Is-ddeddfwriaeth

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 2:08, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Mae David Melding yn nodi bod yr ymgynghoriad yn cynnig newidiadau deddfwriaethol i helpu i atal newid defnydd neu ddymchwel tafarn heb gael caniatâd cynllunio yn gyntaf. Yn sicr, pan ddaw'r ymgynghoriad i ben—rwyf wedi ymestyn yr ymgynghoriad am oddeutu pum wythnos, rwy'n credu—gallwn weld a fydd cynigion o'r fath yn cael eu cyflwyno.