Tlodi Tanwydd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 1:53, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, bydd yr Aelod yn gwybod—fel y dywedwch, rydych wedi codi hyn gyda mi sawl gwaith mewn gohebiaeth a chawsom ddadl dda iawn yn y Siambr, ddiwedd y llynedd, rwy'n credu, ynghylch y mater hwn—fod yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl yn gorff annibynnol. Maent yn darparu gwarantau 25 mlynedd ar gyfer deunydd inswleiddio waliau ceudod a osodir gan osodwyr cofrestredig yn y DU ac Ynysoedd y Sianel. Fe fyddwch yn ymwybodol fod yr holl osodwyr yn cael eu hasesu i sicrhau eu cymhwysedd ac mae'n rhaid iddynt ddilyn canllawiau technegol ar gyfer y deunydd a ddefnyddir a'r canllawiau arferion gorau. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, gan fy mod yn ymwybodol o'r pryderon a fu, ac mae'n bwysig iawn fod pobl yn gallu cael mynediad at y cyngor gorau ac yn eu dwyn i gyfrif, a byddaf yn parhau i wneud hynny.