Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 1:42, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Mewn perthynas ag ansefydlogrwydd, yn amlwg, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ar hynny. Credaf eich bod yn gwneud pwynt perthnasol iawn—nid ydym wedi gweld y math hwn o dywydd ers dros 30, 40 mlynedd. Felly, credaf ei bod yn bwysig sicrhau ein bod yn helpu busnesau gyda'u cynlluniau busnes mewn perthynas ag ansefydlogrwydd.

Gan ddychwelyd at y cwestiwn blaenorol ar y cynllun nwyddau cyhoeddus, rwy'n cydnabod bod llawer iawn o'n ffermwyr yn darparu nwyddau cyhoeddus ar y funud heb gael eu talu amdanynt a chredaf fod hynny'n anghywir. Rydym yn rhoi gwerth aruthrol ar ein nwyddau cyhoeddus yng Nghymru ac rwy'n awyddus i sicrhau bod hynny'n cael ei gydnabod, wrth fwrw ymlaen gyda'r cynlluniau.