Is-ddeddfwriaeth

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 2:05, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae'r ymgynghoriad, sy'n cael ei lywio gan ymchwil, yn cynnig diweddaru'r Gorchymyn dosbarthiadau defnydd, yn enwedig at ddefnydd manwerthu. Mae'n cynnwys newidiadau ategol i hawliau datblygu a ganiateir ac yn argymell hawliau newydd i gefnogi'r broses o gyflwyno pwyntiau gwefru ceir trydan, rhwydweithiau telathrebu'r genhedlaeth nesaf a datblygu ynni adnewyddadwy, heb fod angen cais cynllunio.