Ynni'r Môr yn Ngogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 1:36, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Credaf fod Ynys Môn yn sicr yn dod yn ganolbwynt bellach ar gyfer datblygu ffrydiau llanw, ac rwy'n credu, unwaith eto, wrth edrych ar ddatblygu ynni'r llanw, fod angen inni sicrhau ein bod yn cael cefnogaeth gan Lywodraeth y DU, ac rwyf wedi ysgrifennu eto at Greg Clark yn dilyn y cyhoeddiad siomedig iawn am forlyn llanw bae Abertawe.

I ateb eich cwestiwn penodol iawn ynglŷn â'r arian a neilltuwyd gennym—y £200 miliwn—rwyf wedi cael trafodaethau cynnar ynglŷn â'r posibilrwydd o allu defnyddio'r arian hwnnw ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy eraill. Fe fyddwch yn ymwybodol y byddwn yn cynnal cynhadledd ynni'r môr yn hwyrach yn y flwyddyn, felly credaf y bydd y ddau beth yn mynd law yn llaw, ond mae'n rhywbeth rwy'n fwy na pharod i'w archwilio. Rwyf innau wedi ymweld â Morlais, felly rwy'n ymwybodol iawn o'r prosiect a'r manteision sylweddol y gallai eu darparu.