Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Ceidwadwyr 1:39, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am y dehongliad hwnnw, er ei bod yn ymddangos, yn sicr, wrth ddarllen yr ymgynghoriad ac wrth ddarllen rhywfaint o ddyfalu yn y wasg, fod y diffiniad ychydig yn ehangach na hynny, ac y gellid dehongli y gall cwmnïau mawr, er enghraifft, a chanddynt ddaliadau tir—Tata Steel, er enghraifft, neu awdurdodau lleol a allai fod yn awyddus i ofalu am barciau neu leiniau neu beth bynnag—sy'n bodloni'r nodau amgylcheddol gael gafael ar rywfaint o'r arian hwn sydd, yn hanesyddol, o dan y polisi amaethyddol cyffredin, bob amser wedi bod ar gael i rywun sydd â rhif daliad neu gyfeirnod cwsmer. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallech ymhelaethu ar y dehongliad o bwy y credwch sy'n rheolwr tir. A fyddai cyrff cyhoeddus o'r fath, fel yr amlinellais, neu gwmnïau preifat yn gymwys i gael peth o'r arian hwn y byddai Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, oherwydd os felly, byddai hynny'n newid cyfeiriad llwyr o'r hyn y mae'r polisi amaethyddol cyffredin, yn hanesyddol, wedi'i ddarparu yn ôl i amaethyddiaeth Cymru?