Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Ceidwadwyr 1:38, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd; cefais fy ailymgnawdoli yn llefarydd materion gwledig. [Chwerthin.]

Hoffwn ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni'r ymgynghoriad a lansiwyd gennych ddoe—yr ymgynghoriad pwysig iawn a lansiwyd gennych ddoe—beth yw eich diffiniad o 'reolwr tir'? Un o'r pum egwyddor rydych wedi'u tanlinellu yw, o dan unrhyw gynlluniau newydd a allai gael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, fod angen iddynt fod yn hygyrch i bawb. Felly, mae'n bwysig deall beth fyddai'r meini prawf i'w gwneud yn hygyrch. Felly, beth yw rheolwr tir yn eich barn chi?