Tlodi Tanwydd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 1:56, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda'r Gweinidog Tai ac Adfywio ynghylch y mater hwn, yn enwedig mewn perthynas â'n targedau datgarboneiddio, oherwydd, yn amlwg, mae hwn yn un maes a fydd o gymorth inni gyflawni ein targedau. Rydych yn llygad eich lle; mae gan rai cynghorau arferion gorau go iawn yn y maes hwn. Ynglŷn ag a ddylem fod yn eu gorfodi i wneud pethau sy'n gwneud tai yn fwy cynaliadwy cyn rhoi grantiau iddynt, ni chredaf ein bod wedi cael trafodaethau penodol ynglŷn â hynny, ond mae'n rhywbeth rwy'n fwy na pharod i edrych arno gyda hi.