Tlodi Tanwydd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Llafur 1:52, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod y gwaith da sydd wedi bod yn digwydd ar leihau tlodi tanwydd a'r camau sy'n cael eu cymryd i insiwleiddio tai yn benodol. Ond wrth gwrs, ceir problem gyda hynny. Mae llawer o fy etholwyr wedi wynebu heriau inswleiddio waliau ceudod. Maent wedi mynd drwy'r rhaglenni, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, gyda busnesau'n dod i mewn, yn gwerthu eu cynnyrch, yn gwneud y gwaith yn y bôn, ac yna gwelant fod ganddynt broblemau yn nes ymlaen. Ac wrth gwrs, dylai CIGA, yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl, ddiogelu rhag yr holl broblemau hyn. Pa un a ydych yn byw yn Llansawel, Port Talbot, Cymer, Croeserw, Gwynfi—ni waeth ymhle, ceir problemau gyda CIGA. Rwyf wedi tynnu eich sylw at hyn eisoes. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod CIGA yn cyflawni eu rhwymedigaethau ac yn darparu gwarantau i'r bobl hynny?