10. Dadl Fer: Diogelu dyfodol y Prince Madog: Yr achos dros gael llong ymchwil forwrol genedlaethol i Gymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:07 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:07, 11 Gorffennaf 2018

Ar lefel Ewropeaidd, mae yna feddwl strategol wedi bod ynglŷn â sut i wneud y mapio yna. Ond nid oes yna gynllun wedi’i gydlynu ar gyfer y Deyrnas Unedig—dim cynllun ar gyfer Cymru. Mae’r broses o gasglu data wedi bod yn ad hoc. Nid ydy o wedi cael ei gydlynu’n iawn, ac mae’n rhaid i hynny newid. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni’r adnodd sydd ei angen i wneud y gwaith. Rydym ni’n ei gweld hi ar y sgrin: y Prince Madog.

Felly, beth ydy’r broblem? Wel, mae model cyllido’r llong wedi bod yn effeithiol iawn yn y gorffennol. Mae wedi galluogi i Brifysgol Bangor gael y llong. Mae’n cael ei rhedeg ar y cyd gan y brifysgol a chwmni P&O Marine fel cydberchnogion. Mae’r brifysgol yn defnyddio’r llong ar gyfer ymchwil a dysgu am 125 diwrnod y flwyddyn, ac mae P&O Marine yn chwilio am siarteri ar gyfer gweddill yr amser i wneud y project yn hyfyw a chynaliadwy. Mae wedi bod yn enghraifft ragorol o bartneriaeth rhwng y sector gyhoeddus a’r sector breifat. Ond—a dyma’r rheswm dros y ddadl—nid oes yna addewid y bydd yr adnodd gennym ni ar ôl 2021. Dyna pryd mae’r cytundeb presennol yn dod i ben. Mae yna gwymp sylweddol wedi bod yn y farchnad am wasanaethau masnachol P&O yn defnyddio’r llong arbennig hon, ac mae hynny’n peryglu’r bartneriaeth. Ac fel mae’n edrych ar hyn o bryd, mae’n ymddangos yn annhebygol y bydd P&O yn gallu adnewyddu’r cytundeb. Felly, mae angen ateb amgen. Yr un yr wyf i am ei weld yn digwydd ydy dyrchafu’r Prince Madog o long ymchwil Prifysgol Bangor i statws llong ymchwil forwrol genedlaethol. Ac, yn syml iawn, rydym ni angen un.

Oddi ar arfordir Môn ar hyn o bryd mae yna waith cyffrous iawn yn digwydd o ddatblygu ardal arddangos technolegau cynhyrchu trydan o’r llanw. Beth sy’n gwneud y parth arddangos yn ddeniadol i gwmnïau ynni ydy bod y gwaith paratoi wedi cael ei wneud ar eu cyfer nhw gan Morlais yn barod—nhw sy’n rhedeg y fenter, yn cynnwys yr holl waith mapio a darparu gwybodaeth sydd ei angen arnyn nhw ynglŷn â chyflwr gwely’r môr a lle y cân nhw roi eu peiriannau. Os ydym ni’n wirioneddol o ddifrif am fanteisio i'r eithaf ar y llanw a'r cerrynt sy'n llifo o gwmpas Cymru, i ddod â budd economaidd a budd amgylcheddol hefyd i genedlaethau'r dyfodol, yna rydym ni angen gwneud y gwaith mapio i ddangos beth yn union ydy'r cyfleoedd. Ac os nad ydym ni'n ei wneud o, mae gwledydd eraill am ei wneud o.

Mi soniais i yn gynharach am waith strategol y Comisiwn Ewropeaidd. Gadewch i ni edrych ar beth sy'n digwydd yn y wlad Ewropeaidd agosaf atom ni—ein cymdogion draw yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae ganddyn nhw ddwy long ymchwil genedlaethol yn barod. Mae'r prif un, y Celtic Explorer, yn llong 65m o hyd, wedi'i chomisiynu yn 2003. Yn gynharach eleni, mi ddywedodd Llywodraeth y Weriniaeth eu bod nhw'n bwriadu prynu llong ymchwil newydd i gymryd lle llong arall sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, sef y Celtic Voyager. Mae Iwerddon yn gwybod bod yn rhaid iddyn nhw gael yr adnoddau yma er mwyn iddyn nhw allu manteisio ar eu hadnoddau morol nhw. Mae'r adroddiad 'Harnessing Our Ocean Wealth', a gyhoeddwyd yn ôl yn 2012, yn cynnig strategaeth uchelgeisiol sy'n dangos cymaint mae Iwerddon yn cymryd y cyfleoedd yma o ddifri. Nid ydw i wedi gweld pris ar gyfer y llong newydd—mi gostiodd y Celtic Explorer, o ran diddordeb, rhyw €23 miliwn yn ôl yn 2003.

Yn y Prince Madog, mae gennym mi long yno yn barod, ac mae yno i Gymru, ond ni all Prifysgol Bangor fforddio ei rhedeg hi ei hunan. Mae angen cefnogaeth. Nid degau o filiynau o gyfalaf, ond cefnogaeth, a heb y gefnogaeth honno, nid dim ond Bangor ond Cymru fyddai'n colli'r adnodd rhagorol yma. Nid oes yna'r un brifysgol arall ym Mhrydain yn berchen ar long fel hon. I brifysgol, mae'n adnodd drud iawn, ond i wlad sydd angen buddsoddi yn ei dyfodol, rydym ni'n sôn am symiau cymharol fychan o arian. Dyma ichi enghraifft o sut allai fo weithio, yn cadw partner masnachol, preifat, o bosibl, fel rhan o'r fargen hefyd. O gofio bod yna werth blynyddoedd o waith mapio angen ei wneud—angen ei wneud er lles economaidd Cymru—petasai Llywodraeth Cymru yn dod yn bartner yn y Prince Madog fel llong ymchwil forwrol genedlaethol, a buddsoddi mewn dim ond—beth ddywedwn ni—50 o ddyddiau'r flwyddyn, mi allai hynny fod yn ddigon i achub y llong. Efallai dim ond dechrau byddai hynny—50 o ddyddiau, rhyw £5,000 y dydd, £250,000 y flwyddyn. Dyna'r cyfan rydym ni'n sôn amdano fo, o bosibl, ar gyfer gwaith mapio a allai fod â'r potensial, waeth inni fod yn onest, i ryddhau ac agor y ffordd at werth biliynau o bunnau o brosiectau ynni, yn ogystal â bod yn ffynhonnell gwybodaeth allweddol ym meysydd cadwraeth, twristiaeth, hamdden, pysgodfeydd a chynhyrchiant bwyd.

Mae'n ffordd, byddwn i'n dadlau, gost-effeithiol iawn o ddelifro'r data sydd ei angen at y dyfodol, o ddarparu'r dadansoddiad gwyddonol angenrheidiol, ac, o edrych arno fo fel cymorth i adran gwyddorau eigion o safon fyd-eang, mae hefyd yn fodd o gynnal a chryfhau'r sylfeini ar gyfer ymchwil morwrol yn ei ystyr ehangach, sydd hefyd, wrth gwrs, yn hwb economaidd i Gymru. Mae'r llong yma yn denu myfyrwyr gorau'r byd i Gymru.

I grynhoi, mae ffyniant a buddsoddiad yn yr economi las yng Nghymru yn dibynnu ar ein dealltwriaeth o'r moroedd sydd o'n cwmpas ni. Mi ydym ni mewn sefyllfa freintiedig fod y gallu gennym ni i wneud yr ymchwil yma. Rydym ni'n lwcus bod y Prince Madog yn ein meddiant ni'n barod, ond fiw inni ei chymryd hi yn ganiataol. Ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, mi fydd yna fwy o gyfrifoldebau ar ein hysgwyddau ni dros reoli ein hadnoddau naturiol. Ond i wneud y rheoli yna, mi fydd angen y math o dystiolaeth wyddonol sydd ddim gennym ni ar hyn o bryd. Mae gan Gymru'r gallu i fod yn arweinydd mewn technoleg ynni llif llanw. Mae targedau yn eu lle gan y Llywodraeth ar gyfer cynyddu cynhyrchiant oddi ar ein harfordir o fewn y blynyddoedd nesaf. Ond mae angen gwneud y buddsoddiad mewn cynhyrchu ynni yn hawdd iawn, ac, er mwyn hynny, mae angen data ac mae angen mapio.

Uchelgais yr Undeb Ewropeaidd, fel dywedais i, yw mapio ei holl foroedd. Mae Iwerddon, fel dywedais i, yn buddsoddi yn hyn. Ond nid oes yn dal i fod gan Gymru, ar hyn o bryd, raglen o'r fath, a'r Prince Madog ydy'r allwedd.