Part of the debate – Senedd Cymru am ar 3 Gorffennaf 2018.
Cynnig NDM6755 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru o’r enw ‘Implications of Brexit for Fishing opportunities in Wales’.
2. Yn cydnabod yr heriau sylweddol ac unigryw sydd ynghlwm wrth Brexit o safbwynt diwydiant pysgota ac amgylchedd morol Cymru.
3. Yn cefnogi’r themâu allweddol canlynol a bennwyd gan yr is-grŵp moroedd ac arfordiroedd:
a) cynllunio i wneud y defnydd gorau o’n moroedd;
b) sicrhau stiwardiaeth effeithiol o’n hamgylchedd morol a’n hadnoddau naturiol;
c) parhau i fod yn bartneriaid cyfrifol wrth reoli moroedd a physgodfeydd y DU;
d) sicrhau bargen fwy teg ar gyfer y diwydiant pysgota; ac
e) bod yn annibynnol.
4. Yn ailddatgan ei gefnogaeth dros fynediad llawn a dirwystr i farchnad sengl yr UE, gan gynnwys ar gyfer bwyd a physgodfeydd.
5. Yn credu bod angen sicrhau llais cryf ar gyfer Cymru yn nhrafodaethau masnach yn sgil Brexit.
6. Yn nodi pwysigrwydd pysgota i fywoliaeth gynaliadwy cymunedau arfordirol Cymru.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i neilltuo mwy o adnoddau ar gyfer pysgodfeydd a’r amgylchedd morol.