall yr heriau a'r cyfleoedd posibl y mae Brexit yn eu cynnig i Gymru. Mae is-grŵp y moroedd a'r arfordir, a ffurfiwyd o aelodau o'r bwrdd crwn a grŵp cynghori a gweithredu presennol Cymru ar faterion morol, wedi helpu i roi ffocws ar ein hystyriaeth o Brexit a'n moroedd. [Torri ar draws.]
Mae'n ddrwg gennyf am hyn. Diolch yn fawr iawn.
Felly, mae'r aelodau wedi gweithio gyda mi a gweddill y Llywodraeth i lunio'r pum thema allweddol i weithio tuag atynt wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd i arwain ein datblygiadau polisi ymhellach, ac un o'r themâu hyn yw sefyll ar ein traed ein hunain drwy wella ein gallu mewn gwyddoniaeth forol a chasglu data. Felly, mae gweithio gyda'r byd academaidd ar lefel strategol a gweithredol yn bendant yn elfen bwysig o'n gwaith ymchwil, ac mae Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor wedi bod yn bartner gwerthfawr iawn i ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
O gymharu â'r amgylchedd ar y tir, weithiau mae'r dystiolaeth ar statws yr amgylchedd morol ac effaith gweithgareddau dynol arno'n brin, a gall tystiolaeth o'r fath fod yn gostus a heriol yn dechnegol i'w chasglu, a dyna pam rwy'n deall y gall cychod ymchwil fel y Prince Madog chwarae rôl bwysig. Credaf fod y pwynt a wnaeth Rhun ap Iorwerth am beidio â cholli ased mor werthfawr yn bwysig iawn.
Felly, yn y lle cyntaf, yr hyn rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ei wneud yw cyfarfod â Phrifysgol Bangor i weld pa broblemau y maent yn eu hwynebu, ac i weld sut y gallwn helpu. Hoffwn innau ymweld â hwy hefyd er mwyn i mi gael llun ohonof ar y llong fel Rhun. Clywais eich galwad am statws llong forol genedlaethol. Mae'n rhywbeth y mae angen inni edrych arno wrth gwrs. Unwaith eto, ynglŷn â chyllid, yn amlwg ni allaf ymrwymo, ond buaswn yn hapus iawn i gael y trafodaethau hynny gyda hwy. Yn ystod sesiwn cwestiynau llafar y Cynulliad y prynhawn yma, dywedais wrth Rhun fod Ynys Môn yn tyfu'n ganolbwynt go iawn ar gyfer ynni llanw, ac rwy'n meddwl bod y rhan honno o ogledd-orllewin Cymru yn dod yn bwysicach byth i'r rhan o fy mhortffolio sy'n ymwneud â'r môr.
Felly, buaswn yn hapus iawn i wneud hynny, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Rhun a'r Aelodau eraill maes o law. Diolch.
Diolch. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr iawn.