Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 1:39, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn groesawu Andrew R.T. Davies i'w swydd newydd. Edrychaf ymlaen yn fawr at eich cael yn fy nghysgodi. Rydych bob amser yn disgrifio'ch hun fel 19 stôn o gig eidion gorau Cymru, felly rwy'n siŵr y cawn ychydig o hwyl gyda hynny hefyd. Felly, croeso i'ch portffolio.

Sut rwy'n diffinio rheolwr tir? Buaswn yn dweud ffermwyr a choedwigwyr, ond wrth gwrs, mae mwyafrif ein rheolwyr tir yng Nghymru yn ffermwyr.