Tlodi Tanwydd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 1:55, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Credaf, yn sicr, fod angen inni edrych ar dechnolegau newydd a datblygiadau arloesol newydd yn y dyfodol, ac rydym newydd gwblhau'r broses gaffael ar gyfer cam nesaf ein rhaglen Cartrefi Clyd. Bûm gerbron y pwyllgor amgylchedd yr wythnos diwethaf, gyda fy nghyd-Ysgrifennydd Rebecca Evans, mewn perthynas â gwaith yn y maes hwn, a chredaf y byddai'n dda pe gallem weld cynnydd yn y niferoedd hyn. Byddaf yn sicr yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth symud ymlaen.