Is-ddeddfwriaeth

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Ceidwadwyr 2:07, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi groesawu'r rhan honno o'r ymgynghoriad sy'n cynnig ailstrwythuro'r system dosbarth defnydd i ddarparu mwy o amddiffyniadau i dafarndai mewn ffordd debyg i'r hyn a wneir yn Lloegr? Rydym wedi colli oddeutu 17 y cant o'n tafarndai ers y flwyddyn 2000. Yn Lloegr, ceir amddiffyniadau pellach yn y system gynllunio lle rhoddir saib ar y broses o gael gwared ar asedau sydd o werth i'r gymuned, cynllun sy'n fwy adnabyddus fel hawl y gymuned i brynu. A ydych o'r farn y dylid cyflwyno system debyg yng Nghymru fel rhan o'r cynllun hwn?