Tlodi Tanwydd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Ceidwadwyr 1:54, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl ym mis Mai, gofynnais i chi a oedd cynlluniau fel Arbed a Nyth wedi cyfrannu at nifer y pympiau gwres o'r ddaear a phympiau gwres o'r aer sydd wedi'u gosod yng Nghymru, ac a gaf fi ddiolch i chi am ysgrifennu ataf gyda mwy o wybodaeth ar hynny? Roeddwn yn synnu braidd wrth weld o'ch llythyr, fodd bynnag, mai naw pwmp gwres o'r aer yn unig a osodwyd drwy Nyth yn y chwe blynedd hyd at 2017 yn fy rhanbarth i. Felly, mae hynny dros chwe blynedd—naw yn unig. Ac mae'r llythyr yn mynd ymlaen i ddweud na fu pympiau gwres o'r ddaear erioed yn fesur a gytunwyd ar gyfer cartrefi o dan Nyth neu Arbed. Os ydych yn mynd i wneud gwahaniaeth go iawn i deuluoedd yng Nghymru, ac yn amlwg, o ran torri allyriadau carbon, oni ddylai'r ffigurau hyn fod ychydig bach yn uwch bellach?